Cyfreithiwr blaenllaw i arwain yr adran gyfraith gyntaf i’w sefydlu yng Nghymru

Bydd yr Athro Emyr Lewis yn dechrau ar ei swydd fel Pennaeth y Gyfraith a Throseddeg ym Mhrifysgol Aberystwyth ym mis Medi 2019.

Bydd yr Athro Emyr Lewis yn dechrau ar ei swydd fel Pennaeth y Gyfraith a Throseddeg ym Mhrifysgol Aberystwyth ym mis Medi 2019.

15 Mai 2019

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi cyhoeddi penodiad y cyfreithiwr blaenllaw, Emyr Lewis, fel Pennaeth Adran y Gyfraith a Throseddeg.

Bydd yr Athro Lewis yn dechrau ar ei rôl newydd ym mis Medi 2019.

Mae'r Athro Lewis wedi bod yn ymarfer fel cyfreithiwr ers dros 35 mlynedd ac mae wedi gweithio i’r un cwmni ers 1982, gan ddechrau fel cyw gyfreithiwr yn Morgan Bruce a Nicholas yng Nghaerdydd a’i ddyrchafu maes o law yn Uwch Bartner Cymru gyda’r cwmni a elwir bellach yn Blake Morgan LLP.

Mae’n arbenigwr mewn cyfraith fasnachol a chyhoeddus, ac ymysg y rhai y mae wedi eu cynghori mae Llywodraeth Cymru ac adrannau Llywodraeth San Steffan.

Gwasanaethodd hefyd fel Cynrychiolydd y DU ar Bwyllgor Arbenigwyr Cyngor Ewrop o dan y Siarter Ewropeaidd ar gyfer Ieithoedd Rhanbarthol a Lleiafrifol (2001-2013).

Tra'n parhau i weithio fel cyfreithiwr, bu’n dal swydd ran-amser Uwch Gymrawd yng Nghyfraith Cymru yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd (2011-2014) lle trawsnewidiodd addysgu'r gyfraith ar ddatganoli.

Bu’n aelod o Bwyllgor Archwilio Prifysgol Aberystwyth ac ar hyn o bryd, mae’n aelod annibynnol o Fwrdd Llywodraethu Prifysgol De Cymru.

Dywedodd yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: “Mae'n bleser gennyf benodi aelod o'r proffesiwn cyfreithiol sydd mor uchel ei barch i arwain adran y gyfraith, y gyntaf i’w sefydlu yng Nghymru. Daw’r Athro Lewis â chyfoeth o brofiad mewn meysydd o’r gyfraith sydd mor berthnasol i astudio academaidd ac i fywyd cyhoeddus yng Nghymru heddiw. Mae'n siaradwr Cymraeg rhugl, ac mae hefyd yn rhan annatod o ddiwylliant a thraddodiad llenyddol Cymru.”

Dywedodd yr Athro Lewis: “Rwy wedi llwyr fwynhau'r her a gefais yn fy ngyrfa fel cyfreithiwr yn ymarfer mewn cwmni cyfreithiol o fri mewn cyfnod a welodd gymaint o dro ar fyd, o ran newidiadau i'r gyfraith ac i broffesiwn y gyfraith hefyd. Erbyn hyn rwy'n edrych ymlaen at yr her a gaf yn fy swydd newydd ym Mhrifysgol Aberystwyth mewn adran sydd mor uchel ei pharch.”

Mae’r Athro Lewis hefyd yn brifardd, ac yn weithgar ym mywyd llenyddol a diwylliannol Cymru. Enillodd Gadair a Choron yr Eisteddfod Genedlaethol, ac mae'n Gyfreithiwr Mygedol i Lys yr Eisteddfod. Mae ei gyfrol ddiweddaraf Twt Lol wedi’i dethol ar gyfer Rhestr Fer Gymraeg Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2019 yn y categori Barddoniaeth.