Brasluniau, mapiau a delwau gothig yn datgloi cyfrinachau cerdd enwog John Keats ‘La Belle Dame Sans Merci’

Edward Vernon Utterson: darlun o Fedd Iarll Arundel yn Eglwys Gadeiriol Chichester, gyda delw o farchog, pen ar y chwith, a’i fraich dde yn eisiau. Gwnaed yn 1817, ddwy flynedd cyn ymweld Keats Nghadeirlan © Trustees of the British Museum

Edward Vernon Utterson: darlun o Fedd Iarll Arundel yn Eglwys Gadeiriol Chichester, gyda delw o farchog, pen ar y chwith, a’i fraich dde yn eisiau. Gwnaed yn 1817, ddwy flynedd cyn ymweld Keats Nghadeirlan © Trustees of the British Museum

16 Mai 2019

Mae gwaith newydd gan ymchwilwyr o Brifysgol Aberystwyth yn awgrymu bod dwy ddelw yn y dull gothig sydd yn dal dwylo yn Eglwys Gadeiriol Chichester a amlygwyd gan gerdd Philip Larkin ‘An Arundel Tomb’ hefyd wedi ysbrydoli myfyrdodau John Keats ar gariad angerddol, ‘La Belle Dame Sans Merci’.

Ers amser maith mae ysgolheigion wedi tybio bod y Marchog-â’u-arfau’ a’r Belle Dame hudolus yn greadigaethau llenyddol ffug-ganoloesol.

Mae ymchwil newydd gan yr Athro Richard Marggraf Turley a'r fyfyrwraig MA Jennifer Squire o'r Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol yn Aberystwyth yn awgrymu bod y ddau ffigur wedi'u hysbrydoli gan ddelwau alabaster o Richard FitzAlan ac Eleanor o Gaerhirfryn yn Eglwys Gadeiriol Chichester.

Bydd yr Athro Marggraf Turley a Jennifer Squire yn cyflwyno canfyddiadau eu hymchwil yn 6ed Cynhadledd Ryngwladol  Sefydliad Keats yn Keats House, Hampstead, Llundain, ddydd Sul 19 Mai 2019.

Pan ymwelodd Larkin ag Eglwys Gadeiriol Chichester yn 1956, roedd y delweddau canoloesol o Richard FitzAlan mewn arfwisg marchog lawn a'i wraig Eleanor o Gaerhirfryn wedi eu hadfer gan y Fictoriaid.

Yn gorwedd ‘ochr yn ochr’ a law yn llaw, gwelai Larkin ddelwedd o ddefosiwn parhaol yn y ddau (‘What will survive of us is love’).

Ond mae brasluniau amatur anghofiedig o gyfnod Keats yn dangos nad oedd y cerfluniau wedi'u trefnu felly pan yr ymwelodd Keats yn 1819, a’u bod wedi eu rhwygo ar wahân a’u gosod ben-wrth-droed, a’u gwthio yn erbyn wal.

Mewn gwirionedd, roedd y marchog-â’u-arfau cariadus yn farchog a oedd wedi colli ei freichiau, a’r hyn oedd yn ei uno â’i wraig - gan ychwanegu haen o eironi at ddisgrifiad Keats o'r marchog.

Roedd y delwau a oedd heb eu hadfer ar y pryd – ac yn ddiolwg ar ôl bod yn gorwedd allan yn yr elfennau am ganrif, a’u gwahanu gan golofn - yn adlewyrchu sefyllfa bersonol Keats.

Dywedodd yr Athro Marggraf Turley: “Roedd salwch ac anawsterau ariannol yn atal Keats rhag priodi ei gymydog a'i gariad mawr, Fanny Brawne. Daeth y delwau canoloesol yn afatars angladdol i Keats a Fanny.

“Mae cenedlaethau o ddilynwyr Keats wedi cysylltu ‘La Belle Dame Sans Merci’ â Hampstead Heath, dafliad carreg o dŷ Hampstead Keats a Fanny. Mae ein hymchwil yn awgrymu taw o Bedhampton, pentref tair milltir ar ddeg o Chichester, oedd tirweddau diffaith baled Keats mewn gwirionedd.

“Mae elfennau allweddol y baledi – y dolydd, ysgubor, llynnoedd hesgog a’r llethr – oll i’w gweld ger llety Keats yn Bedhampton, ac yn esbonio haen arall o symbolaeth yng ngalargan ingol Keats i gariadon nad oedd dyfodol iddynt.”

Mae'r Athro Richard Marggraf Turley yn Athro Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae'n awdur nifer o lyfrau ar y beirdd Rhamantaidd, gan gynnwys Keats’s Boyish Imagination (2004), Bright Stars: John Keats, Barry Cornwall and Romantic Literary Culture (2009), a Keats’s Places (2018). Mae hefyd yn awdur nofel troseddau hanesyddol a osodwyd yn Llundain yn 1810, The Cunning House (2015). Yn 2007, enillodd Wobr Barddoniaeth Keats-Shelley.

Mae Jennifer Squire yn fyfyrwraig Meistr yn yr Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae hi'n gweithio ar ddarluniau o anhwylderau nerfol yn yr oes Ramantaidd a nofelau Jane Austen.