Prifysgol Aberystwyth yn lansio arolwg newydd o droseddau mewn ardaloedd gwledig

Wyn Morris (Chwith) o Ysgol Fusnes Aberystwyth a Dr Gareth Norris o'r Adran Seicoleg Prifysgol Aberystwyth, sydd wedi bod yn gyfrifol am ddatblygu’r arolwg o droseddau mewn ardaloedd gwledig.

Wyn Morris (Chwith) o Ysgol Fusnes Aberystwyth a Dr Gareth Norris o'r Adran Seicoleg Prifysgol Aberystwyth, sydd wedi bod yn gyfrifol am ddatblygu’r arolwg o droseddau mewn ardaloedd gwledig.

22 Gorffennaf 2019

Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn gofyn i ffermwyr am eu barn ar sut mae Heddlu Dyfed-Powys yn mynd i’r afael â throseddu gwledig.

Mae Dr Wyn Morris o Ysgol Fusnes Aberystwyth a Dr Gareth Norris o Adran Seicoleg y Brifysgol am i ffermwyr a rhanddeiliaid allweddol eraill rannu eu profiadau am droseddau sy’n gysylltiedig â ffermydd, agweddau'r heddlu tuag at droseddau fferm ac effeithiolrwydd mesurau atal troseddu mewn ardaloedd gwledig .

Mae'r astudiaeth yn cael ei lansio yn ystod Sioe Frenhinol Cymru 22-25 Gorffennaf 2019 ac fe’i ariennir gan swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys.

Bydd y prosiect ymchwil newydd yn adeiladu ar yr Arolwg Troseddau Gwledig a gynhaliwyd gan y Brifysgol yn 2017 ac a fu’n ffynhonnell ar gyfer Strategaeth Troseddau Gwledig Heddlu Dyfed-Powys 2017-2021.

Caiff ymatebion a sylwadau eu casglu drwy gyfrwng holiadur arlein a fydd ar gael tan 30 Medi 2019.

Wrth siarad cyn y lansiad, dywedodd Dr Morris: “Mae troseddau gwledig yn broblem ddifrifol i ffermwyr, yr heddlu a'n cymunedau yn gyffredinol. Nod ein hymchwil diweddaraf yw crynhoi’r  newidiadau yn ymatebion ac agweddau'r heddlu tuag at droseddau fferm a gwledig ers gweithredu Strategaeth Troseddau Gwledig 2017-2021. Bydd hefyd yn gwerthuso'r ymyriadau a gyflwynwyd gan yr heddlu ers 2017 ac yn llywio mesurau atal trosedd yn y dyfodol. ”

Dywedodd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, “Mae fy swyddfa eisoes wedi bod yn gweithio gyda Phrifysgol Aberystwyth yn 2017 wnaeth yn y pendraw, lywio ein Strategaeth Troseddu Gwledig. Mae'n bwysig cael asesiad o effeithlonrwydd ein gwaith, ac mae’r un mor bwysig cael corff annibynnol i gynnal yr asesiad. Rwy’n eich annog i alw draw i’n gweld yn ystod wythnos y Sioe, neu gallwch lenwi’r holiadur arlein. ”

Bydd canfyddiadau'r prosiect ymchwil diweddaraf yn cael eu cyhoeddi mewn adroddiad yn ddiweddarach eleni.