Arddangosfeydd tecstilau gan gyn-wrthryfelwyr yn agor yn Colombia

Dr Berit Bliesemann de Guevara o Brifysgol Aberystwyth (dde) a Dr Beatriz Arias o Brifysgol Antioquia.

Dr Berit Bliesemann de Guevara o Brifysgol Aberystwyth (dde) a Dr Beatriz Arias o Brifysgol Antioquia.

22 Hydref 2019

Mae academydd o Brifysgol Aberystwyth wedi teithio i Colombia ar gyfer agor cyfres o arddangosfeydd lleol o decstilau a wnaed gan gyn-wrthryfelwyr.

Mae Dr Berit Bliesemann de Guevara o'r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn Aberystwyth a'r Athro Beatriz Arias o Brifysgol Antioquia ym Medellin wedi bod yn gweithio gyda chyn-aelodau Lluoedd Arfog Chwyldroadol Colombia (FARC) a chymunedau lleol.

Mae'r prosiect yn rhan o gynllun ymchwil ehangach i feithrin heddwch yn Colombia ar ôl degawdau o wrthdaro chwerw.

Mewn cyfres o weithdai, mae grwpiau o gyn-wrthryfelwyr a phobl leol wedi bod yn creu crog-luniau wedi'u pwytho i fynegi eu hatgofion o wrthdaro, eu profiadau o'r trawsnewid o ryfel i heddwch, a'u gobeithion ar gyfer y dyfodol.

Cynhaliwyd yr arddangosfa gyntaf o’u gwaith rhwng 30 Medi - 4 Hydref 2019 yn San José de Leon, pentref a sefydlwyd gan filwyr FARC ar ôl i’r grwp guerrilla arwyddo cytundeb cadoediad yn 2016.

Caiff tair arddangosfa arall eu cynnal mewn cymunedau gwledig yn Colombia a Medellin cyn diwedd 2019, gyda mwy na 70 darn o waith ymhob un.

Mae “(Dad)Pwytho Pynciau Proses Cymodi Colombia” yn un o ddeg prosiect ymchwil a lansiwyd ym mis Tachwedd 2018 gan gorff Ymchwil ac Arloesi’r DU (UKRI) mewn partneriaeth ag Adran Wyddoniaeth, Technoleg ac Arloesi Colombia (Colciencias).

Ariannwyd y deg prosiect gyda £2.8 miliwn o Gronfa Newton, sy’n cael ei chefnogi gan Lywodraeth y DU a gwledydd sy’n bartneriaid.

Dan arweiniad Dr Bliesemann de Guevara a'r Athro Beatriz Arias, mae tîm o naw ymchwilydd benywaidd wedi bod yn defnyddio technegau adrodd straeon a gwneud tecstilau fel dulliau i archwilio a chael effaith ar yr heriau sy'n wynebu cyn-ymladdwyr guerrilla wrth iddyn nhw geisio addasu i fywyd sifil ac ailintegreiddio i'r gymdeithas.

Dywedodd Dr Bliesemann de Guevara: “Mae’r gyfres hon o arddangosfeydd yn benllanw ar saith mis o waith gyda chyn-ymladdwyr a chymunedau sifil lle maen nhw wedi gallu rhannu a thrafod eu profiadau o wrthdaro. Nid data yn unig yw naratifau llafar a thecstilau i lywio'r dadansoddiad o rôl cyn-ymladdwyr yn y broses o gymodi ac integreiddio cymdeithasol yn Colombia; yn hytrach, maen nhw’n rhan o strategaeth ymyrraeth fethodolegol sy’n gallu cyfrannu’n ymarferol at y broses hon.”

Dr Berit Bliesemann de Guevara 

Mae Dr Berit Bliesemann De Guevara yn Ddarllenydd mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth. Yn wreiddiol o ynys Fehmarn yn y Baltig, astudiodd Dr Bliesemann De Guevara ym Mhrifysgol Hamburg a derbyniodd ei PhD o Brifysgol y Lluoedd Arfog Hamburg. Ymunodd â Phrifysgol Aberystwyth yn 2012 o Brifysgol Bremen.