Gwasanaeth cyfreithiol am ddim ar restr fer gwobr fawreddog

Dr Ola Olusanya, Uwch Ddarlithydd yn Adran y Gyfraith a Throseddeg ac un o sefydlwyr Clinig Cyfraith Teulu Prifysgol Aberystwyth

Dr Ola Olusanya, Uwch Ddarlithydd yn Adran y Gyfraith a Throseddeg ac un o sefydlwyr Clinig Cyfraith Teulu Prifysgol Aberystwyth

13 Tachwedd 2019

Mae gwasanaeth cyngor cyfreithiol am ddim, a ddarperir gan Adran y Gyfraith a Throseddeg ym Mhrifysgol Aberystwyth ar y cyd â chwmni cyfreithiol Emma Williams Family Law, wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr fawreddog.

Sefydlwyd y Clinig Cyfraith Teulu Prifysgol Aberystwyth gan Dr Ola Olusanya, Uwch Ddarlithydd yn Adran y Gyfraith a Throseddeg, ac mae’n un o bedwar sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yng nghategori Gwobr LawWorks Cymru yng Ngwobrau Pro Bono 2019.

Cafwyd cydnabyddiaeth yn ogystal o'r gwaith rhagorol a wnaed gan Emma Williams Family Law, a sefydlwyd gan Emma Williams a raddiodd yn y Gyfraith o Aberystwyth, gan fod y cwmni hefyd ar restr fer y Cyfraniad Gorau gan Gwmni Bach.

Mae'r Gwobrau Pro Bono yn cydnabod ac yn dathlu cyflawniad mewn gwaith pro bono cyfreithiol, a wneir gan sefydliadau ac unigolion, ac ymrwymiad y sector gyfreithiol i alluogi mynediad at gyfiawnder.

Mae'r rhai sy'n cyrraedd y rownd derfynol yn cynrychioli amrywiaeth ac ystod y gweithgaredd pro bono a wneir gan aelodau LawWorks ac eraill yng Nghymru a Lloegr a chaiff y gwobrau eu noddi gan Lexis Nexis.

Dywedodd yr Athro Emyr Lewis, Pennaeth Adran y Gyfraith a Throseddeg ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Rwy’n falch iawn bod y Clinig Cyfraith Teulu yn Aberystwyth wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer dwy wobr a llongyfarchiadau i Emma Williams a Dr Ola Olusanya gan fod yr enwebiadau hyn yn cydnabod eu gwaith caled a'u gweledigaeth.

Llongyfarchiadau hefyd i'n myfyrwyr ymroddedig sydd wedi gwneud cymaint i sicrhau llwyddiant y Clinig yn sgil eu brwdfrydedd a'u hymrwymiad i wasanaeth cleientiaid."

Mae Clinig Cyfraith Teulu Prifysgol Aberystwyth yn cynnig cefnogaeth gyfreithiol am ddim i bobl sy'n byw yng Ngheredigion ac fe'i sefydlwyd er mwyn ymateb i’r diffyg cyngor cyfreithiol am ddim oedd ar gael wedi i Cymorth Cyfreithiol (Legal Aid) ddod i ben yn yr ardal.

Heb unrhyw ddarparwyr Cymorth Cyfreithiol o fewn 35 milltir a heb yr un clinig cyngor cyfreithiol na chyfleoedd eraill i gael cyngor cyfreithiol am ddim o fewn awr o deithio, cafodd Ceredigion ei ddiffinio gan Gymdeithas y Gyfraith fel ‘anialwch cynghori’.

Yn ôl Sefydliad Joseph Rowntree mae 23% o bobl o fewn oed gweithio yng Nghymru yn byw mewn tlodi ac mae mwyafrif llethol y rhai sy'n defnyddio'r gwasanaeth yn dod o dan safon isafswm incwm Sefydliad Joseph Rowntree.

Mae'n un o ddau wasanaeth cyngor cyfreithiol am ddim a gynigir gan Adran y Gyfraith a Throseddeg - y llall yw'r Cyswllt Cyfreithiol Cyn-filwyr sy'n cynnig cyngor a chefnogaeth i gyn-filwyr yng Nghymru.

Dywedodd Dr Ola Olusanya: “Rydym wrth ein bodd i fod ymhlith y clinigau ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr LawWorks Cymru. Mae’r Clinig Cyfraith Teulu yn enghraifft wych o’r cysylltiad rhwng y gymuned leol a’r Brifysgol. Mae myfyrwyr wedi bod yn gwirfoddoli o dan oruchwyliaeth Emma Williams, a chael y cyfle i arsylwi ar y gwaith ac achosion cyfreithiol yn y byd go iawn. Maent yn ennill sgiliau gwaith allweddol, tra’n cynorthwyo cannoedd o gleientiaid yng nghanolbarth Cymru gyda nifer o broblemau cymhleth a heriol iawn. Hoffem estyn ein diolch a’n gwerthfawrogiad i’n cyn-fyfyrwyr a’n ffrindiau sydd yn cyfrannu at Cronfa Aber. Heb eu cymorth nhw ni fyddai modd cynnig y Clinig hwn.”

Yn ogystal â chynnig sesiynau cynghori 30 munud, mae'r clinig yn cwblhau gwaith papur ar gyfer defnyddwyr y gwasanaeth, ac yn paratoi ceisiadau am ysgariad a cheisiadau am orchmynion trefniadau plant yn rheolaidd.

Yn gyffredinol, mae 2-4 achos cyflawn ar waith ar unrhyw adeg ar gyfer cleientiaid bregus neu ar gyfer rheiny sydd ag achosion cymhleth ac na fyddent fel arall yn medru cael cyngor cyfreithiol.

Ychwanegodd Dr Olusanya: “Mewn ardal o amddifadedd ariannol ynghyd â bod yn ardal a ddiffinnir fel anialwch cyngor cyfreithiol, ni fyddai'r defnyddwyr gwasanaeth hyn wedi cael mynediad at gyfiawnder fel arall.”

Dywedodd Alasdair Douglas, Cadeirydd Bwrdd Ymddiriedolwyr LawWorks: “Llongyfarchiadau i bawb sydd wedi cyrraedd y rhestr fer. Mae'r Gwobrau hyn yn cydnabod ac yn dathlu ymrwymiad cwmnïau cyfreithiol, timau mewnol a'r nifer fawr o unigolion sy'n rhoi o’u hamser a'u harbenigedd yn wirfoddol i wella bywydau eraill. Eleni rydym wedi gweld nifer fawr o enwebiadau o safon, ac o ganlyniad nid tasg hawdd i'r beirniaid oedd llunio rhestr fer. Diolchwn i'r beirniaid am eu gwaith ac rydym yn edrych ymlaen at gwrdd â'r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol ynghyd â'n cefnogwyr yn ein digwyddiad gwobrwyo."

Cyhoeddir yr enillwyr mewn seremoni wobrwyo a derbyniad yng Nghymdeithas y Gyfraith ar ddydd Mawrth, 3ydd o Ragfyr.

Traddodir y ddarlith wobrwyo flynyddol gan y Fonesig Hale, Llywydd y Goruchaf Lys a chaiff y noson ei harwain gan y cyflwynydd radio a newyddiadurwr LBC, Matthew Stadlen.

Gellir cael mwy o wybodaeth am Glinig Cyfraith Teulu Prifysgol Aberystwyth ar-lein neu drwy gysylltu â emma@ewfl.co.uk / famstaff@aber.ac.uk / 01269 267110 neu drwyFacebook.