Fersiwn Saesneg o’r Mabinogi yw Llyfr y Mis Gŵyl y Gelli

Yr Athro Matthew Francis, awdur The Mabinogi, Llyfr y Mis Gŵyl y Gelli am fis Rhagfyr.

Yr Athro Matthew Francis, awdur The Mabinogi, Llyfr y Mis Gŵyl y Gelli am fis Rhagfyr.

12 Rhagfyr 2019

Fersiwn Saesneg gan academydd o Brifysgol Aberystwyth o un o glasuron y Gymraeg o’r oesoedd canol y Llyfr y Mis Gŵyl y Gelli am fis Rhagfyr.

Mae The Mabinogi gan yr Athro Matthew Francis, darlithydd yn Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol Prifysgol Aberystwyth, yn adrodd pedair stori gyntaf y Mabinogi mewn barddoniaeth Saesneg.

Ers ei chyhoeddi ym mis Mehefin 2017, mae’r gyfrol wedi cyrraedd rhestr fer Wales Book of the Year 2018, a Gwobr Ted Hughes am Farddoniaeth Newydd.

Dywedodd yr Athro Francis: “Darllenais gyfieithiad o’r Mabinogi gwreiddiol am y tro cyntaf yn 1999 pan symudais i Gymru – dyna un o’r pethau cyntaf i mi eu gwneud, ac mae’n rhaid cyfaddef i mi gael fy hudo a’m drysu ar yr un pryd.

“Dychwelais at y Mabinogi flynyddoedd yn ddiweddarach, pan awgrymodd fy nghyhoeddwr y dylwn ysgrifennu fersiwn newydd ohonynt. Rhoddodd ei awgrym gryn syndod i mi ond dechreuais sylweddoli sut y gallai weithio; yn enwedig o safbwynt barddonol, gan fod y chwedlau gwreiddiol ar ffurf rhyddiaith ac y byddai defnyddio barddoniaeth gyfoes i’w hadrodd yn gweddu’n dda iawn iddynt.

“Ni fyddwn yn galw’r chwedlau sy’n fy llyfr yn ‘gyfieithiadau’ – a dweud y gwir bûm yn gweithio o gyfieithiad Saesneg oedd eisoes yn bodoli; yr hyn ydyn nhw yw fersiynau newydd. Nid yw hyn yn tynnu oddi arnynt, ond yn ychwanegu dimensiwn newydd ac yn dangos ffyrdd newydd o ddefnyddio’r chwedlau Cymraeg enwog hyn a rhoi pwrpasau newydd iddynt. Mwynheais ailadrodd y straeon hyn yn fawr, ac fe gyffyrddon nhw â fy nghalon; mae ailddweud straeon yn hen draddodiad – bu Shakespeare ei hun wrthi, hyd yn oed.

“Mae’n fraint enfawr i fy llyfr gael ei enwi’n Llyfr y Mis gan Ŵyl y Gelli, yn enwedig oherwydd bod gan ein hadran gysylltiadau mor gryf â’r Ŵyl – rydyn ni’n mynd â’n myfyrwyr yno bob blwyddyn ac mae gwaith nifer o fy nghydweithwyr wedi cael ei gydnabod yno dros y blynyddoedd hefyd.”

Casgliad epig o 11 chwedl o’r 14eg ganrif ar ffurf rhyddiaith yw’r Mabinogi, wedi eu hysgrifennu mewn Cymraeg canoloesol yn llawn rhyfel a hud, antur a rhamant; maen nhw wedi bod yn hudo darllenwyr o bedwar ban byd ers blynyddoedd maith.

Mae fersiwn farddonol Yr Athro Francis o’r pedair stori gyntaf yn dal hud a rhyfeddod y byd Celtaidd canoloesol hwn: caiff babi ei hudo gan grafanc anferth, mae cawr yn cerdded ar draws Môr Iwerddon i frwydro ac mae dewin yn creu merch o flodau, cyn darganfod nad yw hi mor ufudd â’r disgwyl.

Dywedodd y bardd a’r dramodydd Gillian Clarke am The Mabinogi gan Matthew Francis: “Dwi wedi treulio fy oes yn aros am y llyfr hwn: ein hen chwedlau Prydeinig yn cael eu hailadrodd, yn Saesneg, gan fardd, fel roedden nhw’n y Gymraeg wreiddiol. Mae hwn yn fwy na chyfieithiad, mae’n canu.”

Mae Matthew Francis wedi ysgrifennu pum llyfr barddoniaeth Faber, a The Mabinogi yw’r diweddaraf.

Mae wedi cyrraedd rhestr fer y Forward Prize ddwywaith, ac yn 2004 cafodd ei ddewis fel un o feirdd The Next Generation.

Mae hefyd wedi golygu New Collected Poems WS Graham, ac wedi cyhoeddi casgliad o straeon byrion a dwy nofel. Ymddangosodd yr ail o’r rheiny, The Book of the Needle (Cinnamon Press) yn 2014.