Grant pwysig i ddatgelu cyfrinachau seliau canoloesol

22 Mehefin 2020

Dyfarnwyd Prif Gymrodoriaeth Ymchwil (PGY) nodedig i hanesydd o Brifysgol Aberystwyth gan Ymddiriedolaeth Leverhulme i ymchwilio i'r hyn y gall seliau eu datgelu ynglŷn â bywyd yn y canol oesoedd.           

Mae Dr Elizabeth New, sy'n gweithio yn yr Adran Hanes a Hanes Cymru yn Aberystwyth, yn un o 34 o academyddion ym Mhrydain a'r unig un o sefydliad yng Nghymru i dderbyn PGY yn y rownd hon o ddyfarniadau. 

Teitl y prosiect tair blynedd yw Identity, Interaction and Exchange in Medieval England, ac fe fydd Dr New yn astudio'r hyn y gall y seliau ac arferion selio ei ddweud wrthym am fywydau pobl yr oesoedd canol.

“Mae seliau'r canol oesoedd yn hynod ddiddorol ac yn gallu datgelu cymaint am y bobl a oedd yn eu defnyddio. Roedden nhw'n gweithredu yn debyg i lofnod, cerdyn credyd, neu logo modern, ac roedden nhw'n rhan yr un mor gyfarwydd o fywyd bob dydd ag y mae'r pethau hynny i ni”, esboniodd Dr New.

"Ond yr hyn sy'n gwneud y seliau mor bwysig yw eu bod yn mynegi llawer mwy na llofnodi'ch enw neu ddefnyddio eich cerdyn heddiw. Roeddent yn barseli bach ond grymus o ddelwedd a thestun yn nodi a chynrychioli dynion a menywod - o uchelwyr i grefftwyr a'r werin bobl - yn ogystal â swyddi, sefydliadau a grwpiau.

"Roeddent yn cyflwyno negeseuon wedi'u saernïo’n ofalus ynglŷn â statws, grym, cyfoeth, galwedigaeth, teulu, hiwmor, duwioldeb a chysylltiadau - o'r lleol i'r rhyngwladol.

"Mae hi'n anrhydedd i fod wedi ennill y Gymrodoriaeth bwysig hon gan Ymddiriedolaeth Leverhulme, a fydd yn fy rhoi mewn sefyllfa i dwrio'n ddyfnach i'r ffordd yr oedd pobl - yn enwedig o'r dosbarthiadau canol ac is yn y gymdeithas - yn defnyddio seliau a'r hyn y gallant ei ddweud wrthym am fywyd y cyfnod.”

Ar adeg pan mae'r byd yn dod i delerau â phandemig modern, bydd yr astudiaeth yn ymdrin â chyfnod Pla Du y 14eg ganrif. Cafodd y pla effaith fawr ar brynu a gwerthu tîr ac eiddo a chynnydd sylweddol yn nifer y dogfennau wedi'u selio sydd wedi goroesi.

“Wrth i’r byd fynd i’r afael â Covid-19 a’i effeithiau, bydd yn arbennig o ddiddorol gweld a yw’r delweddau a’r testun y dewisodd pobl eu defnyddio ar seliau canoloesol yn newid yn y blynyddoedd wedi’r Pla”, ychwanegodd Dr New.          

Bydd y prosiect yn arwain at gyhoeddi monograff yn canolbwyntio ar ddynion a menywod islaw aristocratiaid sydd, yn draddodiadol, wedi cael sylw cyfyngedig.

Bydd yn ystyried nifer o gwestiynau, gan gynnwys yr hyn y gall amrywiadau yn nyluniad seliau ei ddweud wrthym ynglŷn â chyfathrebu, ffasiwn, a chysyniadau canoloesol am yr unigolyn a'u lle o fewn i gylchoedd profiad sy'n gorgyffwrdd, yn ogystal â materion yn ymwneud â rhywedd, teulu, galwedigaeth a lleoliadau.

Cwestiwn allweddol arall fydd yr hyn y gall y testun ar y seliau ei ddatguddio am ddefnydd pobl o iaith a'u dealltwriaeth o'r gair ysgrifenedig.

Yn ogystal â defnyddio deunydd archifol ac archeolegol, bydd ymchwil Dr New yn ymgorffori dadansoddiadau fforensig o olion dwylo a bysedd mewn cwyr a wnaed mewn prosiect blaenorol o'r enw Imprint y bu'n ei redeg ar y cyd ag un o'i chydweithwyr ym Mhrifysgol Lincoln, ac a gyllidwyd gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau.

Y tro hwn, bydd Dr New yn gweithio gyda chydweithwyr o Brifysgolion Caergrawnt, Copenhagen a Reading sy'n astudio nodweddion cwyr gwenyn a dechreuadau pigmentau a ddefnyddid wrth gynhyrchu seliau.

"Yn rhan o'r prosiect Leverhulme, fe fyddaf unwaith eto yn gweithio ar y cyd â chydweithwyr gwyddonol. Er y byddaf yn edrych ar dystiolaeth sy'n deillio o ganrifoedd yn ôl, mae gan fy ymchwil botensial i'r byd heddiw - gan roi haneswyr cyfnod yr oesoedd canol mewn sefyllfa i gyfrannu i faes gwyddoniaeth a thechnoleg fodern," ychwanegodd Dr New.

Dyfarnwyd £123,000 i Dr New gan Ymddiriedolaeth Leverhulme ar gyfer yr astudiaeth tair blynedd a fydd yn dechrau ym mis Medi 2020.