Genod i’r Geowyddorau yn cyfarfod yn rhithiol

06 Gorffennaf 2020

Bydd gwyddonwyr benywaidd o bob cwr o’r DU ac Iwerddon yn ymgynnull yn rhithiol ar gyfer y digwyddiad Genod i’r Geowyddorau mwyaf erioed sy’n cael ei gynnal heddiw, ddydd Llun 6 Gorffennaf 2020.

Dr Marie Busfield o Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth yw sylfaenydd Genod i’r Geowyddorau Cymru/Girls into Geoscience Wales, a’r bwriad oedd cynnal y digwyddiad agoriadol yn ddiweddarach eleni.

“Roeddwn i’n edrych ymlaen yn fawr at lansio GiG Cymru yn 2020, ac i arddangos y ddaeareg a’r geomorffoleg anhygoel sydd gyda ni yma yn Aberystwyth, ond roedd gan COVID-19 syniadau eraill”, dywedodd Dr Busfield, yn un o drefnwyr y digwyddiad rhithiol.

“Er ei bod yn siom i mi orfod canslo’r digwyddiad eleni, mae’r cyfle i weithio ar y cyd gydag arweinwyr GiG yn Lloegr, yr Alban ac Iwerddon wedi ein galluogi i gynnig rhaglen anhygoel ac amrywiol dros ben, ac rydym mor falch o weld gymaint o fenywod ifanc yn cofrestru.”

Menter ymgysylltu yw ‘Girls into Geoscience’, â’i nod yw ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr benywaidd trwy arddangos yr ystod eang o yrfaoedd a chyfleoedd astudio ym meysydd daeareg, daearyddiaeth a gwyddor yr amgylchedd.

Sefydlwyd y digwyddiad gwreiddiol yn 2014 gan Dr Sarah Boulton a Dr Jodie Fisher o Brifysgol Plymouth. Ers hynny mae’r fenter wedi ehangu i gynnwys GiG Yr Alban, o dan arweinyddiaeth Dr Amanda Owen ym Mhrifysgol Glasgow, a GiG Iwerddon o dan arweinyddiaeth Elspeth Wallace o Ganolfan Ymchwil Geowyddorau Cymhwysol Iwerddon (iCRAG).

Roedd rhaid i’r bedair cangen wynebu penderfyniadau anodd eleni i ganslo eu digwyddiadau wyneb-yn-wyneb yng nghanol y pandemig, ond roedd hyn hefyd yn gyfle newydd a chyffrous i weithio ar y cyd er mwyn cynnig y digwyddiad rhithiol cyntaf o’i fath.

O ganlyniad, bydd cyfranogwyr eleni yn elwa o sgyrsiau, gweithdai a theithiau maes rhithiol a fydd yn cael eu harwain gan dros 45 o fenywod blaenllaw yn y maes.

Ychwanegodd Dr Busfield: “Y peth mwyaf cyffrous am y digwyddiad rhithiol hwn yw’r nifer a’r ystod helaeth o gyfraniadau sydd ar gael. Mae gennym fenywod yn y diwydiant peirianneg daearegol a chyfathrebu gwyddoniaeth, arbenigwyr ar losgfynyddoedd a rhewlifegwyr, arbenigwyr mewn daeargrynfeydd a thechnoleg ym maes ynni cynaliadwy. Mae’n gyfle gwirioneddol i ni ddangos ehangder y maes a chyflwyno’r cyfranogwyr i arbenigwyr a safleoedd astudio ar draws y byd.”

Bydd y digwyddiad hefyd yn cynnig dewis o baneli rhyngweithiol a chyfle i fynychwyr sgwrsio gydag arbenigwyr yn y gwyddorau daear, myfyrwyr israddedig cyfredol, a gyda’i gilydd am bob math o destunau amrywiol, o sut beth yw bywyd ar waith maes, i sut i wneud cais am le mewn prifysgol, a sut i ddelio â newidiadau a sialensiau, rhywbeth a fydd yn gyfarwydd i bawb eleni.

Fel rhan o’r digwyddiad bydd Dr Busfield yn cael cwmni Katie Miles, ymchwiliwr PhD yn yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, Holly Wytiahlowsky a Liza Riches, myfyrwyr israddedig, a Laura Hoath, cyn-fyfyrwraig o Brifysgol Aberystwyth.

Dywedodd Dr Busfield: “Bydd y trefnwyr yn gweld eisiau cyfarfod â’r cyfranogwyr wyneb yn wyneb eleni ond yn gobeithio y bydd y digwyddiad rhad ac am ddim hwn ar lein yn ein galluogi i ehangu’r cylch o gyfranwyr ymhellach, a pharhau i dorri rhai o’r rhwystrau sy’n wynebu menywod yn y gwyddorau a’r geowyddorau.