Canolfan ymchwil yr ucheldir yn croesawu cria bach

Mae Peiran Champagne yn un o ddau alpaca bach - neu cria - a anwyd ar dir Llwyfan Ymchwil yr Ucheldir Pwllpeiran, Prifysgol Aberystwyth, yn ystod y cyfnod clo.

Mae Peiran Champagne yn un o ddau alpaca bach - neu cria - a anwyd ar dir Llwyfan Ymchwil yr Ucheldir Pwllpeiran, Prifysgol Aberystwyth, yn ystod y cyfnod clo.

04 Awst 2020

Mae praidd o alpaca yng nghanolfan ymchwil yr ucheldir Prifysgol Aberystwyth wedi croesawu dau aelod newydd i’w plith yn ystod cyfnod clo Covid-19.

Cafodd un alpaca gwrywaidd ac un benywaidd eu geni ar dir Llwyfan Ymchwil yr Ucheldir Pwllpeiran ac mae’r ddau cria, fel y’u gelwir, yn ymgartrefu’n hapus ym Mynyddoedd y Cambria.

Dyma’r cria cyntaf erioed i gael eu geni ar dir y Brifysgol a’u cofrestru o dan enw rhagddodiad bridfa newydd y ganolfan, sef ‘Peiran’.

Mae Peiran Champagne a Peiran Cosmopolitan yn ymuno a buches fach o alpaca a gyrhaeddodd Pwllpeiran ym mis Hydref 2019 fel rhan o brosiect ymchwil newydd.

Bwriad y gwyddonwyr yw gweld a yw alpaca De America yn gweddu i fywyd ym mryniau Cymru ac a yw’n cynnig cyfleoedd newydd ar gyfer ffermio ar yr ucheldiroedd. 

Mae’r anifeiliaid gyddfau hir yma yn debyg i’r llama, yn adnabyddus am ansawdd uchel eu ffeibr (gwlân), ac yn hapus i bori ar laswelltau o ansawdd isel sy'n aml yn cael eu gwrthod gan ddefaid.

Mae’r ymchwil yn cael ei arwain gan Dr Mariecia Fraser yng Nghanolfan Ymchwil Ucheldir Pwllpeiran, sy’n rhan o Athrofa y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig y Brifysgol (IBERS).

“Rydym yn byw mewn cyfnod o newid o ran ffermio ar ucheldiroedd Cymru. Y disgwyl yw y bydd y rownd nesaf o daliadau cymorth yn annog symud i ffwrdd oddi wrth gynhyrchu amaethyddol sylfaenol tuag at gadwraeth natur a lleihau carbon. Wrth sefydlu buches ymchwil o alpaca yn Pwllpeiran, rydym am weld a all yr alpaca gynnig dewis arall hyfyw i ffermwyr mynydd yn lle defaid.

“Yn ogystal â chynhyrchu ffeibr o ansawdd uchel, mae camelidau fel yr alpaca wedi esblygu ac addasu i fyw ar weunwelltydd o ansawdd gwael yn yr Andes, ac maen nhw’n hapus i fwyta glaswelltau mewnlifol fel Molinia. Mae'r porthiant yma’n tyfu'n helaeth ar ucheldiroedd Cymru ond dyw e ddim fel rheol at ddant ein defaid brodorol. Byddwn yn edrych ar effaith eu pori ar y tri a sut bydden nhw’n asio gyda phatrymau ffermio traddodiadol yma, ”meddai Dr Fraser.

Ymddiriedolaeth Elusennol Addysgol Joy Welch, a sefydlwyd gan y cyn-fyfyrwraig o Aberystwyth ym 1988, sy’n ariannu’r gwaith o sefydlu'r fuches ymchwil gychwynnol.