Academyddion bwyd praffaf i gael eu hyfforddi yn Aberystwyth wedi llwyddiant grant

IBERS

IBERS

16 Hydref 2020

Bydd bwyd mwy fforddiadwy a chynaliadwy ar y fwydlen diolch i grant mawr i hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr systemau bwyd ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Mae IBERS, Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig, ym Mhrifysgol Aberystwyth yn rhan o gonsortiwm o saith prifysgol ac athrofa yn y DU i ennill grant mawreddog gan UKRI er mwyn datblygu Canolfan Hyfforddiant Ddoethurol a fydd yn canolbwyntio ar ddatblygu’r genhedlaeth nesaf o feddylwyr rhyngddisgyblaethol ym maes systemau bwyd.

Gwnaed y cyhoeddiad ar Ddiwrnod Bwyd y Byd (dydd Gwener 16 Hydref 2020).

Mae systemau bwyd yn rhwydweithiau cymhleth o bobl a gweithgareddau sy’n gyfrifol am sicrhau bod gennym i gyd fwyd diogel, iach, cynaliadwy a fforddiadwy bob dydd.

Gyda chefnogaeth Cronfa Blaenoriaethau Strategol (SPF) UKRI, bydd y rhaglen £5 miliwn yn canolbwyntio ar yr angen brys i drawsnewid system fwyd y DU o ran iechyd a chynaliadwyedd, gan gydnabod pwysigrwydd systemau bwyd i dwf economaidd a lles cymdeithasol.

Meddai’r Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth:

“Mae hyn yn newyddion arbennig o dda ac yn gydnabyddiaeth o’r gwaith rhagorol yma yn IBERS yn Aberystwyth. Drwy weithio mewn partneriaeth gydag eraill byddwn ni’n rhan fawr o hyfforddi’r meddylwyr praffaf fydd yn helpu i sicrhau bod gennym fwyd diogel, iach, cynaliadwy a fforddiadwy am genedlaethau i ddod.” 

Yn ogystal â Phrifysgol Aberystwyth mae’r consortiwm ‘Partneriaeth dros Ddyfodol Bwyd Cynaliadwy - Canolfan Hyfforddiant Ddoethurol’ yn cyfuno’r sgiliau ymchwil rhyngddisgyblaethol sy’n arwain y byd gyda phrofiad a sgiliau ymchwil yr Athrofa Adnoddau Naturiol ym Mhrifysgol Greenwich, Coleg y Brifysgol Llundain, y Coleg Milfeddygol Brenhinol, Canolfan Bolisi Bwyd City University, Prifysgol Sussex a Phrifysgol Brunel Llundain.

Mae’r bartneriaeth hefyd yn cynnwys dwy Athrofa Ymchwil Amaethyddol flaenllaw,  NIAB EMR a chanolfan ymchwil Rothamsted, a thros 50 o bartneriaid o fyd busnes, y llywodraeth a chymdeithas sifil.

“Rydym wrth ein boddau i fod yn gweithio gyda phartneriaid dylanwadol mewn ymchwil a hyfforddiant ynghyd â rhanddeiliaid systemau bwyd o bob sector, i ddatblygu’r genhedlaeth nesaf o arweinwyr systemau bwyd yn y DU,” meddai'r Athro Andrew Westby, Cyfarwyddwr yr Athrofa Adnoddau Naturiol ac arweinydd y consortiwm.

“Mae edrych y tu hwnt i’r Ganolfan Hyfforddiant Doethurol yn destun cyffro i’r Bartneriaeth, a’r cyfle i gynorthwyo gyda llunio system fwyd wirioneddol wydn, iach a chynhwysol yn y DU, a gweithio’n agos gyda’r llywodraeth a’r sectorau preifat ac elusennol er mwyn gwireddu hyn.”

Bydd y bartneriaeth yn hyfforddi dros 60 ymchwilydd i ddod yn arweinwyr ac arloeswyr systemau bwyd y dyfodol.

Bydd Academi Systemau Bwyd agored yn ganolog i waith y bartneriaeth, rhwydwaith dysgu dynamig sy’n dwyn ynghyd ymchwilwyr doethuriaeth, eu goruchwylwyr, a’r llywodraeth, busnes a mudiadau cymdeithas sifil i gyd-lunio prosiectau doethuriaeth ac i gyd-gynhyrchu a rhannu gwybodaeth newydd gydag effaith barhaus.

Taith y myfyriwr fydd blaenoriaeth y bartneriaeth a bydd yn mabwysiadu arfer gorau mewn hyfforddiant doethurol, gan gydweithio gyda Chyngor Ymchwil y Gwyddorau Biotechnoleg a Biolegol.

Bydd myfyrwyr cyntaf y bartneriaeth yn cychwyn ym mis Hydref 2021, a’r alwad am geisiadau yn cael ei chyhoeddi’n fuan.