Gwyddonydd IBERS yn lansio cwmni arloesol yn Aberystwyth

O’r chwith: Dr David Bryant BEACON, Dr Rhian Hayward Aber Innovation, Dr Ahbishek Somani, Cyfarwyddwr ARCITEKBIO, yr Athro Elizabeth Treasure Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, a Dr Joe Gallagher BEACON, yn Swyddfa AberInnovation.

O’r chwith: Dr David Bryant BEACON, Dr Rhian Hayward Aber Innovation, Dr Ahbishek Somani, Cyfarwyddwr ARCITEKBIO, yr Athro Elizabeth Treasure Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, a Dr Joe Gallagher BEACON, yn Swyddfa AberInnovation.

23 Chwefror 2021

Mae ymchwil ar gynhyrchu melysydd calorïau isel o wellt grawnfwyd sydd yn wastraff amaethyddol, wedi arwain at lansio cwmni newydd cyffrous ar Gampws Arloesi a Menter Prifysgol Aberystwyth.

Mae ARCITEKBio Ltd (ABL) wedi datblygu datrysiad biotechnolegol i gynhyrchu xylitol - melysydd naturiol sy'n garedig i‘r dannedd ac i’r sawl sydd yn dioddef o glefyd siwgr, o fiomas, mewn ffordd sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd. Mae'n anelu at herio'r diwydiant byd-eang presennol sydd werth miliynau o bunnoedd.

Mae ARCITEKBio Ltd (ABL) yn cael ei sefydlu ar Gampws Arloesi a Menter Aberystwyth (AberInnovation) yng Ngogerddan, gan gyflogi 3 o bobl i ddechrau.

Syniad Dr Abhishek Somani, Dr Joe Gallagher a Dr David Bryant o Athrofa‘r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig yw ARCITEKBio ac mae‘n gwmni deillio Prifysgol Aberystwyth. Bu Dr Narcis Fernandez-Fuentes a Dr Sreenivas Rao Ravella ynghlwm â datblygu’r dechnoleg gychwynnol hefyd.

Dywedodd Dr Somani: “Mae ARCITEKBio wedi’i seilio ar egwyddorion twf cynaliadwy, arloesi gydag effaith a chreu gwerth.

“Mae ein technoleg arloesol, ecogyfeillgar ar gyfer cynhyrchu xylitol ynghyd â'r gallu i ychwanegu gwerth at wastraff amaethyddol, yn ein gosod ni mewn sefyllfa i darfu ar y diwydiant melysyddion byd-eang.

“Gyda chefnogaeth gan lywodraeth y DU ac o dan arweiniad tîm talentog o arbenigwyr diwydiant, gwyddonwyr a chynghorwyr, rydym i gyd yn gweithio gyda'n gilydd i gyflawni ein gweledigaeth."

Mae Dr Somani yn un o dîm o wyddonwyr yn IBERS a ddechreuodd weithio ar xylitol o dan y prosiect BEACON a ariannwyd gan Gronfa Ddatblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) a phrosiect BIO-SUCCINNOVATE a ariennir gan gronfa Climate-KIC EIT yr UE.

Arweiniwyd y prosiect gan Dr Bryant, lle roedd yn bennaf gyfrifol am ddatblygu bioleg synthetig a strategaethau eplesu ar gyfer cynhyrchu melysydd naturiol o'r enw xylitol o fiomas.

Dywedodd yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: “Mae prifysgolion yn cael effaith ar fywydau beunyddiol pobl trwy fynd â’u hymchwil o’r arena academaidd i’r byd ehangach. Mae‘r canlyniad hwn yn dangos nid yn unig potensial masnachol ac effaith ymchwil academaidd yn y byd go iawn, ond ARCITEKBio yw'r cwmni cyntaf hefyd i esblygu'n uniongyrchol o'n Prifysgol a sefydlu ar ein Campws Arloesi a Menter newydd."

Mae Dr Rhian Hayward yn Brif Swyddog Gweithredol AIEC (AberInnovation) a dywedodd: “Mae ARCITEKBio yn gwireddu'r bartneriaeth rhwng IBERS ac AberInnovation, ac mae'n nodweddiadol o drosi'r amaeth-wyddoniaeth orau a ddatblygwyd ar y safle hwn yn gynhyrchion a gwasanaethau.

“Rydym yn falch o gynnal ARCITEKBio Ltd (ABL) ac edrychwn ymlaen at eu twf ymhlith ein cymuned o gwmnïau arloesol."