Rhiant o Borth yn llwyddo wrth i Brifysgol Aberystwyth ddathlu dysgwyr Cymraeg

Charlotte Pugh enillydd Gwobr Cymraeg yn y Teulu

Charlotte Pugh enillydd Gwobr Cymraeg yn y Teulu

30 Mawrth 2021

Mae rhiant o Borth a gwerthwr llyfrau o Drefaldwyn ymysg criw sydd wedi eu cydnabod am eu hymdrechion i ddysgu a hyrwyddo’r Gymraeg.

Cyflwynwyd Gwobr Cymraeg yn y Teulu i Charlotte Pugh o Borth yng Ngheredigion yn ystod Seremoni Wobrwyo Flynyddol Dysgu Cymraeg Prifysgol Aberystwyth a gafodd ei chynnal yn rhithiol ddydd Iau 25 Mawrth.

Mae gŵr Charlotte yn siaradwr Cymraeg rhugl, ac mae ei phlant sy’n chwech a thair oed yn dysgu Cymraeg. Mae Charlotte yn ceisio siarad Cymraeg â nhw, canu hwiangerddi yn y Gymraeg, a darllen llyfrau Cymraeg. Mae hi hefyd yn berchen ar fusnes yn gwneud dillad plant.

Gobaith Charlotte wrth ddysgu Cymraeg yw gallu sgwrsio yn y Gymraeg â’i phlant a’u ffrindiau nhw, a hefyd helpu’r plant gyda’u gwaith cartref. Ei dymuniad yw bod yn esiampl da i’w phlant, ac iddyn nhw fod yn falch ohoni hi.

Roedd y wobr yn un o chwech a gyhoeddwyd yn y seremoni ar-lein.

Enillodd Barry Lord o Drefaldwyn, Powys wobr dysgwr y flwyddyn. Un o Swydd Gaerhirfryn yw Barry yn wreiddiol, a chafodd ei ysbrydoli i ddysgu Cymraeg ar ei ymweliad cyntaf â maes yr Eisteddfod Genedlaethol.

Mae’n perchen ar siop lyfrau yn Nhrefaldwyn ers 2018, ac yn manteisio ar bob cyfle i siarad Cymraeg â’i gwsmeriaid. Mae hefyd yn aelod brwd o glwb darllen Cymraeg yn Nhrefaldwyn, ac wrth ei fodd yn cefnogi dysgwyr eraill.

Cyflwynwyd gwobr Cymraeg yn y Gweithle i Gyngor Sir Gaerfyrddin am ei waith yn creu amgylchedd cefnogol i siaradwyr Cymraeg a dysgwyr. 

Enillodd Alice Farnworth, sy’n gweithio i’r Adran Gwasanaethau Gwybodaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth, wobr Dysgwr Cymraeg Gwaith y Flwyddyn.

Dyfarnwyd Grŵp Cymraeg y Flwyddyn i Glwb Hwb Maldwyn ym Mhowys.  Roedd y clwb yn arfer cyfarfod fel grŵp bychan yn y Drenewydd, ond ers cychwyn y cyfnod clo, mae hyd at tri deg yn cyfarfod ar Zoom.

Yn ystod y seremoni cyflwynwyd tystysgrifau arholiadau Mynediad, Sylfaen, Canolradd ac Uwch CBAC a Thystysgrif Sgiliau Iaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i ymgeiswyr llwyddiannus.

Wrth longyfarch pawb ar eu llwyddiant, dywedodd Yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth:

“Llongyfarchion mawr iawn i bawb ar eu llwyddiant wrth ddysgu Cymraeg. Fel dysgwr Cymraeg fy hunan, dw i’n gwybod faint o ymdrech sydd ei angen i ddysgu iaith newydd. Hoffwn i ddiolch i bawb am wneud yr ymdrech honno, ac am fod mor frwdfrydig eu hymdrechion. Mae iaith unigryw Cymru yn drysor cenedlaethol arbennig, ac yn rhodd i bawb sydd yn byw yma.

“Diolch yn arbennig i’r tiwtoriaid sydd wedi helpu cynifer o ddysgwyr ar hyd y blynyddoedd. Diolch iddyn nhw i gyd am eu gwaith rhagorol, ac i bawb yn y tîm Dysgu Cymraeg.”

Mae dros 3,000 o ddysgwyr yn dilyn cyrsiau Dysgu Cymraeg a Dysgu Gydol Oes drwy Brifysgol Aberystwyth a’i phartneriaid.

Mae Canolfan Dysgu Cymraeg Prifysgol Aberystwyth yn darparu cyrsiau yng Ngheredigion, Powys a Sir Gâr gyda darpariaeth benodol ar gyfer cynnig cyfleoedd i ddysgu Cymraeg yn y gweithle ac i deuluoedd.

Mae mwy o wybodaeth ar gael drwy fynd i: https://learnwelsh.cymru/

Gwobrau Dysgu Cymraeg Prifysgol Aberystwyth 2021

Gwobr Cymraeg yn y Teulu: Charlotte Pugh

Dyma’r seithfed tro i Brifysgol Aberystwyth gynnig y wobr hon. Gwobr ar gyfer dysgwyr Cymraeg sydd wedi cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg o fewn y teulu. Mae Charlotte yn ennill cwrs Cymraeg am ddim a £25 o docynnau llyfrau Cymraeg.

Mewn ymateb i’r wobr, dywedodd Charlotte Pugh: “Rwy’n hynod o hapus fy mod wedi ennill y wobr hon. Mae'n golygu cymaint i mi a fy nheulu. Mae ennill y wobr hon wedi rhoi mwy o hyder i mi siarad Cymraeg yn y gymuned. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at barhau â fy nhaith Gymraeg i'r dyfodol.”

Dysgwr Cymraeg y flwyddyn yng Ngheredigion, Powys a Sir Gaerfyrddin: Barry Lord

Mae Barry’n dod o Swydd Gaerhirfryn yn wreiddiol, ac mi gafodd ei ysbrydoli i ddysgu Cymraeg ar ei ymweliad cyntaf â maes yr Eisteddfod Genedlaethol

Mi dderbyniodd dlws coffa Basil Davies yn 2018 am y marciau uchaf yng Nghymru yn yr arholiad Dysgu Cymraeg lefel Sylfaen. Bellach mae’n astudio ar gyrsiau Uwch a Gloywi.

Mae’n perchen ar siop lyfrau yn Nhrefaldwyn ers 2018, ac mae’n manteisio ar bob cyfle i siarad Cymraeg â’i gwsmeriaid. Mae hefyd yn aelod brwd o glwb darllen Cymraeg yn Nhrefaldwyn, ac mae wrth ei fodd yn cefnogi dysgwyr eraill.

Mewn ymateb i’r wobr, dywedodd Barry Lord:

“Dw i’n meddwl mai dechrau dysgu Cymraeg sydd wedi bod y penderfyniad mwyaf gwerthfawr dw i wedi’i wneud ers i mi symud i Gymru felly dw i’n teimlo mor falch o dderbyn y wobr hon. Mi hoffwn i ddweud pa mor ddiolchgar ydw i bawb sydd wedi fy nghefnogi dros y pum mlynedd a hanner diwethaf, gan gynnwys ein tiwtoriaid rhagorol a phobl eraill dw i wedi dod i’w hadnabod sydd yn siarad Cymraeg fel iaith gyntaf.”

“Mae’r holl brofiad o ddysgu’r iaith wedi bod yn eithriadol o bleserus ac wedi agor amrywiaeth o gyfleoedd newydd ac weithiau annisgwyl i mi. Er enghraifft, dw i wedi dod yn ddigon hyderus yn siarad yr iaith i gyfarch a chymdeithasu efo cwsmeriaid yn ein siop lyfrau a chymryd rhan mewn cyfarfodydd efo un o’n cyflenwyr llyfrau drwy gyfrwng y Gymraeg. Dw i wedi datblygu diddordeb cryf mewn cerddoriaeth Gymraeg hefyd o ganlyniad uniongyrchol i fynychu digwyddiadau cerddorol fel cystadlaethau yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol yn ogystal â nosweithiau llawen, cyngherddau a phlygeiniau yn Sir Drefaldwyn a thu hwnt. Mi faswn i’n annog unrhyw un sy’n ystyried dechrau dysgu Cymraeg i roi cynnig arni; dw i erioed wedi’i difaru!”

Gwobr Cyflogwr Cymraeg y Flwyddyn: Cyngor Sir Gaerfyrddin

Dyma’r saithfed tro i Brifysgol Aberystwyth gynnig y wobr hon hefyd. Gwobr yw hi i gyflogwyr sy’n cefnogi eu staff i ddysgu Cymraeg ar gyrsiau Dysgu Cymraeg. Mae’n gyfle i ddathlu ymdrech a chynnydd staff sy’n dysgu Cymraeg. Mae’r cyflogwr buddugol yn cael cwrs undydd am ddim ar gyfer y gweithle.

Mae 19 o staff y Cyngor yn dilyn cyrsiau eleni gyda Phrifysgol Aberystwyth. Mae’r Cyngor yn talu ffi’r cwrs a hefyd yn rhoi amser iddyn nhw ddysgu yn ystod oriau gwaith neu gael oriau hyblyg.

Dywedodd Paul Thomas, Prif Weithredwr Cynorthwyol Cyngor Sir Caerfyrddin:

“Mae ennill y wobr hon yn anrhydedd fawr ac yn cydnabod gwaith ein staff i greu Cyngor sydd wir yn ddwyieithog. Mae’n bwysig ein bod yn cefnogi staff ar bob cam o’u taith ddysgu, gan ddarparu gwahanol lwybrau dysgu fel bod rhywbeth addas i bawb, o’r staff sydd angen dealltwriaeth o’r Gymraeg, i’r rheiny sydd am gynyddu eu hyder neu wella eu Cymraeg ysgrifenedig.”

Gwobr Grŵp Cymraeg y Flwyddyn: Clwb Hwb Maldwyn

Diben y wobr hon yw dathlu llwyddiant grŵp sydd wedi dod â siaradwyr a dysgwyr ynghyd mewn gweithgareddau i ddefnyddio a hyrwyddo’r Gymraeg. Maen nhw’n ennill gwobr o £100 o adnoddau Cymraeg

Dywedodd Mererid Haf Roberts, tiwtor o Glwb Hwb Maldwyn: "Mae aelodau Clwb Hwb Maldwyn yn hapus iawn o fod wedi ennill y wobr. Fel trefnydd, dw i'n arbennig o falch bod y clwb wedi cael y gydnabyddiaeth yma, sy'n glod i ymroddiad y dysgwyr a brwdfrydedd aelodau Clwb Hwb tuag at yr iaith. Mae'r wobr yn gyfle gwych i ni ddathlu ein siaradwyr Cymraeg newydd, ynghyd â'u hymdrech, bwriad ac awydd i ddefnyddio'r iaith gyda siaradwyr Cymraeg eraill."

Gwobr Cymraeg Gwaith y Flwyddyn: Alice Farnworth

Yr enillydd eleni yw Alice Farnworth, sy’n gweithio i Adran Gwasanaethau Gwybodaeth Prifysgol Aberystwyth. Un o Lerpwl yw Alice yn wreiddiol, ond daw ei thad o Gymru, ac mae o hefyd yn dysgu Cymraeg – ac yn fwy rhugl na hi yn ôl Alice.

Yn ei gwaith fel Cynorthwy-ydd Desg Cymorth TG yn Llyfrgell Hugh Owen, mae Alice yn rhoi cefnogaeth gyda phroblemau technegol i staff, myfyrwyr ac ymwelwyr.

 

Mae hi’n defnyddio’r Gymraeg bob dydd yn ei gwaith - a nawr mae hi’n hyderus i drafod pethau syml ar y ffôn ac wyneb yn wyneb, a hefyd ysgrifennu ebyst yn y Gymraeg.

Mae Alice yn un o dros gant o staff Prifysgol Aberystwyth sy’n dilyn cyrsiau Cymraeg eleni.

Dywedodd Alice Farnworth:

“Ro’n i’n falch iawn o glywed fy mod i wedi ennill gwobr Dysgu Cymraeg. Mae dysgu Cymraeg yn helpu fi bob dydd yn fy swydd, ac mae'n gwella fy mherthnasau gyda phobl ar draws y Brifysgol. Mae'n bwysig iawn gallu helpu pobl yn ddwyieithog mewn swyddi gwasanaethau cwsmeriaid, yn enwedig mewn Prifysgol Cymraeg. Yn fy swydd fel Cynorthwyydd Desg Cymorth TG, mae pethau technegol yn newid yn gyflym - mae'n bwysig i ddefnyddio'r iaith ac yn cadw i fyny!

Diolch i’r gymuned Cymraeg am fod mor groesawgar a chefnogol, a diolch i bawb yn Dysgu Cymraeg am eich help!”

Tiwtor y Flwyddyn: Sarah Graham

Sarah Graham o Drefyclawdd ym Mhowys yw Tiwtor y Flwyddyn eleni. Mi ddechreuodd Sarah weithio ym Mhrifysgol Aberystwyth fel tiwtor bedair blynedd yn ôl, ac erbyn hyn mae hi’n dysgu 8 cwrs i 94 o ddysgwyr.

Mae Sarah’n ennill y wobr am fod yn diwtor penigamp, ond yn arbennig oherwydd ei chyfraniad at y maes yn ystod y cyfnod clo.

Mae ganddi hi gefndir arbenigol ym maes technoleg gwybodaeth a diogelwch seibr, gan helpu symud cyrsiau’n gyflym i ddysgu ar Zoom ar gychwyn y pandemig llynedd.

Mae hi wedi paratoi deunyddiau hyfforddi, ac mae hi wedi rhoi llawer iawn o help i diwtoriaid yn rhanbarthol ac yn genedlaethol.

Dywedodd Sarah Graham:

“Mae derbyn y wobr hon yn anrhydedd enfawr - diolch yn fawr!  Dysgais i’r Gymraeg gyda Dysgu Cymraeg Ceredigion, Powys a Sir Gâr.  Wedi derbyn cymaint o gefnogaeth amhrisiadwy yn ystod fy amser fel dysgwraig, roedd yn fraint i allu cynnig ychydig o gymorth ychwanegol yn ôl i'r tîm fel tiwtor.  Roeddwn yn hapus iawn i fod yn rhan o’r ymdrechion arbennig gan bawb wrth i ni i gyd newid dros nos o ddysgu wyneb yn wyneb i ddysgu ar-lein - oedd yn dipyn o antur!”

 

“Wrth gwrs allen ni ddim bod wedi gwneud hyn yn llwyddiant heb y dysgwyr, maen nhw wedi bod mor gefnogol a brwdfrydig, felly diolch yn fawr iawn iddyn nhw hefyd!”