Myfyriwr mentergar yn ennill £13,000 o fuddsoddiad yn ei syniad busnes

Y myfyriwr Cyfrifiadureg Karl Swanepoel, enillydd Gwobr CaisDyfeisio 2021

Y myfyriwr Cyfrifiadureg Karl Swanepoel, enillydd Gwobr CaisDyfeisio 2021

20 Ebrill 2021

Mae myfyriwr Cyfrifiadureg yn ei flwyddyn olaf wedi ennill buddsoddiad gwerth £13,000 yn ei syniad busnes i ddatblygu gwefan ac ap a fydd yn paru gweithwyr medrus sy'n gweithio ar eu liwt eu hun â busnesau newydd sy'n chwilio am wasanaethau digidol. 

Syniad Karl Swanepoel yw 'Topwork' (bellach yn Revolancer). Fe oedd yr ymgeisydd a aeth â bryd y beirniaid yng Nghystadleuaeth syniadau myfyrwyr Gwobr CaisDyfeisio (InvEnterPrize) eleni. 

"Llwyfan digidol yw Topwork a fydd yn helpu mentrwyr busnes a pherchnogion busnesau bychain i ddod o hyd i fyfyrwyr a phobl sy'n gweithio ar eu liwt eu hun, sy'n gweithio o bell ac sy'n arbenigo ar sgiliau digidol, gan gynnwys - ymhlith pethau eraill - dylunio graffeg, ysgrifennu, rhaglennu a'r cyfryngau cymdeithasol", esboniodd Karl.  "Diben y llwyfan yw chwalu'r meini tramgwydd sy'n atal pobl rhag cychwyn a meithrin busnesau ar-lein ac ennill incwm o bell."

Cynhelir y gystadleuaeth CaisDyfeisio bob blwyddyn ac fe'i noddir gan gyfraniadau gan gyn-fyfyrwyr drwy Gronfa Aber, ac fe'i trefnir gan Wasanaeth Gyrfaoedd y Brifysgol.   Eleni daeth cystadleuwyr y rownd derfynol o ystod eang o ddisgyblaethau academaidd, gan gynnig syniadau a amrywiodd o wellt yfed a wnaed o wair, i baent inswleiddio thermol.

Ar y cyd â chael £10,000 i fuddsoddi mewn cyfarpar, adnoddau neu wasanaethau proffesiynol er mwyn gwireddu ei syniad busnes, llwyddodd Karl hefyd i gipio gwobr ar wahân sy'n werth £3,000, a noddir gan Engineers in Business, ar gyfer cynnig buddugol gan fyfyriwr neu dimau sy'n astudio Cyfrifiadureg, Mathemateg a Ffiseg.

Ymatebodd Karl i'r newyddion iddo ennill Gwobr CaisDyfeisio 2021 drwy ddweud:  "Mae'n ddyhead gennyf ddechrau busnes a bod yn bennaeth arnaf fi fy hun ers pan oeddwn i'n bedair ar ddeg. Mae'r wobr CaisDyfeisio wedi fy helpu i gymryd cam bras mawr at y nod hwnnw. Mae'r gystadleuaeth hon wedi rhoi cyfle penigamp i mi i roi Topwork ar ben y ffordd, ac rwy'n hynod ddiolchgar i'r beirniaid, trefnwyr y gystadleuaeth, a phawb a gymerodd amser o'u hamserlenni prysur i'm helpu ar hyd y ffordd.  Drwy ennill gwobrau’r gystadleuaeth, byddaf i'n gallu ariannu Topwork fel y bydd modd ei lansio cyn hir, a helpu gweithwyr, myfyrwyr a mentrwyr busnes medrus ledled Prydain. Mae meddwl am gychwyn arni nawr yn gyffrous iawn."

Mae Tony Orme, Ymgynghorydd Gyrfaoedd a Hyrwyddwr Mentergarwch y Brifysgol, yn esbonio: "Mae'r Wobr CaisDyfeisio yn dal i fod yn uchafbwynt yng nghalendr y Brifysgol i fyfyrwyr mentergar a chanddynt syniad am fusnes neu fenter gymdeithasol.  Dyma'r seithfed waith i’r Brifysgol gynnal y gystadleuaeth, sydd ymhlith y cystadlaethau menter mwyaf i fyfyrwyr drwy Brydain o hyd. Ers i ni lansio cystadleuaeth 2021, ddeuddeg wythnos yn ôl, mae timoedd o fyfyrwyr mentergar wedi mireinio eu meddyliau busnes drwy raglen o weithdai ar-lein sy'n canolbwyntio ar y sgiliau hanfodol sydd eu hangen i gychwyn busnes, megis ymchwil i'r farchnad, marchnata a brandio, a chynllunio a rheolaeth ariannol.  Eleni fe roddodd y chwe chystadleuydd terfynol gyflwyniad hanner awr bob un, gan ymateb i gwestiynau gan ein panel o gyn-fyfyrwyr o fri, mewn sesiwn debyg i'r rhaglen deledu 'Dragon's Den'.  Roedd natur arloesol y syniadau busnes ac ansawdd y cyflwyniadau yn drawiadol."

Hefyd, yn rhan o'r wobr i'r gystadleuaeth eleni, fe gynigiwyd lle mewn swyddfa am flwyddyn, mentora a hyfforddiant i baratoi at fuddsoddiad, a ddarperir gan ArloesiAber, a gynigir am y cais gorau o sectorau'r bio-wyddorau, y gwyddorau bywyd ac amaethyddiaeth.  Dyfarnwyd y wobr hon i'r cwmni te moesegol arloesol, Eisa Tea Co, sef syniad busnes y fyfyrwraig Seicoleg, Emily Knipe ac Amy Aed, a raddiodd mewn Saesneg.  Dywedodd Amy: "Bydd ennill lle mewn swyddfeydd a chegin yn AberArloesi am flwyddyn yn amhrisiadwy ar gyfer cychwyn Eisa Tea Co. gan fod gennym gyfle nawr i dreulio'r haf cyfan yn gweithio ar flasau ein cynnyrch mewn cegin broffesiynol, gyda chymorth arbenigwyr. Mae'r cysylltiadau yr ydym wedi'u gwneud trwy weminarau a digwyddiadau ar-lein AberPreneur wedi bod yn hanfodol wrth fireinio ein syniadau ac wrth ddysgu am sut i gyrraedd y llinell gychwyn. Rydym eisoes wedi cofrestru'n swyddogol fel busnes, wedi dechrau gweithio gyda dylunwyr i berffeithio ein brandio, ac wedi dod o hyd i ddarpar stocwyr ledled Cymru.”

Dyfarnwyd y wobr derfynol, sef gwobr GRAaIN, werth £500, ar gyfer Busnes Cefn Gwlad, i wefan ac ap sy'n helpu beicwyr ar daith i ddod o hyd i lety addas.  Dyma syniad busnes y myfyriwr busnes Thomas Lancaster ac Emily Stratten, a raddiodd mewn daearyddiaeth. Mae Ride Dyfi (www.ridedyfi.co.uk) yn dod o hyd i lety ym mro Dyfi ac Eryri sy'n addas yn benodol i feicwyr mynydd, gyda'r nod o ddatblygu i fod yn brif gyrchfan i feicwyr mynydd sy'n beicio yn yr ardal ac yn chwilio am wybodaeth amdani.

Meddai'r Athro Tim Woods, Dirprwy Is-Ganghellor (Dysgu, Addysgu a Phrofiad y Myfyrwyr): "Llongyfarchiadau i'r holl gystadleuwyr terfynol, sydd yn ysbrydoliaeth inni, ac sydd wedi achub ar y cyfle hwn i gyflwyno eu syniadau busnes arloesol i'n beirniaid yn rownd derfynol Gwobr CaisDyfeisio eleni.  Roedd hi'n ornest drawiadol iawn ac rydym ni'n ddiolchgar iawn i'n tîm o 'Ddreigiau', bob un ohonynt yn gyn-fyfyrwyr y Brifysgol a aeth ymlaen i yrfaoedd llwyddiannus ym myd busnes.   Llongyfarchiadau gwresogi i fuddugwyr eleni -  dyma ddymuno'r gorau iddynt â'u mentrau busnes ac edrychwn ymlaen at glywed am eu llwyddiannau."

Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnig rhaglen lawn o ddigwyddiadau sy'n cefnogi gweithgarwch menter busnes ymhlith ei myfyrwyr, ei graddedigion a'i staff.  I gael rhagor o wybodaeth, ewch i dudalen we AberPreneurs