Arian adfer ychwanegol i Ganolfan Gelfyddydau Aberystwyth

Canolfan Gelfyddydau Aberystwyth

Canolfan Gelfyddydau Aberystwyth

08 Mehefin 2021

Mae Canolfan Gelfyddydau Aberystwyth wedi cael £605,365 o gyllid ychwanegol ar ôl cais llwyddiannus i ail gylch Cronfa Adferiad Diwylliannol Llywodraeth Cymru.

Nod y Gronfa Adferiad Diwylliannol, sydd yn becyn achub ac adfer i sefydliadau a chyrff celfyddydol yng Nghymru, yw helpu sector y celfyddydau yng Nghymru i oroesi argyfwng COVID-19 ac aros yn fywiog, ac yn ariannol hyfyw a chynaliadwy.

Mewn datganiad ar 7 Mehefin 2021, rhoes Cyngor Celfyddydau Cymru - a oedd yn rheoli'r elfen o'r gronfa sydd ar gyfer cyrff celfyddydol perthnasol - fanylion am y sefydliadau a fu'n llwyddiannus yn eu cais am arian adfer i dalu am y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2021 i 30 Medi 2021.  Ceir y datganiad llawn ar wefan Cyngor Celfyddydau Cymru.

Wrth ymateb i'r cyhoeddiad, dywedodd Cyfarwyddwr Canolfan y Celfyddydau, Dafydd Rhys:  “Rydym mor falch ac mor ddiolchgar bod Cyngor y Celfyddydau yn cydnabod pwysigrwydd Canolfan Gelfyddydau Aberystwyth fel canolbwynt i'r celfyddydau yn y Canolbarth a'r Gorllewin, ac yr ymddiriedir ynom i arwain y ffordd wrth i'r sector diwylliannol a'r celfyddydau godi drachefn yn sgil argyfwng COVID-19.

“Bydd y cyllid hwn yn helpu i adennill y bwrlwm diwylliannol yng Nghanolfan y Celfyddydau ar ôl y pandemig byd-eang. Rydym yn aros yn eiddgar am gael croesawu pobl yn ôl pan rydyn ni’n ail-agor yn ddiweddarach y mis hwn, ac wedi bod wrthi'n llunio rhaglen gyffrous o ddigwyddiadau a gweithgareddau a fydd yn denu ystod eang o gynulleidfaoedd.”

Canolfan Gelfyddydau Aberystwyth yw canolfan gelfyddydau fwyaf Cymru, ac fe'i cydnabyddir fel un o ganolfannau blaenllaw'r genedl i'r celfyddydau. Mae ganddi raglen gelfyddydol eang, o safbwynt cynhyrchu a chyflwyno fel ei gilydd, ar draws holl ystod y celfyddydau gan gynnwys drama, dawns, cerddoriaeth, y celfyddydau gweledol, ffilm a chelfyddydau cymunedol ac fe'i cydnabyddir fel canolfan genedlaethol ar gyfer datblygu'r celfyddydau. 

Mae Canolfan y Celfyddydau yn cael cefnogaeth gan Cyngor Celfyddydau Cymru, Prifysgol Aberystwyth a Chyngor Sir Ceredigion.