2021

21 Rhagfyr 2021

Wrth i 2021 ddiwryn i ben, dyma edrych yn ól dros rai o uchafbwyntiau'r flwyddyn ym Mhrifysgol Aberystwyth:

Ionawr

Ap newydd i helpu cleifion strôc i wella gartref yn ystod COVID-19

Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn datblygu ap ar gyfer offer symudol i helpu cleifion sy’n gwella ar ôl strôc i wneud mwy o ymarfer corff ac ymdopi ag unigedd yn ystod pandemig COVID-19.  Datblygir yr Ymarferydd Ymarfer Corff Rhithwir gan dîm ymchwil amlddisgyblaethol sy’n arbenigo ar Ddeallusrwydd Artiffisial, Niwrowyddoniaeth, Adfer ar ôl Strôc, Gwyddor Ymarfer Corff Clinigol a Seicoleg.  Bydd yn darparu rhaglenni hyfforddi yn y cartref wedi'u teilwra at anawsterau symud a achosir gan strôc.  Bydd yr ap yn galluogi cleifion i hunanasesu a monitro eu galluoedd corfforol eu hunain yn ogystal â darparu adborth ar y pryd iddynt er mwyn eu hannog i ddyfalbarhau.

Chwefror

Llwyfan digidol newydd i Eiriadur Eingl-Normaneg y Canol Oesoedd

Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi lansio llwyfan digidol newydd sy'n darparu gwybodaeth gronolegol fanwl am bob gair Eingl-Normaneg, a hynny ar-lein am y tro cyntaf.  Mae'r adnodd yn dangos sut mae mwy na 50% o’r geiriau Saesneg a ddefnyddir heddiw yn tarddu o’r Eingl-Normaneg, gan gynnwys geiriau fel 'actually’, 'jolly', 'dungeon' a 'nice' yn ogystal â llu o eiriau coginio cyffredin fel 'soup’, 'lettuce', 'crust', 'sauce' a 'mustard'.

Mawrth

Adfer y Gymru wledig wedi’r Cofid

Mae angen rhaglen integredig ar y Gymru wledig er mwyn gwella’r isadeiledd, arallgyfeirio’r economi, sicrhau bod tai ar gael, a chryfhau gwytnwch y gymuned wrth iddi adfywio wedi’r pandemig COVID-19, yn ôl adroddiad gan ymchwilwyr yn Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear. Dangosodd yr adroddiad hefyd fod y pandemig wedi dwysáu’r heriau oedd eisoes yn wynebu’r Gymru Wledig, ond mae hefyd yn amlygu cyfleoedd posib newydd.

Ebrill

Myfyriwr mentergar yn ennill £13,000 o fuddsoddiad yn ei syniad busnes

Mae myfyriwr Cyfrifiadureg yn ei flwyddyn olaf, Karl Swanepoel, wedi ennill buddsoddiad gwerth £13,000 yn ei syniad busnes i ddatblygu gwefan ac ap (Revolancer) a fydd yn paru gweithwyr medrus sy'n gweithio ar eu liwt eu hun â busnesau newydd sy'n chwilio am wasanaethau digidol. Cynhelir y gystadleuaeth CaisDyfeisio bob blwyddyn ac mae’n dal i fod ymhlith y cystadlaethau menter mwyaf ym Mhrydain i fyfyrwyr. Eleni cynigiwyd amryw syniadau gan gystadleuwyr y rownd derfynol, o wellt yfed a wnaed o wair, i baent inswleiddio thermol.

Mai

Gwyddonwyr yr haul yn cadarnhau tonnau magnetig a ragwelwyd 70 mlynedd yn ôl

Mae gwyddonwyr o’n Hadran Ffiseg ymhlith tîm o ymchwilwyr rhyngwladol a gofnododd bresenoldeb tonnau magnetig ar wyneb yr Haul. Cafodd y ffenomen, o’r enw tonnau Alfvén, ei ddarogan gan wyddonydd o Sweden dros 70 mlynedd yn ôl.  Mae cadarnhau eu presenoldeb yn gam cyntaf tuag at fanteisio ar nodweddion a galluoedd y tonnau magnetig hyn.  Llun credyd: NASA

Mehefin

Ymchwil iechyd newydd i helpu i achub pengwiniaid Affrica rhag difodiant

Mae ymchwil rhyngwladol, sy’n cynnwys gwyddonwyr Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig, yn ymchwilio i sut mae afiechydon a llygredd yn cyfrannu at y cwymp ym mhoblogaeth pengwiniaid Affrica, rhywogaeth a all wynebu difodiant ymhen rhyw dri deg i wyth deg o flynyddoedd.  Mae’r prosiect rhyngwladol, ‘Iechyd Pengwiniaid Affrica’ yn cynnal arolwg ar iechyd y pengwiniaid drwy gymryd ystod o samplau i’w dadansoddi, chwilio am gemegau gwenwynig mewn adar meirw, monitro arfordiroedd a nythfeydd gan ddefnyddio gwyddoniaeth dinasyddion a dronau, asesiadau rhanddeiliaid a modelu newid poblogaethau.  Llun: © J Kemper

Gorffennaf

Academydd o Aberystwyth i guradu arddangosfa ryngwladol o bensaernïaeth theatrau a mannau perfformio

Mae academydd o’n Hadran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu wedi'i benodi i'r tîm artistig rhyngwladol sy'n gyfrifol am arddangosfa dylunio theatr a senograffeg fwyaf y byd.  Bydd y Dr Andrew Filmer yn curadu'r Arddangosfa o Fannau Perfformio ar gyfer 15fed ŵyl Dylunio a Mannau Perfformio Prâg, a gynhelir bob pedair blynedd, ac a gynhelir nesaf o 8-18 Mehefin 2023 yn y Pražská Tržnice ym Mhrâg, Gweriniaeth Tsiec.  Yn y digwyddiad, bydd senograffwyr, dylunwyr setiau, artistiaid gofodol, penseiri, dylunwyr theatr, a pherfformwyr o dros 90 o wledydd yn defnyddio eu dychymyg a'u creadigrwydd i helpu pobl i ddarlunio sut y gallai'r byd a'r theatr edrych yn y dyfodol ar ôl y pandemig.

Awst

Cyflymu bridio Miscanthus er mwyn mynd i’r afael â newid hinsawdd

Mae gwyddonwyr o Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig yn ymchwilio i dechneg o’r enw dethol genomig i gyflymu bridio Miscanthus, mewn ymdrech i roi hwb i gynhyrchu biomas a bodloni targedau newid hinsawdd. Mae dethol genomig yn dangos potensial i gyflymu’r gwaith datblygu mathau newydd o Miscanthus sy'n fwy cynhyrchiol ac yn addas at ystod o amodau amgylcheddol a sefyllfaoedd hinsawdd posib yn y dyfodol.

Medi

Gallai cynhesu cyflym yn yr Arctig ledaenu gwastraff niwclear, feirysau newydd a chemegau peryglus

Mae’r Dr Arwyn Edwards o Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig yn gyd-awdur ar bapur ymchwil sy’n datgelu ei bod hi’n bosib y gallai dadmer cyflym sy’n digwydd yn rhew parhaol yr Arctig ryddhau gwastraff ymbelydrol o longau tanfor ac adweithyddion niwclear y rhyfel oer, bacteria sy'n gwrthsefyll gwrthfiotigau, ac o bosib feirysau na wyddom amdanynt eto. 

Hydref

Gosodwaith newydd yn darlunio straeon ffoaduriaid yng Nghymru

Mae ymchwilwyr y Ganolfan Astudio Symudedd Pobl ym y Brifysgol wedi cydweithio â'r awdur plant, Michael Rosen, i ddarlunio profiadau personol rhai o'r ffoaduriaid sydd wedi ymgartrefu yng Nghymru dros y ganrif ddiwethaf.  Bydd eu straeon unigryw yn rhan o osodwaith digidol a fydd yn cael ei rannu ochr yn ochr â delweddau, gwrthrychau a fideo, mewn arddangosfa bwysig yn yr orielau newydd ar yr Ail Ryfel Byd a’r Holocost yn yr Amgueddfa Ryfel Ymerodrol yn Llundain.

Tachwedd

Academyddion Aberystwyth yn COP26

Cyfrannodd ein hacademyddion at nifer o drafodaethau ac arddangosfeydd yn uwch-gynhadledd COP26.  Cafodd y cynadleddwyr, gan gynnwys arweinwyr y byd a swyddogion, y cyfle i ddysgu am enghreifftiau o ymchwil y Brifysgol i ddatblygu atebion i broblemau newid hinsawdd, gan gynnwys: defnyddio lloerenni i fapio biomas coedwigoedd uwchben y ddaear, ac i gofnodi cyflwr a dynameg tirlun Cymru; lleihau nwyon tŷ gwydr trwy adfer mewndir; argymhellion ar sut i leihau gwastraff a cholledion bwyd er mwyn leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr; a gwaith eco-beirianneg.

Rhagfyr

Tywysog Cymru yn agor Ysgol Gwyddor Filfeddygol newydd

Mae Tywysog Cymru wedi agor ein Hysgol Gwyddor Filfeddygol yn swyddogol ar 10 Rhagfyr. Cafodd y Tywysog, sy’n gyn-fyfyriwr Aberystwyth, ei dywys o amgylch y Ganolfan Addysg Milfeddygaeth newydd a bu’n siarad â rhai o’r garfan gyntaf o fyfyrwyr a ddechreuodd eu hastudiaethau ym mis Medi eleni. Mae’r Ganolfan yn rhan allweddol o Ysgol Gwyddor Filfeddygol gyntaf Cymru ac yn deillio o fuddsoddiad gwerth mwy na £2 miliwn mewn cyfleusterau addysgu newydd ar gampws Penglais. Bydd y myfyrwyr milfeddygaeth yn treulio eu dwy flynedd gyntaf ym Mhrifysgol Aberystwyth a thair blynedd wedyn ar Gampws Hawkshead y Coleg Milfeddygol Brenhinol yn Swydd Hertford.