Dysgwyr Cymraeg gorau’r Canolbarth yn cael eu gwobrwyo ar faes yr Eisteddfod

Dysgwyr Cymraeg

Dysgwyr Cymraeg

02 Awst 2022

Mae teulu o Dal-y-bont yng Ngheredigion ac aelod o staff y Llyfrgell Genedlaethol ymysg y rheini sydd wedi derbyn gwobrau am fod y dysgwyr Cymraeg gorau yn y Canolbarth.

Cyflwynwyd gwobr Cymraeg yn y Cartref i deulu Cat Roll o Dal-y-Bont a gwobr Cymraeg yn y Gweithle i Wilhelmina Brandon, Curadur Digidol yn y Llyfrgell Genedlaethol, mewn seremoni ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ddydd Mawrth 2 Awst.

Derbyniodd Bwrdd Iechyd Hywel Dda’r wobr i gyflogwyr am Gymraeg yn y Gweithle am ymdrechion ei staff i ddysgu’r iaith. Aeth gwobr Grŵp y Flwyddyn i Glwb Darllen Sir Gâr am godi defnydd a hyder dysgwyr yn yr iaith.

Fel rhan o’r seremoni, cyflwynodd y Prifardd Mererid Hopwood, sy’n Athro yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Aberystwyth, englynion i Diwtor y Flwyddyn, Richard Vale o Gastell Newydd Emlyn, a Dysgwr y Flwyddyn, Lynne Blanchfield o Aberystwyth.

Wrth longyfarch pawb ar eu llwyddiant, dywedodd Yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth:

“Llongyfarchion mawr iawn i bawb ar eich llwyddiant wrth ddysgu Cymraeg. Hoffwn i ddiolch i bawb am wneud yr ymdrech honno, ac am fod mor frwdfrydig eich ymdrechion. Mae iaith unigryw Cymru yn drysor cenedlaethol arbennig, ac yn rhodd i bawb sydd yn byw yma.

“Rydym ni hefyd yn arbennig o ddiolchgar i’r tiwtoriaid sydd wedi helpu cynifer o ddysgwyr ar hyd y blynyddoedd. Diolch iddyn nhw i gyd am eu gwaith rhagorol, ac i bawb yn y tîm Dysgu Cymraeg.”

Mae tua 1,500 o ddysgwyr yn dilyn cyrsiau Dysgu Cymraeg drwy Brifysgol Aberystwyth a’i phartneriaid.

Mae Adran Dysgu Cymraeg Prifysgol Aberystwyth yn darparu cyrsiau ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yng Ngheredigion, Powys a Sir Gâr, gyda darpariaeth benodol i ddysgu Cymraeg yn y gweithle ac i deuluoedd.

Mae mwy o wybodaeth ar gael drwy fynd i: https://dysgucymraeg.cymru/amdanom-ni/darparwyr-cyrsiau/prifysgol-aberystwyth/

Cymraeg yn y Cartref – Cat Roll

Cat Roll o Dal-y-Bont, Ceredigion a dderbyniodd y wobr Cymraeg yn y Cartref. Mae hi’n dysgu Cymraeg ers dwy flynedd, ac mae’r teulu cyfan wedi ymuno yn yr ymdrech. Mae ei gŵr Jon hefyd yn dysgu, ac maen nhw’n dysgu’r iaith i’w plant - mab a’r ddwy ferch, sydd rhwng 6 a 10 oed - sy’n derbyn eu haddysg gartref.

Meddai Cat Roll: “Mae’n teimlo’n dda iawn i ni fel teulu i fedru siarad mwy a mwy o iaith hardd y wlad hardd yr ydym yn byw ynddi. Mae Zoe [Pettinger] yn diwtor mor wych, a dw i’n teimlo ein bod yn gwneud cymaint o gynnydd gyda hi. Rydym wedi gwerthfawrogi’r cyrsiau Dysgu Cymraeg yn fawr iawn, ac rydym wedi eu cymeradwyo’n eang i eraill sy’n awyddus i ddysgu Cymraeg.”

Cymraeg yn y Gweithle (Cyflogwr) – Bwrdd Iechyd Hywel Dda

Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi’i ddyfarnu’r cyflogwr gorau am ddysgu’r iaith yn y gweithle.

Fel rhan o ymdrechion y Bwrdd i annog pawb i ddefnyddio’r Gymraeg, maen nhw wedi datblygu’r brand ‘Rho Gynnig Arni’ a chyfres o adnoddau er mwyn cynorthwyo staff a dysgwyr i gyfathrebu yn yr iaith yn y gweithle. 

Jane Westlake yw un o’r 150 aelod o’u staff sydd wedi elwa o’r gwersi. Mae Jane yn gweithio mewn canolfan frechu, a dywedodd:

“Pan dwi’n gweithio yn y Ganolfan Frechu, mae’r cleifion yn dod i mewn i adeilad anarferol ac maen nhw’n ofnus achos COVID.  Mae’n well i mi siarad â nhw’n eu mamiaith i drio eu helpu nhw i ymlacio a theimlo’n ddiogel.”

Dywedodd Steve Moore, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda:

“Mae’r Bwrdd Iechyd yn hynod o falch i dderbyn y wobr hon heddiw. Mae cefnogi ein dysgwyr yn un o’r nodau o fewn ein Polisi Sgiliau Dwyieithog, wrth i ni geisio cynyddu’r nifer o staff sy’n gallu defnyddio’r Gymraeg gyda’n defnyddwyr gwasanaeth ac ar yr un pryd, cyfrannu at nod strategol Llywodraeth Cymru o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Llongyfarchiadau i’n holl ddysgwyr.”

Dysgwr y Flwyddyn - Lynne Blanchfield

Enillydd Dysgwr y Flwyddyn oedd Lynne Blanchfield o Aberystwyth, gwirfoddolwr brwd sy’n ysbrydoli dysgwyr eraill. Dyma’r trydydd tro iddi ddysgu’r Gymraeg, wedi iddi ymddeol i fyw yn ôl i Aberystwyth yn 2013. Collodd Lynne y Gymraeg ddwywaith yn ei bywyd ar ôl iddi orfod symud o Brestatyn i Loegr pan oedd hi’n ddeg oed.

Enillodd Lynne Gadair Eisteddfod y Dysgwyr Prifysgol Aberystwyth yn 2020.  Mae hi wedi gweithio a gwirfoddoli trwy gyfrwng y Gymraeg i sawl elusen a sefydliad yn lleol, gan gynnwys Age Cymru ac Amgueddfa Ceredigion.

Dywedodd Lynne Blanchfield:

“Rwyf yn gwerthfawrogi’r wobr hon yn fawr iawn – mae'n galonogol cael cerrig milltir ar hyd ein taith dysgu Cymraeg. Rwy’n gobeithio annog dysgwyr eraill ar ôl i fi gael cymaint o gefnogaeth ar fy nhaith fy hun gan yr adran, cyd-ddysgwyr, pobl y dref, a’n tiwtoriaid gwych."

Tiwtor y flwyddyn – Richard Vale

Tiwtor y flwyddyn oedd Richard Vale sy’n gyn newyddiadurwr rhyngwladol a ddysgodd Gymraeg fel oedolyn, ac mae’n byw yng Nghastell Newydd Emlyn. Dywedodd:

“Dyma’r swydd orau erioed. Mae dod i adnabod cymaint o bobl ddiddorol a phawb â’i stori ei hun yn fraint heb ei hail, ac yn goron ar hyn i gyd mae cael agor y drws i’r byd Cymraeg yn bleser pur.”

Dysgwr Cymraeg yn y Gweithle - Wilhelmina Brandon

Wilhelmina Brandon oedd yn fuddugol yn y categori ‘Dysgwr Cymraeg yn y Gweithle’. Gweithio yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru mae Mina, ac mae hi’n dysgu Cymraeg ar lefel Ganolradd. Mae hi’n gweithio fel Swyddog Curadu Digidol, ac mae deall a siarad Cymraeg yn bwysig yn y gwaith ac wrth ymwneud â chydweithwyr.

Grŵp y Flwyddyn – Clwb Darllen Sir Gâr

Grŵp y Flwyddyn oedd Clwb Darllen Sir Gâr sy’n glwb ar gyfer dysgwyr sydd wedi dechrau dysgu Cymraeg ers dwy flynedd, ac maen nhw’n cwrdd yn rheolaidd ar Zoom i ddarllen a thrafod llyfrau i ddysgwyr.

Cara Llywelyn-Davies yw’r tiwtor sy’n arwain y clwb a meddai:

“Mae’r amrywiaeth helaeth yn y llyfrau wedi galluogi’r dysgwyr i ddysgu am iaith y gogledd a thafodiaith ardaloedd eraill o Gymru, ac wedi rhoi’r hyder iddyn nhw fentro i ddarllen mwy o lyfrau’n annibynnol. Mae eu Cymraeg yn mynd o nerth i nerth ac mae hi wedi bod yn bleser gweld eu hyder yn gwella.”