Croesawu buddsoddiad o £2m yn Uwchgyfrifiadura Cymru

Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi, Llywodraeth Cymru (Hawlfraint: Prifysgol Caerdydd)

Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi, Llywodraeth Cymru (Hawlfraint: Prifysgol Caerdydd)

02 Awst 2022

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi croesawu buddsoddiad o £2 miliwn yn Uwchgyfrifiadura Cymru, cyfleuster ymchwil cyfrifiadura cenedlaethol sy'n cydweithio gyda sefydliadau addysg uwch ledled Cymru.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething AS y bydd yr arian yn estyn gweithrediad y sefydliad tan ddiwedd 2022. Bydd yn cael ei ddefnyddio i ddenu cyllid allanol newydd, cynyddu nifer y partneriaethau, creu swyddi a chefnogi cydweithrediadau.

Mae Prifysgol Aberystwyth yn un o bedwar sefydliad addysg uwch yn y consortiwm, ar y cyd â Bangor, Caerdydd ac Abertawe. Ariennir y consortiwm yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru, a darperir gweddill yr arian gan bartneriaid y prifysgolion.

Mae seilwaith Uwchgyfrifiadura Cymru, ar draws dwy ganolfan uchel eu perfformiad, yn cael ei ddefnyddio gan fwy na 4,000 o staff a myfyrwyr prifysgol. Mae dros 700 o brosiectau wedi'u cofrestru ar y system.

Mae ymchwilwyr Cymru Fyw Prifysgol Aberystwyth yn defnyddio'r cyfleusterau i ddatblygu a gweithredu dull seiliedig ar loeren o fapio a monitro gorchudd tir. Maent yn defnyddio data arsylwi ar y Ddaear o 1985 hyd heddiw i fonitro cyflwr tirwedd Cymru sy’n newid yn gyson, gyda'r nod o ddatblygu system awtomataidd i gofnodi’r newidiadau.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething: "Nid yw ymchwil, gwyddoniaeth, a thechnoleg erioed wedi bod yn bwysicach wrth fynd i'r afael â phrif broblemau byd-eang ein hoes. Enghraifft berffaith o hyn yw’r gwaith amhrisiadwy a wnaeth Uwchgyfrifiadura Cymru yn ystod y pandemig byd-eang yn modelu lledaeniad COVID-19 yng Nghymru a dilyniannu genomau COVID-19.

"Mae Uwchgyfrifiadura Cymru yn fwy na seilwaith cyfrifiadurol yn unig - mae'n gymuned bwysig o beirianwyr meddalwedd ymchwil, staff technegol ac ymchwilwyr sy'n gweithio i sicrhau canlyniadau sylweddol i wyddoniaeth, ein prifysgolion ac i Gymru.

"Bydd Cyfrifiadura Perfformiad Uchel a pheirianneg meddalwedd yn chwarae rhan hanfodol mewn ymchwil academaidd a diwydiannol yn ystod y degawd nesaf. Mae Llywodraeth Cymru yn falch o gefnogi Uwchgyfrifiadura Cymru yn ei hymgais i feithrin arbenigedd ymchwil wrth gasglu a dadansoddi data. Bydd hyn o fudd i'r economi, gwasanaethau cyhoeddus, addysg a gofal iechyd, gan gynorthwyo i wella ein lles yn y dyfodol a mynd i'r afael â rhai o brif heriau byd-eang ein hoes."

Meddai’r Athro Reyer Zwiggelaar, Pennaeth Ysgol y Graddedigion: "Rydym yn croesawu'r cyllid newydd ar gyfer Uwchgyfrifiadura Cymru a fydd yn helpu i barhau'r gwaith arloesol sydd ar y gweill gennym ni a’n partneriaid eraill, gan gadarnhau dyfodol digidol Cymru ymhellach.

"Mae'r cyfleusterau a ddarperir gan Uwchgyfrifiadura Cymru wedi bod yn amhrisiadwy yn ein hymchwil ni, a bydd y cyllid hwn yn sicrhau y bydd Cymru'n parhau i arloesi mewn meysydd megis deallusrwydd artiffisial a data mawr."