Prosiect Prifysgol Aberystwyth yn cefnogi cymunedau mewn gwrthdaro byd-eang

Mae mudiadau sifil diarfog fel Timau Diogelu Menywod De Sudan y Nonviolent Peaceforce yn gweithio i sicrhau diogelwch corfforfol mewn cymunedau sydd wedi’u heffeithio gan wrthdaro treisgar. Cydnabyddiaeth llun: Nonviolent Peaceforce.

Mae mudiadau sifil diarfog fel Timau Diogelu Menywod De Sudan y Nonviolent Peaceforce yn gweithio i sicrhau diogelwch corfforfol mewn cymunedau sydd wedi’u heffeithio gan wrthdaro treisgar. Cydnabyddiaeth llun: Nonviolent Peaceforce.

22 Medi 2022

Mae dysgu gan dyfwyr coffi brodorol sy’n eu hamddiffyn eu hunain rhag trais arfog yng Ngholombia yn rhan o un o’r prosiectau ymchwil newydd a gyllidir gan rwydwaith rhyngwladol dan arweiniad Prifysgol Aberystwyth.

Mae rhwydwaith Creu Man Diogelach yn gweithio gydag ymchwilwyr, cymunedau a sefydliadau mewn rhanbarthau y mae gwrthdaro’n effeithio arnynt i wella a chryfhau gallu sifiliaid i’w hamddiffyn eu hunain ac eraill yn ddi-drais. Ei nod yw creu mannau diogelach lle gall cymunedau adeiladu heddwch a datblygu cynaliadwy.

Mae’r rhwydwaith wedi cyhoeddi y bydd yn cefnogi 13 o brosiectau ymchwil cydweithredol ar draws y byd sy’n datblygu dealltwriaeth o Amddiffyn Sifiliaid Diarfog (UCP) a hunanamddiffyn cymunedol.

Bydd nifer o’r prosiectau llwyddiannus yn canolbwyntio ar wledydd craidd rhwydwaith Creu Man Diogelach - Colombia, De Sudan, Myanmar a’r Philipinau. Mae cymorth hefyd wedi’i roi i brosiectau yn Camerŵn, Palestina a Nigeria.

De-orllewin Colombia yw ffocws un o’r prosiectau sy’n derbyn cymorth, lle mae ymchwilwyr yn gweithio gyda chymunedau amrywiol fel tyfwyr coffi brodorol a phobl Affro-Colombiaidd i ddysgu o’u profiad a’u gwybodaeth am lywio drwy’r gwrthdaro cymhleth sy’n bygwth eu diogelwch. Nod y prosiect yw helpu i wella galluoedd cymunedol ar gyfer hunan-amddiffyn di-drais yn y rhanbarth a’r tu hwnt.

Nod un o’r prosiectau ymchwil eraill yw ymchwilio a chryfhau amddiffyniad diarfog cymunedol yn Camerŵn. Yn wyneb trais o du’r fyddin a grwpiau arfog ymwahanol, mae sifiliaid yn Camerŵn wedi bod yn rhagweithiol ac yn ddychmygus yn dyfeisio ffyrdd i’w hamddiffyn eu hunain a’i gilydd a chadw’n ddiogel, gan gynnwys drwy iaith wedi’i chodio, cyfathrebu di-eiriau, cyd-drafod yn uniongyrchol gyda’r rheini sy’n rhyfela, rhwydweithiau rhybuddion cynnar a rhannu gwybodaeth drwy gymdeithasau lleol a’r cyfryngau cymdeithasol. Mae’r prosiect yn cynnwys ymchwilwyr yn y DU ac yn Camerŵn, ac yn defnyddio dulliau ymchwil creadigol, fel adrodd straeon, barddoniaeth a lluniadu cyfranogol, i helpu cymunedau yr effeithiwyd arnynt i ddysgu oddi wrth ei gilydd.

Dywedodd yr Athro Berit Bliesemann De Guevara o Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth, sy’n arwain rhwydwaith Creu Man Diogelach:

“Rydym ni’n falch iawn fod ein Rhwydwaith nawr yn dechrau ar y cyfnod ymchwil craidd. Mae’r prosiectau llwyddiannus yn hynod o bwysig i’n dealltwriaeth o’r strategaethau di-drais y mae sifiliaid yn mynd ati i’w defnyddio i rwystro neu atal trais yn erbyn sifiliaid eraill a nhw eu hunain. Mewn byd sy’n llawn trais, mae cymunedau ac ymgyrchwyr sy’n defnyddio strategaethau diarfog i amddiffyn eu bywyd a’u hawliau’n tystio i bŵer yr ysbryd dynol a chydsefyll. Bydd ein prosiectau ymchwil yn dangos sut mae strategaethau di-drais gweithredol o’r fath yn gweithio, a sut y gellir eu lledaenu i fod o fudd i fwy o bobl y mae trais yn effeithio arnynt – yn y Ne a Gogledd y Byd.”

Mae un o’r prosiectau ymchwil sydd eisoes yn derbyn cefnogaeth rhwydwaith Creu Man Diogelach yn edrych ar “ymgyrchu celfyddydol di-drais” gan ieuenctid a chymdeithas sifil yn erbyn creulondeb yr heddlu mewn dau leoliad yn Kenya: Nairobi a Kisumu. Mae’r prosiect yn ystyried effeithiolrwydd peintiadau a lluniau ar waliau – murluniau, graffiti, celf weledol, geiriau llafar, barddoniaeth a cherddoriaeth – fel strategaeth amddiffyn sifilaidd, ac yn asesu ei lwyddiant yn lleihau creulondeb yr heddlu.

Mae prosiect arall ar waith ac yn derbyn cymorth yn Papua, Indonesia, ardal y mae gwrthdaro treisgar wedi effeithio arni dros gyfnod hir. Mae’r prosiect yn astudio ac yn cryfhau’r ffyrdd y mae pobl yn eu diogelu eu hunain heb arfau mewn ymdrech i gefnogi rheoli gwrthdaro’n gymunedol.

Arweinir Creu Man Diogelach gan Brifysgol Aberystwyth gan gydweithio gyda Phrifysgol Antioquia (Colombia), Prifysgol Chulalongkorn (Gwlad Thai), Prifysgol Dinas Efrog Newydd (UDA), Prifysgol Durham, Prifysgol Leeds Beckett, a Phrifysgol Strathmore (Kenya).

Fe’i cyllidir gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC) dan Ymchwil ac Arloesi’r DU. Mae’r cyllid yn rhan o’r Gronfa Ymchwil Heriau Byd-eang, cronfa £1.5 biliwn ar gyfer cefnogi ymchwil ac arloesi blaengar sy’n mynd i’r afael â’r problemau byd-eang a wynebir gan wledydd sy’n datblygu.