Gig i ddathlu carreg filltir i Brifysgol Aberystwyth

Mynediad am Ddim, a sefydlwyd yn Aber yn 1974 yw un o’r bandiau a fydd yn perfformio yn nathliadau 150 mlwyddiant Prifysgol Aberystwyth.

Mynediad am Ddim, a sefydlwyd yn Aber yn 1974 yw un o’r bandiau a fydd yn perfformio yn nathliadau 150 mlwyddiant Prifysgol Aberystwyth.

05 Hydref 2022

Bydd gig mawreddog yn cael ei gynnal yn Aberystwyth fis Hydref (15 Hydref) fel rhan o ddathliadau pen-blwydd Prifysgol Aberystwyth yn 150 oed eleni. Wrth nodi’r achlysur, bydd y gig hefyd yn ddathliad o dreftadaeth cerddorol y Brifysgol dros y blynyddoedd ac mae’r lein-yp yn cynnwys llu o’r artistiaid a bandiau sydd wedi bod yn fyfyrwyr yno dros y blynyddoedd.

Cynhelir y gig yn y Neuadd Fawr, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth ar nos Sadwrn 15 Hydref gyda’r artistiaid yn cael eu rhannu dros ddau lwyfan i sicrhau cerddoriaeth fyw ddi-stop ar y noson. I gyd-fynd â’r Gig Mawr, bydd hefyd arddangosfa arbennig i’w gweld yng Nghanolfan Gelfyddydau rhwng 10-16 Hydref yn dathlu’r cysylltiad rhwng Aber a’r sin gerddoriaeth.

Wrth adlewyrchu ar y cysylltiad rhwng Prifysgol Aberysywyth a’r sîn gerddoriaeth, dwedodd Dr Rhodri Llwyd Morgan, “Mae’r perfformwyr yn crisialu’r amrywiaeth a’r cyfoeth o dalent cerddorol sydd â chysylltiadau â’r Brifysgol dros y blynyddoedd.  Mae artistiaid blaengar cyfoes fel Los Blancos yn siŵr o godi’r to.  Ac mae’n siŵr mai un o’r uchafbwyntiau fydd perfformiad prin diweddar gan Mynediad am Ddim, band a ffurfiodd pan oedd yr aelodau’n fyfyrwyr yn Aberystwyth ym 1974 ac aeth ymlaen i fod yn un o fandiau mwyaf poblogaidd ac arwyddocaol Cymru dros y degawdau wedi hynny.

“Un arall o gyn-fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth sydd wedi bod yn hynod ddylanwadaol yn y sin ydy Geraint Løvgreen ac fe fydd yntau’n ôl yn perfformio fel rhan o’r dathliad gyda’i fand yr Enw Da. Bydd un o gerddorion gwerin mwyaf dylanwadol Cymru, Linda Griffiths, hefyd yn perfformio ynghyd ag un arall o gyn-fyfyrwyr Aber, Neil Rosser, gyda’i fand diweddaraf Pwdin Reis.”

Meddai Graham Pritchard, un o’r chwe myfyriwr gwreiddiol o Aberystwyth a ffurfiodd y band yn 1974, “Bydd dod yn ôl i Aberystwyth i chwarae yn gig dathlu 150 mlynedd y Brifysgol yn wefr aruthrol a hiraethus. Mae gan Aberystwyth a'r Brifysgol atgofion melys iawn i'r band - dyna lle dechreuodd y cyfan i Mynediad am Ddim. Roedd yn gyfnod cyffrous iawn o ran rhoi cerddoriaeth werin a phop Cymraeg ar y map. Teimlaf inni gael braint fawr o fod yn rhan o’r cyfnod unigryw ac arbennig hwnnw. Ac yn y dathliadau, byddwn wrth gwrs yn cofio’n annwyl am ffrindiau sydd wedi ein gadael ac aelodau’r grŵp gwreiddiol.”

Mae lein-yp y gig yn cynnwys cyn-fyfyrwyr Aberystwyth dros y degawdau gan gynnwys dau sydd wedi gwneud eu marc yn gerddorol ychydig yn ddiweddarach - Mei Emrys a Catrin Herbert.

Roedd Mei Emrys yn aelod o’r band Vanta pan oedd yn fyfyriwr yn Aber ar droad y mileniwm ond mae bellach yn weithgar gyda cherddoriaeth newydd dan ei enw ei hun. Bydd y gig yn gyfle i glywed ei ganeuon bachog diweddar ynghyd ag ambell ffefryn o ddyddiau Vanta.

Rhyw ddegawd yn ôl yr oedd Catrin Herbert yn fyfyrwraig yn Aber ac roedd eisoes wedi dechrau gwneud ei marc yn gerddorol gydag ambell sengl boblogaidd. Rhyddhaodd ei EP cyntaf, ‘Y Gwir, y Gau, a Phopeth Rhwng y Ddau’ pan oedd newydd ddechrau yn y Brifysgol gan ymddangos ar glawr cylchgrawn Y Selar ar y pryd, yn Rhagfyr 2011.

Mae cyswllt agos y Brifysgol gyda’r sin gerddoriaeth wedi parhau dros y blynyddoedd diweddar hefyd a dau grŵp cyfoes amlwg sy’n cwblhau’r leip-yp ar gyfer y gig sef Los Blancos a Bwca.  Gitarydd a phrif ganwr Los Blancos wrth gwrs ydy Gwyn Rosser, mab Neil Rosser, felly bydd y tad a’r mab yn ymddangos ar y llwyfan yn ystod y dathliad.

Mae’r tocynnau ar gyfer Gig Mawr Aber 150 ar werth nawr trwy wefan Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth https://www.aberystwythartscentre.co.uk/cy/music/gig-mawr-150.