Gwyddonwyr yn rhybuddio y gallai dros gan mil tunnell o ficrobau ddianc o rewlifoedd sy’n dadmer

Rhai o'r tîm ymchwil ochr orllewinol Llen Iâ'r Ynys Las

Rhai o'r tîm ymchwil ochr orllewinol Llen Iâ'r Ynys Las

17 Tachwedd 2022

Gallai mwy na chan mil tunnell o ficrobau, gan gynnwys rhai sydd o bosib yn niweidiol a rhai llesol, gael eu rhyddhau wrth i rewlifoedd y byd ddadmer, mae academyddion o Brifysgol Aberystwyth wedi rhybuddio.

Dadansoddwyd dŵr tawdd ar wyneb wyth rhewlif yn Ewrop a Gogledd America ynghyd â dau safle yng ngorllewin yr Ynys Las, ac mae’r academyddion yn amcangyfrif y caiff y microbau hyn eu rhyddhau i ecosystemau’r nentydd islaw hyd yn oed gyda chynhesu cymedrol yn unig.

Gan ragdybio senario hinsawdd â chynnydd cymedrol mewn allyriadau carbon, mae'r astudiaeth yn rhagweld y caiff mwy na chan mil tunnell o ficrobau eu rhyddhau i’r amgylchedd ehangach. Byddai hyn yn cyfateb ar gyfartaledd i 0.65 miliwn tunnell o garbon cellog, sy’n cynnwys microbau, yn cael ei ryddhau’n flynyddol i afonydd, llynnoedd, ffiordau a chefnforoedd dros yr 80 mlynedd nesaf.

Mae amcangyfrifon yn awgrymu bod rhewlifoedd y Ddaear wedi bod yn colli tua triliwn tunnell o iâ y flwyddyn ers dechrau’r 1990au, yn bennaf oherwydd bod eu harwynebau'n dadmer.

Mae gwyddonwyr yn credu y gallai effaith y dadmer hwn, gan gynnwys gollwng microbau i amgylcheddau i lawr y nentydd, fod yn sylweddol.

Dywedodd Dr Tristram Irvine-Fynn o Brifysgol Aberystwyth:

“Mae arwynebau rhewlifoedd sy’n dadmer yn cynnal cymunedau microbaidd byw sy'n cyfrannu at y broses dadmer eu hunain, yn ogystal â chylchrediad biogeocemegol, ac yn bwydo ecosystemau islaw iddyn nhw; ond tlawd yw ein dealltwriaeth o’r cymunedau hyn o hyd.

“Dros y degawdau nesaf mi fydd llif y dŵr o rewlifoedd mynyddig y Ddaear yn cyrraedd ei uchafbwynt, ac mae angen i ni ddeall yn well gyflwr a pha ddyfodol sydd i’r ecosystemau ar wynebau’r rhewlifoedd hynny.  Gyda darlun gwell, gallen ni ragweld effeithiau newid hinsawdd ar wynebau rhewlifedd a biogeocemeg y dalgylchoedd yn well.”

Ychwanegodd Dr Arwyn Edwards o Brifysgol Aberystwyth:

“Mae’r canfyddiadau pwysig hyn yn adeiladu ar lawer o’n hymchwil blaenorol yma yn Aberystwyth. Mae nifer y microbau sy'n cael eu rhyddhau yn dibynnu llawer ar ba mor gyflym mae'r rhewlifoedd yn dadmer, ac felly faint rydyn ni'n parhau i gynhesu'r blaned. Ond mae màs y microbau sy’n cael eu rhyddhau yn enfawr hyd yn oed gyda chynhesu cymedrol. Er bod y microbau hyn yn ffrwythloni amgylcheddau islaw, gallai rhai ohonynt fod yn niweidiol yn ogystal.”

Cafodd y canfyddiadau hyn eu cyhoeddi gan academyddion o Aberystwyth yn y cyfnodolyn ‘Nature Communications Earth & Environment’ y mis hwn. 

Cafodd yr astudiaeth ei harwain gan gyn-fyfyriwr doethuriaethol a darlithydd cysylltiol ym Mhrifysgol Aberystwyth, Dr Ian Stevens, sydd bellach yn fyfyriwr ol-ddoethurol ym Mhrifysgol Aarhus.

Mae Dr Stephens yn gweithio ar brosiect Deep Purple ac yn edrych ar y prosesau materol a microbaidd sy’n cyflymu dadmer Llen Iâ’r Ynys Las.