Cyn Archesgob Caergaint yn brif siaradwr digwyddiad lansio Canolfan Ddeialog y Brifysgol

Yr Athro Rowan Williams a’r Athro Mererid Hopwood.

Yr Athro Rowan Williams a’r Athro Mererid Hopwood.

21 Tachwedd 2022

Rôl deialog wrth greu dyfodol gwell fydd testun sgwrs agored rhwng cyn Archesgob Caergaint yr Athro Rowan Williams a’r prifardd ac ysgolhaig yr Athro Mererid Hopwood.

Caiff y sesiwn ‘Deialog a natur gwybod, adnabod a gweld’ ei chynnal fel rhan o Ŵyl Ymchwil 2022 Prifysgol Aberystwyth a dyma fydd y cyntaf mewn rhaglen o weithgareddau i’w trefnu gan y Ganolfan Ddeialog sydd newydd ei sefydlu gan y Brifysgol.

Dywedodd yr Athro Hopwood o Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd y Brifysgol: “Mae teitl Cymraeg y digwyddiad hwn ‘Deialog a natur gwybod, adnabod a gweld’ yn awgrymu sut y mae siaradwyr ieithoedd gwahanol yn gallu dirnad y byd mewn gwahanol ffyrdd. Yn y Gymraeg, mae tair berf sef ‘gwybod’, ‘adnabod’ a ‘gweld’; yn Saesneg, mae dwy sef ‘knowing’ a ‘seeing’.

“Bydd ein sgwrs yn pwyso a mesur sut gall deialog drwy ac ar draws ieithoedd ddyfnhau ein gallu i ddirnad a deall y berthynas rhyngom a’r byd o’n cwmpas.”

Cynhelir y sesiwn yn y Lolfa Fach yn Neuadd Pantycelyn, Aberystwyth, rhwng 5.30yp a 6.45yh heddiw ddydd Llun 21 Tachwedd 2022.

Mae mynediad am ddim ac mae croeso i bawb ond gofynnir i aelodau’r gynulleidfa gadw lle ymlaen llaw. Sesiwn ddwyieithog fydd hon gyda chyfieithu ar y pryd. Mae manylion pellach ar wefan yr Ŵyl Ymchwil: www.aber.ac.uk/gwylymchwil.

Y Ganolfan Ddeialog

Nod Canolfan Ddeialog Prifysgol Aberystwyth yw cydlynu, cefnogi a hyrwyddo’r modd y mae Prifysgol Aberystwyth yn cyfnewid gwybodaeth ac arbenigedd gyda chymunedau a phartneriaid allanol.

Wrth siarad cyn y digwyddiad, dywedodd yr Athro Colin McInnes, Dirprwy Is-Ganghellor Ymchwil, Cyfnewid Gwybodaeth ac Arloesi ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Mae cysylltiad agos rhwng cyfnewid gwybodaeth ac ymchwil, a deialog fydd dull Prifysgol Aberystwyth o gyfnewid gwybodaeth; cysylltu cymunedau gwahanol ag ymchwil o safon uchel; cychwyn sgyrsiau sy'n hyrwyddo dealltwriaethau newydd a rennir; cynyddu effaith ein hymchwil, a darparu mwy o gyfleoedd i arloesi.

“Mae gweithgareddau cyfnewid gwybodaeth yn elfen allweddol o'r ffordd y cynhelir ymchwil ar draws pob adran yn Aberystwyth ac yn dangos ein hymrwymiad i wella'r byd yr ydym yn byw ynddo. Y gorau fo’n deialog, y gorau y byddwn ni wrth gyfnewid gwybodaeth a bydd yr effaith a gawn yn y byd yr ydym yn byw ynddo’n ehangach ac yn ddyfnach.”

Mae Dr Jennifer Wolowic, sy’n gweithio ar hyn o bryd gyda Chanolfan Ddeialog Morris J. Wosk Prifysgol Simon Fraser (SFU) a Sgwâr Cyhoeddus SFU yn Vancouver, wedi’i phenodi’n Brif Arweinydd Canolfan Ddeialog Prifysgol Aberystwyth a bydd yn cychwyn ar ei swydd newydd ym mis Ionawr 2023.