Y Brifysgol yn gwneud ymrwymiad Diwrnod Rhuban Gwyn i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod a merched

24 Tachwedd 2022

Mae Prifysgol Aberystwyth yn nodi Diwrnod y Rhuban Gwyn eleni (25 Tachwedd) drwy roi ei chefnogaeth i roi terfyn ar drais gan ddynion yn erbyn menywod a merched, ac i hyrwyddo cydraddoldeb rhwng y rhywiau.

Mae'r Brifysgol yn cefnogi nodau Rhuban Gwyn, elusen flaenllaw’r DU sy'n ymgysylltu â dynion a bechgyn i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod a merched.

Yn rhan o'i hymrwymiad, mae'r Brifysgol yn hyrwyddo newid diwylliant cadarnhaol mewn cymdeithas, gan annog myfyrwyr a staff i dynnu sylw at gamdriniaeth a gwahaniaethu ar sail rhyw, ac amlygu’r gwasanaethau cymorth arbenigol sydd ar gael i staff a myfyrwyr sydd wedi profi neu weld trais, camdriniaeth neu aflonyddu.

Meddai'r Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth:

"Rydyn ni'n gwybod bod llawer o fenywod a merched yn profi anghydraddoldeb a thrais, ac mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i fod yn rhagweithiol wrth herio trais a chamdriniaeth a thynnu sylw at wahaniaethu ac anghydraddoldeb ar sail rhyw.

"Fel cymuned Brifysgol ofalgar, mae'n hanfodol ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau amgylchedd campws diogel a chefnogol lle mae menywod a merched yn teimlo'n rhydd i fod yn nhw eu hunain heb ofni aflonyddu, camdriniaeth a/neu drais."  

Dywedodd yr Athro Tim Woods, Dirprwy Is-Ganghellor Dysgu, Addysgu a Phrofiad Myfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth:

"Yn y Brifysgol, rydym yn gweithio ar nifer o brosiectau sy'n gyson ag amcanion ymgyrch y Rhuban Gwyn, ac sy'n cyfrannu tuag at ein hymrwymiad hirhoedlog i newid diwylliant o fewn cymdeithas yn gyffredinol a herio pob math o aflonyddu a thrais. Er enghraifft, yn gynharach eleni fe wnaethom gyflwyno hyfforddiant ymwybyddiaeth o gydsyniad rhywiol a chychwyn ein Gwasanaeth Cymorth newydd o ran Camymddwyn Rhywiol a Thrais."

Mae'r addewid newydd yn ychwanegol at Ddatganiad Polisi Cydraddoldeb Trawsryweddol y Brifysgol a’r Polisi Urddas a Pharch yn y Gwaith, sy'n condemnio cam-drin, aflonyddu, bwlio neu wahaniaethu oherwydd statws neu hunaniaeth rhyw, neu unrhyw nodweddion gwarchodedig eraill.

Am fwy o wybodaeth am Rhuban Gwyn, ewch i: www.whiteribbon.org.uk.