Sgwrs gan fab ffoaduriaid o’r Almaen i nodi Diwrnod Cofio'r Holocost

Mam Ernie Hunter, Fanny Hochstetter a modryb, Bertl, 1933. Credyd: Ernie Hunter

Mam Ernie Hunter, Fanny Hochstetter a modryb, Bertl, 1933. Credyd: Ernie Hunter

24 Ionawr 2023

Bydd y Ganolfan Astudio Symudedd Pobl ym Mhrifysgol Aberystwyth yn nodi Diwrnod Cofio'r Holocost 2023 trwy gynnal sgwrs gan addysgwr am yr Holocost y bu’n rhaid i’w rieni ffoi o'r Almaen yn sgil yr unbennaeth Sosialaeth Genedlaethol.

Mae Ernie Hunter wedi bod yn ymwneud a’r gwaith o addysgu am yr Holocost yn y Deyrnas Unedig ac yn yr Almaen ers dros ddegawd. 

Mae’n un o sylfaenwyr a chadeirydd y Northern Holocaust Education Group (NHEG). Diben y NHEG yw rhannu straeon bywyd a phrofiadau dioddefwyr erledigaeth y Natsïaid a'r Holocost i sicrhau nad ydynt yn mynd yn angof nac yn cael eu gwadu.

Fe wnaeth rhieni Ernie gyfarfod a phriodi yng Nghymru yn ystod yr Ail Ryfel Byd.  Roedd ei fam Almaenig Iddewig wedi gwrthdaro yn erbyn y gyfundrefn Natsïaidd, a bu rhaid i’w dad, Almaenwr nad oedd o dras Iddewig, ffoi o'r Almaen Natsïaidd fel gwrthwynebydd gwleidyddol i'r gyfundrefn.

Dywedodd Dr Andrea Hammel, Cyfarwyddwr y Ganolfan Astudio Symudedd Pobl:

"Rydym yn edrych ymlaen at groesawu Ernie ac at glywed stori bersonol profiad ei rieni o ddianc rhag Sosialaeth Genedlaethol yn yr Almaen a chael lloches yng Nghymru yn 1939. 

"Thema Diwrnod Cofio'r Holocost eleni yw 'pobl gyffredin'. Pobl gyffredin oedd rhieni Ernie, ac maent yn ddau o'r ffoaduriaid sy’n cael sylw yn ein harddangosfa 'Ffoaduriaid yng Nghymru a ddihangodd rhag Sosialaeth Genedlaethol: Dysgu oddi wrth y Gorffennol i lywio’r Dyfodol'."

Mae’r arddangosfa yn olrhain hanes ffoaduriaid yng Nghymru o'r 1930au tan heddiw. Mae’n deillio o brosiect sy’n rhan o Raglen Partneriaeth yr Ail Ryfel Byd a'r Holocost, a arweinir gan yr Amgueddfa Ryfel Ymerodrol ac a ariennir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Bydd yr arddangosfa i'w gweld yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth hyd at 29 Ionawr, ac wedi hynny bydd yn teithio i Orielau’r Senedd a’r Pierhead yng Nghaerdydd o 18 Chwefror tan 18 Ebrill 2023, a’r Pontio ym Mangor ym mis Mehefin 2023.

Cynhelir sgwrs Ernie Hunter ddydd Iau 26 Ionawr o 13:00 – 14:00 yn Ystafell C22 Adeilad Hugh Owen ar gampws Penglais Prifysgol Aberystwyth. Croeso i bawb. Os oes gennych unrhyw ymholiadau, anfonwch e-bost at Morris Brodie, mob28@aber.ac.uk.