Hanesydd blaenllaw ar gaethwasiaeth i draddodi darlith ar ddigolledu

Yr Athro Olivette Otele

Yr Athro Olivette Otele

27 Ionawr 2023

Bydd hanesydd blaenllaw ar gaethwasiaeth yn traddodi darlith gyhoeddus ar gyfiawnder adferol ym Mhrifysgol Aberystwyth ddechrau mis nesaf (dydd Llun 6 Chwefror).

Bydd yr Athro Olivette Otele o SOAS, Prifysgol Llundain yn mynd i’r afael â’r ddadl sy’n cael ei chynnal mewn llawer o sefydliadau yn Ewrop a Gogledd America am iawndal am eu rhan yn y fasnach gaethweision ar draws yr Iwerydd.

Yn 2018 hi oedd y fenyw ddu gyntaf i gael ei phenodi’n Athro hanes mewn prifysgol yn y Deyrnas Gyfunol. Mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar hanes trawswladol, a’r cysylltiadau rhwng hanes, cof torfol a geowleidyddiaeth mewn cysylltiad â hanes trefedigaethol Prydain a Ffrainc.

Mae’r Athro Otele, sydd hefyd yn gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, wedi cyhoeddi erthyglau academaidd am hunaniaethau Affro-Ewropeaidd, gan gynnwys hunaniaeth Ffrengig, hunaniaethau Prydeinig yng Nghymru, a beth yw ystyr bod yn Brydeinig, Cymreig a Du.

Yn ogystal, hi yw awdur ‘African Europeans: An Untold History’ a gyrhaeddodd rhestr fer Gwobr Orwell ar gyfer ysgrifennu gwleidyddol a Gwobr Llyfrau LA Times 2022. 

Wrth siarad cyn y ddarlith gyhoeddus, sef ‘Restorative justice, the next step towards the world we want?’, dywedodd yr Athro Otele:

“Mae llawer o sefydliadau yn Ewrop a Gogledd America wedi ceisio cyfrannu at ddadl eang am ddigolledu neu fathau o gyfiawnder adferol am eu rhan nhw wrth gaethiwo pobl i’r farchnad gaethweision ar draws yr Iwerydd o’r 15fed ganrif ymlaen. Mae'r ddadl a gychwynnwyd gan bobl o dras Affricanaidd yn Affrica, y Caribî, Gogledd America ac Ewrop, yn cymryd tro newydd, ddwy flynedd ar ôl llofruddiaeth yr Americanwr Affricanaidd George Floyd.

“Wrth i oblygiadau athronyddol ac economaidd digolledu gael eu trafod, mae’n ymddangos bod y syniad o gyfiawnder adferol yn cael ei gydblethu â strategaethau gwrth-hiliaeth mewn sefydliadau yn y Deyrnas Gyfunol. Ar adeg pan fo rhai hanesion dadleuol o’r gorffennol yn dal i gael eu dileu neu eu hanwybyddu wrth i waddolion trefedigaethol gael eu herio, mae’n amserol gofyn a all cyfiawnder adferol ein harwain at fyd yr hoffem fyw ynddo.”

Dywedodd yr Athro Colin McInnes, Dirprwy Is-Ganghellor dros Ymchwil, Cyfnewid Gwybodaeth ac Arloesi ym Mhrifysgol Aberystwyth:

“Mae’n anrhydedd fawr fod yr Athro Otele wedi cytuno i siarad yma yn y Brifysgol. Y bydoedd a garem fu thema ein Gŵyl Ymchwil, a does dim amheuaeth y dylai’r pwnc hwn fod wrth wraidd y drafodaeth honno fel y mae yn ein cymdeithas yn fwy cyffredinol. Rwy’n siŵr y bydd y ddarlith yn helpu i ysgogi trafodaeth fywiog.”

Cynhelir y ddarlith yng Nghanolfan Cynadledda Medrus, Penbryn ar Campws Penglais Mhrifysgol Aberystwyth am 5:30pm ddydd Llun 6ed Chwefror. Mae'r digwyddiad yn agored i'r cyhoedd, a gellir cadw tocynnau trwy fynd i: aber.ac.uk/gwylymchwil