Y Frwydr dros Harddwch - pam ei bod yn bwysicach nag erioed

Y Fonesig Fiona Reynolds DBE.  Credyd: Marcus Ginns

Y Fonesig Fiona Reynolds DBE. Credyd: Marcus Ginns

31 Ionawr 2023

Bydd y Fonesig Fiona Reynolds DBE yn cyflwyno darlith gyhoeddus ym Mhrifysgol Aberystwyth yn rhan o’r dathliadau i nodi 150 mlwyddiant y sefydliad.

Gan dynnu ar ei gyrfa hir yn y sector cadwraeth wirfoddol, bydd y Fonesig Fiona Reynolds yn cyflwyno sgwrs am ‘Y Frwydr dros Harddwch – pam ei bod yn bwysicach nag erioed’ ddydd Iau 9 Chwefror am 5yp yn Sinema Canolfan y Celfyddydau.

Bydd ei darlith yn cwestiynu pam fod harddwch o bwys? Sut y gall harddwch fod yn bwysig pan mae argyfyngau’r hinsawdd, yr economi, natur ac iechyd cyhoeddus mor aruthrol?

Bydd hi’n dadlau’r achos dros bwysigrwydd harddwch ac yn ystyried sut y gall syniadau am harddwch o’r gorffennol ein helpu i symud tuag at ddyfodol gwell.

Mae’r Fonesig Fiona Reynolds yn tynnu ar ei phrofiad helaeth fel Cyfarwyddwraig Gyffredinol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Cyfarwyddwraig yr Uned Fenywod yn Swyddfa’r Cabinet, Ymgyrch Diogelu’r Lloegr Wledig a’r Ymgyrch i Ddiogelu Parciau Cenedlaethol.

Dywedodd Dr Louise Marshall, Pennaeth yr Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol:

"Mae gyrfa a phrofiad nodedig y Fonesig Fiona Reynolds wedi rhoi trosolwg unigryw iddi o'r frwydr rhwng cynnydd economaidd a gwarchod harddwch y byd rydyn ni'n byw ynddo. Mae ei chred gydol oes yng ngwerth aruthrol harddwch naturiol i'r ysbryd dynol wedi ei gwneud yn eiriolwr angerddol dros yr angen i gydbwyso polisi cyhoeddus â chadwraeth treftadaeth ddiwylliannol a'r amgylchedd naturiol."  

Cyn anerchiad y Fonesig Fiona ceir lansiad Canolfan Lles Creadigol Prifysgol Aberystwyth.

Mae'r Ganolfan wedi'i lleoli yn yr Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol, mae'n gweithio gydag awduron, artistiaid, crefftwyr ac ymchwilwyr o ystod o ddisgyblaethau i ddarparu cyfleoedd lles ymarferol a pholisi effaith mewn lleoliadau megis grwpiau iechyd, addysg, gwaith ieuenctid a grwpiau cymunedol.

Ar hyn o bryd mae ymchwilwyr o'r Ganolfan Lles Creadigol yn gweithio ar brosiectau sy'n archwilio sut y gall gweithgaredd creadigol newid dulliau o ymdrin â phryder, cwsg, poen cronig, Covid hir, iechyd meddwl, cam-drin domestig a ffermio cymunedol.

Arweinir y Ganolfan gan Dr Jacqueline Yallop, Darllenydd Ysgrifennu Creadigol, a ddywedodd:

"Rydym yn falch iawn o groesawu Fiona i lansio'r Ganolfan. Mae ei sgwrs ar 'Y Frwydr dros Harddwch' yn ein hatgoffa i ddod o hyd i le ar gyfer y pethau sydd wir o bwys mewn bywyd, a phethau na all arian eu prynu."

Cynhelir ‘Y Frwydr dros Harddwch - pam ei bod yn bwysicach nag erioed'  ddydd Iau 9 Chwefror am 5yp yn sinema Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth. Mae'r digwyddiad yn rhad ac am ddim ac mae croeso i bawb. Gellir archebu llefydd drwy gysylltu â Swyddfa Docynnau Canolfan y Celfyddydau ar 01970 62 32 32 neu ar-lein yn:
www.aberystwythartscentre.co.uk/talks-spoken-word/dame-fiona-reynolds-dbe-talk

 Y Fonesig Fiona Reynolds DBE

Roedd y Fonesig Fiona Reynolds DBE yn Feistres yng Ngholeg Emmanuel, Caergrawnt o 2012 tan 2021 a Chyfarwyddwraig Gyffredinol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol o 2001-2012.

Ar hyn o bryd mae’n Gadeirydd y Swyddfa Archwilio Genedlaethol, Cyngor y Brifysgol Amaethyddol Frenhinol, Sefydliad Rhyngwladol yr Ymddiriedolaethau Cenedlaethol, Comisiwn Ffabrig Cadeirlannau Lloegr, Gardd Fotaneg Prifysgol Caergrawnt a Sefydliad Polisi Cyhoeddus Bennett.

Mae’n ymddiriedolwraig Ystad Grosvenor, y Gynghrair Werdd a’r Comisiwn Bwyd, Ffermio a Chefn Gwlad, ac yn Gyfarwyddwraig anweithredol o Ddŵr Wessex.

Cyhoeddwyd ei llyfr The Fight for Beauty yn 2016.

Gwnaethpwyd Fiona yn CBE am ei gwasanaethau i’r amgylchedd a chadwraeth ym 1998 a derbyniodd y DBE yn 2008.