Cadeirydd Newydd Genomeg Cnydau ym Mhrifysgol Aberystwyth

Yr Athro Gancho Slavov

Yr Athro Gancho Slavov

24 Mawrth 2023

Mae’r Athro Gancho Slavov wedi’i benodi’n Gadeirydd Genomeg Cnydau Germinal yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Mae penodiad yr academydd yn rhan o fuddsoddiad parhaus mewn ymchwil flaengar gan Germinal a’r Brifysgol ar fridio mathau newydd o laswellt a phorthiant amaethyddol.

Gyda sylw cynyddol ar liniaru effaith newid hinsawdd ar draws y sector amaethyddol, mae cymhwyso technoleg genomeg yn cael ei ystyried yn hanfodol i ddyfodol cynaliadwy cynhyrchu da byw sy’n cnoi cil.

Mae gan yr Athro Slavov bron i 20 mlynedd o brofiad ymchwil ôl-ddoethurol mewn geneteg planhigion a genomeg, gan gynnwys rhaglenni bridio gweithredol ar raddfa fawr yn seiliedig ar ddethol genomig. Ar ôl gweithio gydag ymchwilwyr a bridwyr ledled y byd, daw ag arbenigedd rhyngwladol i Brifysgol Aberystwyth o’i swydd ddiweddaraf yn Seland Newydd.

Mae’r datblygiad yn garreg filltir arall yn y cydweithrediad 30 mlynedd rhwng Germinal a chanolfan ymchwil glaswelltir arloesol IBERS ym Mhrifysgol Aberystwyth, sydd wedi arwain at ddatblygu ar y cyd mathau blaengar o hadau o fudd cyhoeddus. Ar hyn o bryd maen nhw’n datblygu mathau newydd o blanhigion sy'n cwrdd â’r galw cynyddol i gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy ac i gyrraedd targedau sero net.

Wrth sôn am ei benodiad, dywedodd yr Athro Slavov:

“Mae bridio planhigion yn debygol o ddod yn fwyfwy dibynnol ar ddatblygiadau mewn genomeg a ffenoteipio er ystwythder ehangach yn wyneb newid hinsawdd ac ansicrwydd yn y farchnad. Mae troi canlyniadau ymchwil yn gynnyrch ymarferol yn heriol, ond rwy’n edrych ymlaen at gyfrannu a chefnogi’r Brifysgol a Germinal yn eu hymrwymiad clir i adeiladu diwydiant ffermio gwydn a chynaliadwy.”

Dywedodd Paul Billings, Rheolwr Gyfarwyddwr Germinal:

“Rydym yn falch iawn o groesawu’r Athro Slavov i’r uwch swydd ymchwil hon sy’n cael ei hariannu gan Germinal. Mae ei brofiad a'i arbenigedd yn arwydd o ddyfodol bridio planhigion mewn genomeg a ffenoteipio.

“Mae genomeg wedi hen ennill ei blwyf ym maes geneteg anifeiliaid, ac fe’i defnyddir fwyfwy mewn cnydau eraill, ond nid yw wedi cael ei ddefnyddio’n helaeth hyd yma mewn bridio glaswellt a phorthiant. Rydyn ni’n credu bod cywirdeb bridio, a’r gyfradd enillion posibl y mae’n ei gynnig, yn golygu ei fod yn hanfodol er mwyn lliniaru yn gyflym effeithiau newid hinsawdd mewn da byw sy’n cnoi cil.”

Bydd Germinal yn defnyddio genomeg i gyflymu datblygiad mathau o laswellt a phorthiant, gan ganolbwyntio ar feysydd fel gwell effeithlonrwydd o ran defnyddio maetholion, gan gynnwys treuliadwyedd protein, a lleihau’r defnydd o nitrogen a ffosfforws mewn cnydau sy’n tyfu, gyda’r nod cyffredinol o sicrhau gostyngiadau ystyrlon yn ôl troed hinsawdd cynhyrchu bwyd anifeiliaid cnoi cil.

Ychwanegodd yr Athro Iain Donnison, Pennaeth IBERS ym Mhrifysgol Aberystwyth:

“Rydym wrth ein bodd bod yr Athro Slavov – gyda’i holl brofiad rhyngwladol – yn ymuno â ni yma yn yr Athrofa. Rydym yn falch o gael tîm mor gryf o arbenigwyr – arweinwyr yn eu meysydd yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae ein partneriaeth gyda Germinal yn rhan bwysig o’r ymchwil ac arloesi o safon fyd-eang sy’n digwydd yma ym meysydd newid hinsawdd a bioamrywiaeth.”