Penodi Dirprwy Ganghellor yr Athro Elan Closs Stephens yn Gadeirydd Dros Dro y BBC

Yr Athro Fonesig Elan Closs Stephens

Yr Athro Fonesig Elan Closs Stephens

05 Mehefin 2023

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi croesawu apwyntiad ei Dirprwy Ganghellor yr Athro Elan Closs Stephens fel Cadeirydd Dros Dro Bwrdd y BBC. 

Dywedodd yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth:

“Llongyfarchiadau i’r Athro Fonesig Elan Closs Stephens ar ei phenodiad yn Gadeirydd Dros Dro Bwrdd y BBC. Mae gwahoddiad i ymgymyrd â’r rôl hon yn anrhydedd fawr iddi. Mae ei chyfraniad at fywyd dinesig a chyhoeddus yng Nghymru a'r DU wedi bod yn aruthrol ac roedd yn bleser cydnabod hynny gyda Chymrodoriaeth er Anrhydedd ein Prifysgol yn 2022. Ymfalchiwn yn fawr yn ei chysylltiad agos gyda Phrifysgol Aberystwyth fel cydweithiwr a Dirprwy Ganghellor, a dymunwn bob llwyddiant iddi yn y rôl dros dro hon.”