Llwyddiant i Brifysgol Aberystwyth wrth iddi gyrraedd y 40 uchaf

Campws Penglais, Prifysgol Aberystwyth

Campws Penglais, Prifysgol Aberystwyth

08 Mehefin 2023

Mae enw da Prifysgol Aberystwyth am foddhad myfyrwyr rhagorol wedi’i danlinellu unwaith eto gan dabl cynghrair prifysgolion diweddaraf y DU gyfan.

Yn ôl y Complete University Guide 2024, a gyhoeddwyd ddydd Mercher 7 Mehefin, mae Aberystwyth yn 2il yn y DU am Fodlonrwydd Myfyrwyr, fyny un safle ers y llynedd.

Gwelodd y Brifysgol hefyd gynnydd mawr yn ei safle ar draws y DU, gan gyrraedd y 40 uchaf yn safle 39, 14 safle yn uwch na’r llynedd. Yn ogystal, dringodd i’r ail safle yng Nghymru, cynnydd o un.

Mae’r buddsoddi parhaus mewn adnoddau astudio academaidd yn cael ei adlewyrchu yn y cynnydd o 14eg safle i’r 3edd safle yn y DU yn y categori Gwasanaethau Academaidd, ac roedd y Brifysgol yn 17eg yn y DU am ddwysedd ymchwil, sy’n cyfeirio at gyfran y staff sy'n gwneud gwaith ymchwil.

Dywedodd yr Athro Tim Woods, Dirprwy Is-Ganghellor Dysgu, Addysgu a Phrofiad Myfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Unwaith eto, mae’r canlyniadau hyn yn rhagorol ac yn adlewyrchu ymroddiad ein staff i ddarparu’r profiad dysgu gorau posibl. Fel Prifysgol sy’n cael ei harwain gan ymchwil, mae ein myfyrwyr hefyd yn elwa o gael eu haddysgu gan academyddion sy’n weithredol ym maes ymchwil, â llawer ohonynt yn arweinwyr yn eu disgyblaethau academaidd perthnasol, ac yn cyfoethogi eu profiad dysgu. Mae’n wych gweld yr agwedd hon yn cael ei chydnabod yn y cyhoeddiad heddiw.”

Mae’r Complete University Guide yn cynnwys 130 o sefydliadau o bob rhan o’r DU ac mae’n seiliedig ar ddeg mesur: Safonau Mynediad, Boddhad Myfyrwyr, Ansawdd Ymchwil, Dwysedd Ymchwil, Rhagolygon Graddedigion – canlyniadau, Rhagolygon Graddedigion – ar y trywydd iawn, Cymhareb Myfyrwyr-Staff, Gwariant ar Wasanaethau Academaidd , Gwario ar Gyfleusterau Myfyrwyr, a Pharhâd.

Prifysgol Aberystwyth oedd yr uchaf yng Nghymru a Lloegr am foddhad myfyrwyr yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2022, ac roedd yn ail yn DU am brofiad myfyrwyr yn y Times & Sunday Times Good University Guide 2023.

Gwelodd y Brifysgol gynnydd mawr yn nhabl prifysgolion diweddaraf y Guardian, gan ddringo 24 safle i 40fed safle yn y DU.

Ac ym mis Ebrill eleni, enillodd y Brifysgol ddwy wobr bwysig yng Ngwobrau What Uni Student Choice 2023 ar gyfer Darlithwyr ac Ansawdd Addysgu a Bywyd Myfyrwyr.