Croeso i dudalennau Cyfathrebu a Materion Cyhoeddus
Beth rydym yn ei gredu
Mae cyfathrebu effeithiol ac amserol yn allweddol i unrhyw sefydliad modern; ac er bod datblygiadau mewn technoleg cyfathrebu yn digwydd yn fwyfwy aml a bod y ffyrdd yr ydym yn defnyddio gwybodaeth yn newid yn llwyr, rydym ni’n credu mewn tair egwyddor sylfaenol o ran y ffordd rydym yn gweithio:
- Byddwn yn sicrhau y rhoddir gwybod i’n cymuned o staff a myfyrwyr am flaenoriaethau allweddol y Brifysgol.
- Byddwn yn darparu llif cyson o wybodaeth am y Brifysgol, ei llwyddiannau a'r heriau y mae'n eu hwynebu; a gwneud hyn i'w holl randdeiliaid, yn fewnol ac yn allanol, yn lleol ac ymhellach i ffwrdd.
- Byddwn yn cydweithio gyda'n partneriaid yn y cyfryngau i gyflwyno’r Brifysgol, ei brand a’i henw da, a hynny mewn ffyrdd newydd ac arloesol. Byddwn yn adlewyrchu cryfderau mewn ymchwil, addysgu a boddhad myfyrwyr ar yr un pryd â sicrhau perthnasedd i academia, diwydiant a bywyd cyhoeddus.
Beth rydym yn ei wneud
Cyfathrebu mewnol – cydweithio gydag adrannau i wella llif gwybodaeth o gwmpas y Brifysgol. Mae hyn yn amrywio o brotocolau a pholisïau i’r e-bost wythnosol sy’n rhoi newyddion a gwybodaeth i gymuned Prifysgol Aberystwyth
Bod yn gyswllt â’r cyfryngau – cysylltu adrannau â'r cyfryngau perthnasol, wrth hybu ymchwil a datblygiadau
Cysylltiadau cyhoeddus a chymunedol – cydweithio gydag adrannau i gydlynu gweithgareddau a digwyddiadau allanol
Ysgrifennu copi – sesiynau hyfforddi byr i ddatblygu datganiadau i'r wasg a deunyddiau cyfathrebu allanol
Seminarau ymwybyddiaeth ynghylch cyfathrebu – gweithio â chydweithwyr i ddatblygu ymwybyddiaeth o'r potensial llawn ar gyfer gweithio gyda phartneriaid ym myd y cyfryngau
Cwrdd â'r tîm
Lyn Morgan
Ffôn: 01970 628654
Symudol: 07896 230 326
Ebost: dym@aber.ac.uk
Mae Lyn wedi gweithio yn y diwydiant cyfryngau a chyfathrebu ers dros 30 mlynedd. Yn flaenorol, bu’n gyflwynydd, yn uwch gynhyrchydd ac yn rheolwr darlledu gyda'r BBC, gan redeg cwmni ymgynghori ar y cyfryngau yng Nghaerdydd yn y 10 mlynedd diwethaf. Mae ganddo ddiddordeb arbennig yn y defnydd o dechnolegau newydd ar gyfer cyfathrebu. Penodwyd ef yn Bennaeth yr Adran yn ystod haf 2009, ac mae ar hyn o bryd yn arwain y tîm mewn llu o fentrau cyfathrebu cyffrous a newydd ledled y Brifysgol. Gwyliwch y gofod hwn!
Arthur Dafis
Ffôn: 01970 621763
Symudol: 0784 1979 452
Ebost: aid@aber.ac.uk
Ymunodd â’r Brifysgol ym mis Medi 1997. Mae wedi gweithio ar gyfathrebu mewnol ac allanol. Ef ar hyn o bryd sy’n gyfrifol am fwletin newyddion electronig wythnosol y Brifysgol, yr E-bost Wythnosol yn ogystal â golygu amrywiaeth o gyhoeddiadau mewnol ac allanol, gan gynnwys Ymchwil Aber a chylchgrawn cyn-fyfyrwyr y Brifysgol, sef PROM.
Esther Eckley
Ffôn: 01970 621571
Ebost: ese6@aber.ac.uk
Mae Esther yn ymgynghorydd PR gyda mwy na 15 mlynedd o brofiad yn y maes. Mae Esther, a raddiodd mewn PR o Brifysgol Bournemouth, wedi gweithio mewn sawl swyddfa’r wasg i cwmniau gwahanol gan gynnwys Chwaraeon Cymru, Maes Awyr Caerdydd a Chanolfan Mileniwm Cymru. Mae’r profiad o waith sydd ganddi yn amrywio o reoli ymgyrchoedd PR drwodd i reoli argyfwng a digwyddiadau.
Hayley Neville Jones
Ffôn: 01970 622946
Ebost: hln@aber.ac.uk
Ymunodd Hayley â Phrifysgol Aberystwyth ym mis Ionawr 2010 fel Cynorthwy-ydd Personol/Rheolwr Swyddfa, ac mae hi’n rhannu ei hamser rhwng Cyfathrebu a Materion Cyhoeddus a’r swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Alumni, gan ddelio â gweinyddu swyddfa bob dydd a rhoi cefnogaeth a chymorth i adrannau yn eu gwahanol brosiectau a digwyddiadau.
Cysylltu â ni
Er mwyn cysylltu ag unrhyw un ohonom yma yn Aberystwyth, gallwch naill ai anfon e-bost at y cyfeiriadau unigol neu at: cyfathrebu@aber.ac.uk
Ein cyfeiriad yw:
Cyfathrebu a Materion Cyhoeddus
Prifysgol Aberystwyth
Adeilad yr Arglwydd Milford
Plas Gogerddan
Aberystwyth
Ceredigion
SY23 3EB
Ffôn: +44 (0) 1970 621568/621763 (Peiriant ateb tu allan i oriau swyddfa)
Mae croeso i chi gysylltu â ni gyda syniadau ar gyfer eitemau, neu holi sut y gallem weithio gyda'n gilydd i hyrwyddo’r Brifysgol neu dim ond i roi gwybod inni beth yw eich barn.