Cyfweliadau Cyfryngau
Mae gan Brifysgol Aberystwyth arbenigwyr a all sylwebu ar ddewis helaeth o feysydd a materion. Os ydych chi’n chwilio am academydd er mwyn cael sylwebaeth neu gyfweliad arbenigol, cysylltwch â’r Tîm Cyfathrebu ar 01970 622946 | cyfathrebu@aber.ac.uk.
I ddod o hyd yr holl staff sy'n arbenigo mewn maes penodol, ewch i’r Cyfeiriadur Arbenigedd, sy'n dwyn ynghyd ddoniau a diddordebau staff ymchwil ar draws y Brifysgol.
Rhestrir isod enwau rhai o’r arbenigwyr a all drafod pynciau sy’n cael lle amlwg yn y cyfryngau ar hyn o bryd:
Brexit
Yr Athro Michael Woods
Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear
Goblygiadau Brexit i’r Gymru wledig
Dr Rhys Dafydd Jones
Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear
Yr effeithiau ar ymfudwyr Ewropeaidd yng Nghymru
Yr Athro Mike Gooding
Athrofa y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig
Defnydd cynaliadwy o’r tir; gwella effeithlonrwydd i gyflenwi nwyddau bwyd, manteision amgylcheddol; canolbwyntio ar farchnadoedd – canfod marchnadoedd newydd o gwsmeriaid; systemau cyfredol ar gyfer cnydau/cnydau newydd/da byw
Yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones
Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu
Amrywiaeth Ieithyddol (pob iaith) a Ieithoedd Lleiafrifol (yn cynnwys y Gymraeg) yn yr UE; Polisïau’r UE ar Ieithoedd; Rhaglenni Diwylliannol yr UE (yn cynnwys Ewrop Greadigol); Cyngor Ewrop – polisi ar ieithoedd lleiafrifol – hapus i siarad yn Gymraeg neu yn Saesneg
Dr Warren Dockter
Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol
Polisi tramor UDA a’r 'berthynas arbennig'
Dr Elin Royles
Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol
Effaith Brexit ar gysylltiadau rhyngwladol Cymru, gan gynnwys cysylltiadau diwylliannol rhyngwladol; agweddau pobl ifanc yng Nghymru at Brexit – hapus i siarad yn Gymraeg neu yn Saesneg
Yr Athro Peter Midmore
Ysgol Fusnes Aberystwyth
Yr effeithiau i economi ffermydd a chefn gwlad
Dr Sophie Bennett
Ysgol Fusnes Aberystwyth
Goblygiadau Brexit i’r diwydiannau bwyd a chrefft yng Nghymru
Mr Robert Bowen
Ysgol Fusnes Aberystwyth
Goblygiadau Brexit i’r diwydiannau bwyd a chrefft yng Nghymru – hapus i siarad yn Gymraeg neu yn Saesneg
Yr Athro Ryszard Piotrowicz
Ysgol y Gyfraith Aberystwyth
Agweddau cyfreithiol, yn enwedig yn gysylltiedig ag ymfudiad, hawliau dynol, a chyfraith ryngwladol
Dr Alex Mangold
Adran Ieithoedd Modern
Yr effeithiau ar Astudiaethau Ewropeaidd, Ieithoedd a’r Dyniaethau yn gyffredinol (h.y. Drama, Astudiaethau Saesneg, ac yn y blaen). Perthnasau a chysylltiadau ag Ewrop neu barn pobl y cyfandir am Brexit.
Trump
Llun: Michael Vadon
Yr Athro Richard Beardsworth
Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol
Arweiniad gwleidyddol, poblyddiaeth, heriau byd-eang
Yr Athro Gary Rawnsley
Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol
Cyfathrebu, y cyfryngau, "cymell tawel/soft power", cyfryngau cymdeithasol, strategaethau ymgyrchu
Dr Warren Dockter
Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol
Polisi Tramor; Polisi Cartref; gwleidyddiaeth plaid yn American a chadw cydbwysedd sefydliadol.
Dr Jenny Mathers
Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol
Y berthynas Trump-Rwsia/Putin; Trump a’r materion ym mholisïau tramor a chartref UDA sy’n effeithio’n arbennig ar fenywod
Dr Jan Ruzicka
Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol
Diogelwch rhyngwladol, arfau niwclear, NATO
Dr Jeff Bridoux
Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol
Polisi tramor UDA a dyfodol trefn wleidyddol y byd; gwleidyddiaeth ddomestig UDA
Dr Brieg Powel
Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol
Yr Athro Stephen Tooth
Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear
Y newid yn yr hinsawdd, gwrth-wyddoniaeth/rhethreg wrth-wyddonol
Dr Elizabeth Jacobs
Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol
Llenyddiaeth Fecsicanaidd Americanaidd, h.y. llenyddiaeth a gwleidyddiaeth pobl o dras Fecsicanaidd sy’n byw yn UDA.
Os oes angen unrhyw gymorth, cysylltwch â'r Tîm Cyfathrebu ar 01970 622946 | cyfathrebu@aber.ac.uk.