Cymrawd 2012

Anrhydeddwyd wyth Cymrawd newydd gan Brifysgol Aberystwyth yn Seremoniau Graddio 2012 a gynhaliwyd yng Nghanolfan Gelfyddydau’r Brifysgol rhwng dydd Mawrth y 10fed a dydd Gwener y 13eg o Orffennaf.


Syr David Lloyd Jones

Syr David Lloyd Jones

Cafodd un o Farnwyr Gweinyddol Cymru, Syr David Lloyd Jones, ei urddo’n Gymrawd Prifysgol Aberystwyth heddiw, ddydd Gwener 13 Gorffennaf 2012.
 
Cafodd Syr David yrfa uchel ei pharch ym Mhrifysgol Caergrawnt cyn iddo gael ei benodi i’r Uchel Lys a gwnaeth gyfraniad aruthrol i ddatblygiad y system gyfreithiol yng Nghymru a hyrwyddiad y Gymraeg yn y system gyfreithiol honno.


Caitlin Moran

Caitlin Moran

Cafodd y nofelydd arobryn a cholofnydd y Times, Caitlin Moran, ei hurddo yn Gymrawd Prifysgol Aberystwyth ddydd Gwener 13 Gorffennaf.
 
Cyflwynwyd Caitlin Moran yn Gymrawd gan Rebecca Davies, Dirprwy Is-Ganghellor â chyfrifoldeb am Wasanaethau Myfyrwyr a Staff Prifysgol Aberystwyth.

Y Parch. John Gwilym Jones

Urddwyd cyn Archdderwydd Cymru, y Parch John Gwilym Jones, yn Gymrawd Prifysgol Aberystwyth heddiw, ddydd Iau 12 Gorffennaf.
Cyflwynywd Y Parch Jones, sydd hefyd yn raddedig o Brifysgol Aberystwyth, gan Is-Lywydd Cyngor y Brifysgol, Gwerfyl Pierce Jones.

Dr Jan Pinkava

Dr Jan Pinkava

Cafodd y cyfarwyddwr ffilm arobryn a enillodd Oscar ac sydd yn gyn-fyfyriwr o Brifysgol Aberystwyth, Dr Jan Pinkava, ei urddo yn Gymrawd ei alma mater heddiw, ddydd Mercher 11 Gorffennaf.  Cafodd Dr Pinkava, a gwblhaodd ei ddoethuriaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth yn ogystal, ei gyflwyno gan yr Athro Chris Price o’r Adran Gyfrifiadureg.

Mark Price

 

Cafodd Rheolwr Gyfarwyddwr Waitrose, Mr Mark Price, ei urddo’n Gymrawd Prifysgol Aberystwyth.  Cyflwynwyd Mr Price gan yr Athro Wayne Powell, Cyfarwyddwr Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) yn ystod seremoni raddio bore Mercher 11 Gorffennaf.

Yr Athro Michael Clarke

Yr Athro Michael Clarke

Cafodd yr Athro Michael Clarke, Cyfarwyddwr y Sefydliad Gwasanaethau Unedig Brenhinol, sydd yn raddedig o Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, ei urddo yn Gymrawd Prifysgol Aberystwyth ar brynhawn Mawrth 10 Gorffennaf. Cyflwynwyd yr Athro Clarke gan yr Athro Len Scott o Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol.

Michael Sheen a Alex Jones

Michael Sheen Alex Jones

Cafodd yr actor Michael Sheen OBE, a chyflwynydd The One Show, Alex Jones eu cyflwyno yn Gymrodyr Prifysgol Aberystwyth yn ystod y gyntaf o seremoniau graddio 2012.