Straeon Graddio
Amrywiaeth o straeon newyddion o'r seremoniau graddio eleni:
Dylan Wyn Hughes

Yn wreiddiol o Ynys Môn, mae Dylan Wyn Hughes yn edrych ymlaen i’r dyfodol ar ôl graddio heddiw mewn Astudiaethau Plentyndod. Yn y dyfodol, carai fod yn weithiwr cymdeithasol ond bydd angen iddo ddarganfod gwaith ym mis Medi.
Esbonia, “Byddaf yn gweithio gyda phlant anabl dros yr haf – mewn campiau haf yn Ynys Môn. Mae hyn yn beth dwi’n edrych ymlaen yn arw i’w wneud gan fod y boddhad a gyfyd o wneud y fath beth yn fawr iawn. Edrychaf ymlaen at y dyfodol a gobeithiaf weithio gyda phlant anabl.”
Sioned Haf a Thelor Hedd Dyer

Roedd y brawd a’r chwaer, Telor Hedd a Sioned Haf Dyer yn graddio heddiw. Graddiodd Telor yn y Gyfraith, tra enillodd ei chwaer hŷn Sioned radd Meistr yn Hanes Cymru. Graddiodd Sioned o Aber yn 2008, astudiodd y Gymraeg a Hanes, ac aeth ymlaen yn syth wedi hynny i ddilyn cwrs Meistr.
Esbonia, “Mae’n rhyddhad, ac yn dipyn o sioc, fod y diwrnod hwn wedi dod o’r diwedd! Dwi’n gweithio i Lywodraeth Cymru yn Aberystwyth, ac yr wyf wedi gwneud hynny ers tair blynedd. Ar adegau, mae’r sialens o weithio ac astudio ar gyfer y radd wedi bod yn anodd, ond yr oedd yn werth pob ymdrech.”
Dywed Telor, 21, “Byddaf yn astudio ar Gwrs Ymarfer Cyfreithiol y flwyddyn nesaf, eto yn Aberystwyth, a gobeithiaf fod yn gyfreithiwr yn y dyfodol. Dwi wedi mwynhau f’amser yma’n fawr ac edrychaf ymlaen at ddychwelyd y tymor nesaf.”
Phillip James Peacock

Roedd y teulu Peacock yn dathlu heddiw. Graddiodd Phillip James Peacock mewn Hanes Gyfoes a Modern, yn union dair blynedd wedi i’w frawd hŷn, Williams David Peacock, raddio o Aber mewn Addysg a Hanes.
Dywed Phillip James Peacock, “Un o’r ffactorau a barodd imi ddod yma oedd fy mrawd, ond y rhai eraill oedd enw da’r Adran Hanes a’r Brifysgol ei hun. Efallai y gwnaf i radd Meistr yn y dyfodol, ond ar hyn o bryd, carwn ddechrau ar yrfa mewn darlledu radio.
“Dwi wedi mwynhau pob munud yn Aber. Mae’r Adran yn wych ac maent wedi bod yn gefnogol iawn ers y dechrau.”
Daniel Shelley-Smith

Gwyddai Daniel Shelley-Smith pan oedd yn ifanc iawn y carai fod yn awdur. Y mae wedi ymddiddori mewn llyfrau ers pan oedd yn bedair mlwydd oed. Graddiodd heddiw, yn 24 mlwydd oed, mewn Ysgrifennu Creadigol, a bydd yn parhau yn Aber y flwyddyn nesaf i astudio ar gyfer PhD.
Yn wreiddiol o Wolverhampton, dywed Daniel, “Enillais ysgoloriaeth i ddod yma ac yr wyf wedi mwynhau pob munud ohono. Deuthum yma ar argymelliad ffrind imi, a dyna’r penderfyniad gorau a wneuthum erioed. Mae Aber yn fan gwych i astudio. Carwn i addysgu yn y dyfodol.”
Myapreet Gill

Pan oedd Myapreet Gill yn saith mlwydd oed, cyhoeddodd ger bron ei rhieni ei bod am fod yn gyfreithiwr un diwrnod. A hithau bellach yn 23 mlwydd oed, mae hi un cam yn agosach at ei breuddwyd, gan fod Myapreet wedi graddio yn y Gyfraith heddiw. Y cam nesaf fydd dechrau ar gwrs Ymarfer Cyfreithiol ym mis Medi.
O Firmingham, dywedodd Myapreet, “Gwn imi wneud y peth iawn o dod i Aberystwyth i astudio. Roeddwn angen saib oddi wrth bawb lle gallwn ganolbwyntio ar f’astudiaethau. Fy mam a’m tad yw f’ysbrydoliaeth – rhoesant bopeth imi a dwi am roi rhywbeth yn ôl iddynt hwy. Dod i Aber oedd y dewis gorau a wneuthum.”
Alice Heath

Graddiodd Alice Heath, 22, o Gasnewydd heddiw mewn Hanes. Daeth i Aberystwyth gan iddi dreulio sawl gwyliau yma yn ystod ei phlentyndod, a chan fod ganddi atgofion melys o’r ardal a’r môr. Bwriada aros yn Aber am y flwyddyn academaidd nesaf i astudio ar gyfer gradd Meistr.
Esbonia, “Myfi yw’r cyntaf o’m teulu i fynychu Prifysgol, felly mae heddiw yn ddydd o gryn falchder i bawb o’r teulu. Dewisais Aber ar sail enw da’r Adran Hanes a’r Brifysgol. Mae pawb wedi bod mor gefnogol a chyfeillgar, a dwi wedi mwynhau pob munud o fod yma.”
Arron Hunter

Enillodd Arron Hunter, o Faclesfield, radd mewn Hanes o Aberystwyth heddiw. Yn y dyfodol, gobeithia ddilyn gyrfa mewn gwleidyddiaeth. Cwympodd mewn cariad ag Aber pan ddaeth yma ar ddiwrnod agored a gwyddai’n syth ei fod am ddod yma i astudio.
Dywed y gŵr 21 mlwydd oed, “Arferwn ddod yma ar fy ngwyliau pan oeddwn yn iau ac felly credaf fod y cysylltiad yno yn barod. Ces fwrsariaeth chwaraeon saethyddiaeth i ddod yma. Dwi wedi gwneud cyfeillion da yma, a byddaf yn gweld colli’r lle!”
Rhun a Lowri Emlyn

Graddiodd gŵr a gwraig, Rhun a Lowri Emlyn, o Brifsgol Aberystwyth heddiw. Enillodd Rhun radd PhD mewn Hanes, tra enillodd Lowri radd Meistr mewn ysgrifennu creadigol. Mae’r pâr, sy’n byw ym Mhenrhyncoch, ar ben eu digon eu bod yn cael cyd-ddathlu ar y fath ddiwrnod arbennig.
Dywedodd Rhun, “Fe’m gwnaed yn ddarlithydd yn Adran Hanes Aberystwyth ym mis Medi ac yr wyf yn edrych ymlaen yn fawr at y dyfodol gyda’r Adran. Roedd y cwrs yn wych a mwynheais bob munud o’r gwaith.”
Meddai Lowri, sydd hefyd yn gweithio i Adran Yrfaoedd y Brifysgol, “Carwn ddiolch i bawb yn yr Adran Saesneg am fod mor gymwynasgar a chyfeillgar - bu’n bleser astudio yma.”
Kelsey Redmore

Graddiodd Kelsey Redmore, 20, heddiw mewn Llenyddiaeth Saesneg. O Bort Talbot, dewisodd Kelsey astudio yn Aber oherwydd ei leoliad ger y môr. Mae hi'n gobeithio astudio cwrs newyddiaduraeth ôl-radd ym Mhrifysgol Caerdydd y flwyddyn nesaf.
Dywedodd, "Mi wnes i syrthio mewn cariad ag Aber yn syth. Roedd rhaid i mi ddod yma i astudio am ei fod yn teimlo yn iawn. Rwyf wedi gwneud ffrindiau gwych yn ystod fy amser yma. Dros y flwyddyn nesaf, y cynllun yw chwilio am brofiad gwaith yn y diwydiant darlledu."
Melissa Gamble

Mae Melissa, 22, yn dod o Swydd Antrim yng Ngogledd Iwerddon ac mae wedi graddio mewn Iaith a Llên Gwyddeleg a Llenyddiaeth Saesneg. Aeth y rhan fwyaf o'i ffrindiau i brifysgolion yn yr Alban ond penderfynodd ei bod am astudio yng Nghymru. Bydd yn dechrau ar radd Meistr yn y Wyddeleg y flwyddyn nesaf ac mae'n meddwl yn bendant mai Aber yw'r lle i fod.
"Mae heddiw yn teimlo'n rhyfedd iawn, ond mewn ffordd dda, rwyf wedi cyrraedd y llinell derfyn. Byddaf bob amser yn cofio'r heulwen, y machlud ar y traeth a gwylio'r dolffiniaid ar Draeth y De."
Azul Maite de Pol

Ysbrydolwyd Azul gan ei hathrawes Gymraeg yn yr Ariannin, Hazel Charles Evans, yn Esquel 10 mlynedd yn ôl. Ymwelodd â Chymru am y tro cyntaf yn 2000 cyn dychwelyd i fyw yma at ei mam yng Nghaerdydd yn 2003. Bydd Azul yn dechrau gweithio gyda'r Llywodraeth yng Nghaerdydd yr haf yma cyn mynd ar gwrs Cyfieithu MA yn Abertawe.
“Rwy'n cofio Hazel yn mynd â ni am wibdaith i Aberystwyth pan ymwelais â Chymru adeg Eisteddfod Llanelli. Gyrron ni ar hyd Traeth y De a throi'r cornel a gwelais yr Hen Goleg, a meddylais yn syth “Yma dwi ishe bod”! A dwi yma ac wedi graddio yn y Gymraeg a Ffrangeg!”
Lucky Panwar

Mae Lucky, 25, o Delhi Newydd, India wedi cwblhau ei MBA ac yn canmol y Brifysgol i'r cymylau am safon y staff, ansawdd y cwrs a'r ysgoloriaeth a dderbyniodd i'w alluogi i astudio yma.
“Mae'n bleser mawr i fod yn rhan o'r digwyddiad hwn, dyma un o ddyddiau gorau fy mywyd. Rwyf wedi derbyn lleoliad mewn sefydliad ariannol ac rwy'n bwriadu dilyn cwrs ACCA (Association of Chartered Certified Accountants) yn 2013. Un o uchafbwyntiau fy nghyfnod yma oedd ein hymweliad â phrif ganolfan Audi yn yr Almaen.”
Gareth Lanagan

Bu mam a thad Gareth yn astudio yn Aberystwyth, ac roedd hyn yn sicr yn ddylanwad mawr ar ei ddewis pan ddaeth hi’n amser iddo benderfynu ar ddilyn cwrs addysg uwch. Heddiw derbyniodd Ddoethuriaeth mewn Mathemateg.
Dywed Gareth, 30 oed o'r Barri: “Cyfarfu fy rhieni tra'n y Brifysgol yn Aberystwyth ac roeddwn yn ymwybodol ei fod yn le ardderchog ar gyfer astudio mathemateg. Mae' di bod yn gyfnod o waith caled iawn, ond mae llawer o atgofion da gennyf am fy nghyfnod yma, fel bod yn rhan o'r prosesiwn llynedd a gweld fy myfyrwyr cyntaf yn graddio.”
Hannah Huntley

Daw Hannah o swydd Hertford a dewisodd ddilyn cwrs Daearyddiaeth Ffisegol yn y Brifysgol. Wedi graddio, mae'n gobeithio dilyn gyrfa yn y sector elusennol. Chwaraeodd y Gymdeithas Ddaearyddiaeth rhan hanfodol yn ei bywyd cymdeithasol gan gyfrannu at hwyl ei chyfnod yma.
“Mae heddiw yn ddiwrnod cyffrous iawn ac yn deimlad go rhyfedd. Dewisais ddod i Aber ar ôl mynychu'r Diwrnod Agored, roeddwn yn teimlo bod perthynas arbennig o agos rhwng y dref a'r brifysgol ac mae'n gymuned ddiogel iawn hefyd.”
Adam Kirton

Mae Adam yn derbyn ei MSc mewn Rhewlifeg heddiw a bydd yn dechrau gweithio fel rheolwr Adnoddau Dynol gyda'r Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol ymhen ychydig. Daeth i Aber oherwydd enw da'r Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear. Roedd hefyd yn gyfle i adael Caerlŷr a byw ger y môr!
"Mae Daearyddiaeth yn ddisgyblaeth dda i astudio ac mae llawer o gyflogwyr yn gweld ei werth. Mwynheues astudio rhewlifeg, roedd yn bwnc hynod ddiddorol. Fe ddes i Aber gan fy mod eisiau astudio yng Nghymru ac rwyf wedi cael bywyd cymdeithasol gwych yma oedd yn cylchdroi o gwmpas chwaraeon."
Llywarch ap Myrddin

Llywarch from Llanrwst has followed in his father’s footsteps, in choosing to study at Aberystwyth University. He graduated in Geography and is considering doing a Masters or embarking on a career in the conservation sector. During the summer holidays he will be working on Llanddwyn, Anglesey with the Countryside Council for Wales.
"The fact that the University teaches Geography through the medium of Welsh clinched it for me. I have fond memories of living in Pantycelyn, of playing for the town's rugby club where I befriended many locals, as well as making friends in the college. Finishing the course was a relief but I learned a lot during my time here including how to cook!”
Mari Llifon Jones a Theleri Haf Jones
.jpg)
Daw Mari, 20 oed o Fenllech, Ynys Môn ac mae wedi graddio mewn Mathemateg ar ôl tair blynedd fythgofiadwy yn y Coleg ger y Lli. Y mae wedi cael ei derbyn ar gwrs Ymarfer Dysgu Uwchradd ym Mangor ac yn ddelfrydol, buasai wrth ei bodd yn cael gwaith fel athrawes Fathemateg yn y gogledd.
Meddai Mari “Roedd pawb yn y Brifysgol mor gyfeillgar - rydym ni gyd, myfyrwyr a darlithwyr yn un teulu mawr, ac roedd yn allweddol bod yr Adran Fathemateg yn cynnig modiwlau drwy gyfrwng y Gymraeg.”
Mae ei gefaill, Teleri Haf Jones wedi derbyn gradd dosbarth cyntaf yn y Gymraeg ac mae'n dychwelyd y flwyddyn nesaf i astudio cwrs MPhil. Bydd yn astudio efeilliaid mewn llenyddiaeth, yn ogystal â’r problemau meddygol a'r safbwyntiau negyddol a gysylltir ag efeilliaid, gan geisio'u profi i’r gwrthwyneb. Derbyniodd Teleri Ysgoloriaeth Syr Thomas Parry-Williams eleni hefyd.
Dywedodd Teleri“Mae heddiw yn garreg filltir bwysig iawn – gobeithio bydd fy ngradd yn agor drysau eraill i mi, rwyf yn hynod o hapus efo fy nghanlyniad, mae'n benllawn ar dair blynedd o waith caled a mwynhad pur.”
Sanjeev Gandhi Krishnan

Bydd Sanjeev yn mynd a’i wobr yn ôl at ei rieni yr haf hwn, ar ôl bod i ffwrdd o'i dref enedigol, Bangalore yn India, am ddwy flynedd. Bu'r gŵr 28 oed yn gweithio yn y sector TG cyn dilyn MBA. Ei obaith yw cael swydd o fewn y sector yn y dyfodol agos. Ffioedd cymharol isel y cwrs ddenodd Sanjeev i'r Brifysgol yn y lle cyntaf, ond fe wireddodd freuddwyd arall hefyd pan dreuliodd ddwy flynedd mewn tŷ oedd a golygfeydd godidog o'r môr.
"Rwy'n falch iawn dros fy ffrindiau, fy rhieni a’m athrawon, maent i gyd wedi bod yn gefnogol iawn imi yn ystod fy astudiaethau, sydd wedi bod yn rhan allweddol o’m bywyd. Roedd cael y cyfle i wneud MBA yn rhywbeth yr oeddwn wedi bod yn anelu i wneud er 10 mlynedd. Byddaf yn trysori'r cyfeillgarwch a wneuthum yma, mae’n le heddychlon i fyw ac mae gennyf atgofion melys o gerdded i fyny Consti!"
Todd Penfold

Ysbrydoliaeth mawr Todd yw ei fam, a raddiodd mewn Ffiseg yn 2005. Mae Karen yn fam sengl i 3 o blant, ac wedi iddi ddilyn cwrs Prifysgol Agored yn Sir Benfro cafodd ei derbyn gan Aber i astudio Ffiseg. Mae gan Todd ei gwmni rheoli digwyddiadau ei hun eisioes - Blackhouse, sydd wedi ei leoli ar y campws, a bu yn gydlynydd marchnata Gwyl Beach Breaks yn y Brifysgol am y 2 flynedd ddiwethaf.
"Mae Mam wastad wedi fy ysbrydoli a hi ddylanwadodd arnaf i symud i Aber a dilyn cwrs marchnata yma. Roeddwn yn gallu gweld gwerth gradd. Mi fydd yn help mawr i’ng ngyrfa yn y dyfodol. Cefais amser gwych yma yn chwarae pêl-droed i Glwb Phoenix, bod yn brif sgoriwr y gynghrair a dod âg artistiaid No1 Chase a Status yma am gig. "
Pob lwc i Todd yng Nghaerdydd ac i Karen sy'n dechrau fel technegydd labordy yn Ysgol Gyfun Penweddig ym mis Medi.
Zhuo Ke Li

Mae Zhuo Ke Li, sydd yn 23 oed ac o Tsieina, yn edrych ymlaen at heddiw ac yn teimlo rhyddhad ar ôl graddio mewn Cyfrifeg a Chyllid â Sbaeneg. Bu'n 4 blynedd o waith caled gan gynnwys blwyddyn mewn ysgol iaith ym Madrid, ac mae'r seremoni raddio yn goron ar y cyfan. Mae Zhuo'n gobeithio astudio ar gyfer gradd Meistr mewn Rheolaeth Busnes yn Aber ac yna chwilio am swydd yn y DU.
"Mae gan yr Ysgol Fusnes enw rhagorol a dyna beth ddenodd fi i Aberystwyth, ac roeddwn i eisiau yr her o astudio dramor. Rwyf wrth fy modd gyda'r lle a'r bobl a rwyf yn ddiolchgar am yr holl brofiadau a gefais yma. Mae Aber yn lle llawn ewyllys da.”
Emily Farr

Mae Emily, 21 yn dod o Dalgarreg, Ceredigion. Mae wedi graddio mewn Rheoli Busnes gyda Gwyddoniaeth Cyfrifiadurol ac yn edrych ymlaen at gychwyn y bennod nesaf yn ei bywyd. Mynychodd Ysgol Haf y Brifysgol a phenderfynu astudio yma.
"Alla i ddim credu pa mor gyflym mae’r dair blynedd ddiwethaf wedi diflannu, rwy'n gobeithio dod o hyd i swydd yn y diwydiant digwyddiadau neu rhedeg busnes sydd yn gysylltiedig â cherddoriaeth. Mae Aber yn le cyfeillgar iawn ac roeddwn wrth fy modd gyda'r sin gerddoriaeth fyw sydd yn y dref."
Cassandra Gibbs

Mae Cassandra a'i theulu yn gwneud y mwyaf o'i hymweliad ag Aberystwyth ac yn mynd i dreulio amser yng Nghymru i ddathlu llwyddiant eu merch. Mae'r llyfrgellydd 34 oed yn gweithio i Wasanaeth Llyfrgell Genedlaethol Trinidad ac wedi dilyn y cwrs rhan-amser o bell.
"Rwy'n edrych ymlaen at gael seibiant o'r gwaith astudio, yna byddaf yn mynd i'r afael â gradd Meistr. Heddiw roeddwn yn nerfus ac yn teimlo’r cyffro ar yr un pryd, ond yr wyf mor falch i gael fy ngradd. Fy nhad dalodd am y daith drosodd ac rydym wedi cael amser gwych yn cwrdd â'r myfyrwyr rhyngwladol eraill ac yn canu karoke!"
Dawn Hazlehurst

Graddiodd Dawn, sy'n dathlu ei 50 eleni, mewn Astudiaethau Gwybodaeth wedi cyfnod o 9 mlynedd o waith caled yn astudio o bellter tra'n gweithio i Wasanaeth Llyfrgelloedd Cyngor Dinas Wolverhampton. Roedd Dawn eisiau bod yn lyfrgellydd ers pan oedd yn 8 mlwydd oed ac yn ymwybodol taw Aber oedd y lle ar gyfer dilyn cwrs o'r fath.
“Uchafbwyntiau y cwrs oedd mynychu yr ysgolion haf, achos ges i'r cyfle i ymddwyn fel myfyriwr, anghofio am olchi llestri, mynd i'r traeth a gwneud ffrindiau da. Dwi'n teimlo rhyddhad bod yr holl waith caled drosodd ond mae rhaid imi gyfaddef dwi yn gaeth i astudio bellach, a dweud y gwir dwi'n bwriadu dilyn cwrs gradd MA mewn Hanes nesa!”
Karl Parry

Llosgodd Karl tipyn o rwber i gyrraedd y seremoni raddio heddiw. Gadawodd ei gadref yng Nghaerfyrddin yn gynnar bore 'ma er mwyn mynychu cyfweliad yng Nghaerdydd, cyn dychwelyd adref i gasglu ei deulu a'i throi hi am Aberystwyth er mwyn cyrraedd y seremoni prynhawn yma. Mae'r llanc 22 oed, sydd yn derbyn gradd mewn Cyfrifiadureg, yn ystyried heddiw yn binacl. Bu ei athro ffiseg yn astudio yma ac fe'i argyhoeddwyd gan y diwrnod agored mai Aber ddylai fod yn ddewis cyntaf iddo.
"Rwy'n dod o deulu rhiant sengl difreintiedig ac rwyf yn esiampl o sut y gall addysg godi unigolion allan o dlodi a chyflawni pethau gwych. Pan roeddwn yn blentyn roedd fy Mam ar y dôl, ond trwy ei phenderfyniad ei hun cafodd swydd a wellodd pethau yn raddol inni. Pan orffenais fy nhraethawd hir, roedd yn deimlad gwych, roeddwn yn hapus iawn gyda'r gwaith a gyflwynais. Talodd fy ngwaith caled ar ei ganfed gan i mi gael dosbarth cyntaf amdano."
Darius Elphick

Mae heddiw yn benllanw pum mlynedd o waith caled medd y myfyriwr graddedig, 23 oed o Ddolgellau. Yr wythnos nesaf bydd yn hedfan allan i Kuala Lumpur i dreulio cyfnod preswyl gyda SyQic Capital yn datblygu apiau symudol.
"Cefais fy nenu i Aber gan ei awyrgylch gyfeillgar ac enw da yr Adran Gyfrifiadureg. Un o fy hoff atgofion yw'r hwyl a gawsom yn Solariwm yr adran. Mae heddiw yn deimlad gwych ac rwy'n edrych ymlaen at yrfa diddorol a ffrwythlon.”
Spiridoula Sotiropoulou

Mae Spiridoula wedi ennill HND mewn Cadwraeth Cefn Gwlad. Daw'r fyfyrwraig 33 oed, o ddinas Athens. Penderfynodd astudio yn Aber gan bod yr adran yn cynnig cwrs o ansawsdd da a chan fod cyfleoedd yn y sector gadwraeth yng gwlad Groeg braidd yn gyfyng.
“Mae'n ddiwedd un pennod ac yn ddechrau ar un arall yn fy mywyd. Byddaf yn treulio peth amser gyda fu nheulu yng Ngwlad Groeg yn ystod yr haf ac yna’n dychwelyd i'r DG i chwilio am waith ac atgyfnerthu fy nghymwysterau drwy ddilyn cwrs arall. Rwyf wedi cyfarfod gyda pobl wych yn y dref ac ar y campws yn ystod fy amser yma yn Aber."
Ben Cross

Mae Ben, sydd yn 23 ac o Abertawe ac wedi ennill Diploma Cenedlaethol Uwch mewn Amaethyddiaeth, ond heddiw roedd ei ddiwrnod cyntaf yn y Brifysgol! Dilynodd Ben, ynghyd a rhai o'i gyd-fyfyrwyr, gwrs HND drwy gytundeb ‘franchise’ yng Ngholeg Amaethyddol Gelli Aur, Sir Gaerfyrddin. Bu’n gweithio ar fferm laeth yng Ngorseinon yn ystod ei astudiaethau ac mae'n gobeithio rhedeg ei fferm ei hun yn y dyfodol, gan ganolbwyntio ar y sector cig eidion.
"Mae'n gamp fawr i mi, doeddwn i erioed wedi meddwl y byddwn i'n cael anrhydedd o'r fath ac rwyf wedi gweithio'n galed i gyrraedd fan hyn heddiw. Mae'r cwrs wedi ehangu fy ngorwelion a rhoi persbectif ehangach imi ar amaethyddiaeth, fydd yn sicr o wella fy sgiliau wrth fagu stoc.”
Alex Franklin

Daw Alex o Solihull a graddiodd mewn Astudiaethau Sbaeneg a Ffilm a Theatr. Parhaodd ei gwrs am 4 blynedd gan iddo dreulio blwyddyn yn Sbaen yn dysgu Saeseneg ail-iaith.
"Mae heddiw'n ddiwrnod cofiadwy ac yn garreg filltir yn fy mywyd, ac rwyf yn teimlo'n falch iawn o'r hyn dwi wedi'i gyflawni. Mae gan Aberystwyth olygfeydd anhygoel ac mae'n leoliad gwych. Pan fynychais y diwrnod agored, dyna beth werthodd y Brifysgol i mi ... yn ogystal â'r cwrs, wrth gwrs!
Les Long

Penderfynodd Les, sydd yn 65, ddilyn gradd Celfyddyd Gain ar ôl iddo ymddeol. Bu'n fyfyriwr celf talentog yn yr ysgol, a cheisiodd ei athro ei berswadio i ddilyn cwrs addysg uwch. Fodd bynnag, nid oedd ei rieni yn fodlon a dewisodd ddilyn gyrfa yn y Llynges. Treuliodd y rhan fwyaf o'i yrfa yn gweithio mewn carchardai ac yn gweithio gyda phobl oedd yn dioddef o broblemau iechyd meddwl difrifol.
"Mae'n wych i feddwl fy mod wedi cyrraedd y pwynt hwn mewn bywyd ac yn ennill gradd, rhywbeth doeddwn i erioed yn ei ddychmygu y buaswn yn ei wneud. Yr wyf yn bwriadu treulio fy amser yn paentio tirwedd hardd mynyddoedd Eryri sy'n amgylchynu fy nghartref yn Nolgellau. Mae Aber wedi rhoi cymaint imi, nid yn unig o ran ansawdd y cwrs, ond o ran y cyfeillion a wnes yn ystod fy nhair blynedd yma. Ar ôl treulio gymaint o flynyddoedd yn gweithio mewn cyd-destunau llawn gwrthdaro, mae hyn wedi bod yn chwa o awyr iach ac mae heddiw yn deimlad gwych."
Tom Voyce

Mae Tom Voyce, sy'n 23 newydd raddio mewn Celfyddyd Gain gan arbenigo mewn peintio. Yn wreiddiol o Burton on Trent, mae’n gobeithio dilyn gradd Meistr mewn Celfyddyd Gain ac yn hapus bod ei waith caled dros y tair blynedd diwethaf wedi talu ar ei ganfed.
"Cefais fy nenu i Aberystwyth yn gyntaf gan y lleoliad gwych a gan bod y cwrs a gynigwyd gan yr ysgol gelf yn fy ngweddu i'r dim. Cefais amser gwych yma a chyfarfod â phobl arbennig ar y cwrs gan gynnwys y tiwtoriaid."
Greta & Hanna Verkerk

Dathliad dwbl i'r efeilliaid 21 oed Greta a Hannah, o Deepcut yn Surrey, sy'n graddio mewn Astudiaethau Ceffylau heddiw. Mae'r ddwy yn llawn cyffro ar gyfer y bennod nesaf yn eu bywydau gan fod y ddwy wedi cael cytundeb o ddwy flynedd i weithio ar fridfa ceffylau Arab yn Swydd Henffordd.
Dywedodd Hannah "Mynychais y diwrnod agored yn union cyn cymryd blwyddyn allan a mynd i weithio yn Awstralia, ac roeddwn yn gwybod yn union taw dyma'r lle i mi. Mae heddiw yn garreg filltir yn fy mywyd, rwyf wedi dysgu cymaint am geffylau yn ystod fy nghwrs a hoffwn ddiolch i'r Brifysgol a'r staff am eu cymorth wrth imi gyflawni fy ngradd heddiw."
Ychwanegodd Greta "Rwy'n teimlo mor hapus a balch heddiw ac rwy'n edrych ymlaen at dderbyn y radd hon. Argymhellwyd y cwrs ceffylau i mi ac roedd yn anhygoel, agorwyd cymaint o ddrysau, ac un diwrnod rwy'n gobeithio rhedeg bridfa ar y cyd gyda'm chwaer."
Lewis Alun Lloyd

Graddiodd Lewis, sy'n 21 ac yn wreiddiol o'r Rhondda, mewn Astudiaethau Ffilm a Theledu. Mae'n drist o orfod ffarwelio â'i ffrindiau a bywyd myfyriwr ond mae'n disgwyl ymlaen at bennod nesaf ei fywyd. Mae ganddo nifer o opsiynau ar gyfer y dyfodol, sy'n amrywio o astudio am MA yn Aber neu Gaerdydd, cynilo er mwyn teithio Ewrop, neu ddysgu TEFL gan ei fod wedi hyfforddi fel athro Saesneg ail iaith yn ddiweddar.
“Roedd nifer o resymau am ddewis Aber, roedd cymorth ariannol y Cynulliad yn amlwg yn ffactor, ac roedd y ffaith bod Aber yn cynnig cwrs cyfrwng Cymraeg yn rhoi cyfle i astudio mewn grwpiau llai gyda pherthynas agosach â'r darlithwyr. Mae Aber hefyd yn andros o brydferth a rhad. Fy hoff atgof fydd sŵn ac arogl y môr a'r golygfeydd anhygoel, nosweithiau hir yng nghwmni ffrindiau a brecwast yr Upper Limit Cafe!"
Will Pritchard

Cafodd Will Pritchard, 22, o Fryste radd mewn Drama heddiw (dydd Mawrth 10 Gorffennaf) a bydd yn treulio'r flwyddyn nesaf yn Llundain yn ystyried ei opsiynau a defnyddio yr hyn a ddysgodd yn Aberystwyth yn Theatreland. Yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu a ddenodd ef i'r Brifysgol, a'r pwyslais ar arferion theatr radical. Yn ôl Will, y peth gorau am Aber yw harddwch dref a bod maint y dref yn ei gwneud yn hawdd i redeg i mewn i'ch ffrindiau.
"Rwy'n teimlo'n falch iawn o'r perfformiad cyntaf a wnaethom yn y drydedd flwyddyn, pan oeddwn yn gyfarwyddwr cynorthwyol. Rwy'n credu taw dyna'r darn gorau o waith a gyflawnais yn ystod fy nghwrs, yr oedd yn ddarn eithriadol o theatr gorfforol. Mae'n wych i gael rhyw fath o gydnabyddiaeth gan ffrindiau, teulu a darlithwyr; rwy'n synnu at eu hymateb ac yn ddiolchgar iawn iddynt."
Lara Maleen Kipp

Mae Lara Maleen Kipp o Wangen yn yr Almaen, newydd raddio mewn Senograffi a Dylunio Theatr, ac wedi'i chyffroi yn lan bod yr holl waith caled wedi talu ar ei ganfed. Mae wedi gwneud cais am Ysgoloriaeth Mynediad i Feistr ac yn gobeithio mynd ymlaen i astudio am radd Meistr yma yn Aberystwyth. Mae hefyd wedi gwneud cais i astudio yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yng Ngaerdydd. "Mae gen i atgofion melys o f'amser yma, canu gyda’r Cantorion Madrigal Elisabethaidd, cynhyrchiad band y 3edd flwyddyn a Strictly Come Aber! Heb anghofio'r nosweithiau cynnes hynny a dreuliwyd ar y traeth gyda barbiciw yn sgyrsio trwy'r nos," dywedodd.
Phoebe Patey-Ferguson

Derbyniodd Phoebe Patey-Ferguson, sydd yn wreiddiol o Poole, radd heddiw mewn astudiaethau Drama. Nawr bod ei hastudiaethau wedi eu cwblhau yn Aberystwyth mae’n mynd i Goldsmiths i astudio ar gyfer gradd Meistr mewn Perfformiad a Diwylliant. Mae hefyd yn bwriadu parhau i weithio gyda chwmni theatr sefydlodd hi yn Aberystwyth, Pot Of Thieves. Meddai, "Ymysg fy atgofion gorau o Aber, mae sefydlu fy nghwmni theatr a gafodd ei ddewis ar gyfer Gŵyl Myfyrwyr Theatr Ryngwladol yr haf hwn. Dewisais Aber yn benodol oherwydd bod y llyfrau oedd gennyf ddiddordeb ynddynt wedi cael eu hysgrifennu gan ddarlithwyr o’r brifysgol.
Aishatu Gwadabe

Mae Aisha wedi gwirioni gyda'i gradd mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol ac yn llawn cyffro wrth ddisgwyl ymlaen am y bennod nesaf yn ei bywyd. Mae'n 27 mlwydd oed, ac yn hanu’n wreiddiol o Gwlen (Cologne) yn yr Almaen. Enw da Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol y Brifysgol ddenodd hi i astudio yma, yn ogystal â'r cyfle i wella ei Saesneg. Mae hi nawr wedi gwneud cais i ddilyn gradd Meistr mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol Gritigol.
"Wnâi fyth anghofio cyrraedd Aberystwyth ar y trên am y tro cyntaf, roedd pobman mor las a chymaint o ddefaid! Roeddwn yn aros yn Alex yn ystod y flwyddyn gyntaf ac roedd gennyf yr olygfa orau o'r traeth a'r machlud o fy ffenestr. Rwyf wedi gwneud ffrindiau am oes yma, ysgogiad deallusol gwych a'r profiad gorau erioed!
Saffron Passam

Graddiodd Saffron gydag Anrhydedd Dosbarth Cyntaf mewn Seicoleg. Mae Saffron, sy'n 36 oed ac yn dod o Lanon, Ceredigion, yn frwdfrydig iawn am ei dyfodol ac yn bwriadu parhau efo'i hastudiaethau drwy ddilyn cwrs ol-radd. “Dewisais Aberystwyth o ganlyniad i naws gymunedol y lle a'i leoliad hyfryd. Rwy mor falch fy mod wedi cwblhau fy nhraethawd hir terfynol, ac un o fy hoff atgofion oedd cyfweld ag aelodau o'r adran Seicoleg, profiad bythgofiadwy! Mae heddiw yn ddathliad addas i nodi’r hyn rwyf wedi ei gyflawni yn ystod y 3 blynedd ddiwethaf.
Mathew Phillips

Graddiodd Mathew Phillips, 21, o Bort Talbot mewn Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff heddiw gyda 2:2. Mae'n dechrau swydd fel cynorthwyydd addysgu ym mis Medi cyn dilyn cwrs PGCE yn 2013. Yr haf hwn, mi fydd yn brysur yn gweithio ar gynlluniau chwarae plant yn ogystal â gwneud rhywfaint o waith adeiladu. Penderfynodd ddilyn ei radd ar ôl mynychu'r diwrnod agored a gweld fod y Brifysgol yn gyfeillgar ac yn groesawgar. Dywedodd, "Rwy’n falch iawn o beth rwyf wedi’i gyflawni ac mae’n gyfle gwych i ddathlu tair blynedd o waith caled gyda fy ffrindiau a theulu. Fy atgof gorau o Aber yw’r tair blynedd a dreuliais yn chwarae rygbi dros y brifysgol a blwyddyn fel capten y tîm."
Leah Brzeska-Laird

Mae Leah wedi graddio mewn Seicoleg ar ol dychwelyd i addysg fel myfyrwraig aeddfed. Daw Leah, 36, o'r Drenewydd, Powys a bu'n byw adref tra'n dilyn y cwrs gan deithio i'r campws yn reolaidd. Er gwaetha'r ffaith iddi deimlo'n ansicr ynglyn â dychwelyd i addysg, bu cefnogaeth staff yr adran yn allweddol i dawelu ei hofnau. Mae Leah yn gobeithio parhau i astudio Seicoleg drwy astudio am radd Meistr. Mae’n ystyried ei chyfnod fel Llywydd y Gymdeithas Seicoleg a'r seremoni raddio heddiw fel yr uchafbwyntiau!
“Heddiw yw un o ddiwrnodau balchaf fy mywyd, chredais erioed y byddwn yn ennill gradd. Bu’n rhaid imi oresgyn sialensiau yn ystod y ddwy flynedd olaf, gan imi frwydro yn erbyn blinder cronig ol-feirws a salwch meddwl fy mab. Roedd yn sicr yn her a hanner! Rwyf wrth fy modd gyda fy nghanlyniad ac mae'n amlwg bod yr holl waith caled wedi talu'i ffordd. Rwy'n falch, hapus, a hyd yn oed yn ecstatig!”
Peter Woods

Graddiodd Peter Woods, sydd yn wreiddiol o Southampton, heddiw mewn Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff. Mae Peter, 21, yn y broses o wneud cais am hyfforddiant Swyddog Rhyfela gyda'r Llynges Frenhinol. Dewisodd Aberystwyth oherwydd bod y cwrs a gynigir o safon uchel iawn ac am fod y wlad o gwmpas mor wahanol i'r lle y cafodd ei fagu. Dywedodd, "Mae heddiw’n gydnabyddiaeth o’r ymdrech a wnes tra ar y cwrs. Rwy'n falch iawn ac yn teimlo rhyddhad gan ei fod yn gwrs heriol. Fe wnes i fwynhau’r modiwl ffisioleg yn ofnadwy. Mae'r Brifysgol wedi cynnig ffordd o fyw anhygoel i mi a’r atgofion gorau fydd o'r ffrindiau wnes i yma a chwarae rygbi."