Cofio’r Sefydlwyr

Ar ddydd Gwener 14 Hydref byddwn unwaith eto yn dathlu sefydlu Prifysgol Aberystwyth yn 1872, mewn Brecwast Sefydlwyr yn yr Hen Goleg. Mae gwreiddiau sefydlu Coleg Prifysgol Cymru, fel y’i gelwid yn wreiddiol, ymhlith Cymry Llundain canol y 19eg ganrif, gydag unigolion megis Hugh Owen, Thomas Nicholas, William Williams, AS Coventry, George Osborne Morgan, AS sir Ddinbych, Morgan Lloyd, MP Biwmaris, John Griffith, newyddiadurwr a gohebydd Llundain Baner ac Amserau Cymru, y Parch. Robert Jones, Rotherhithe, y Parch. David Thomas, Stockwell, a Stephen Evans yn chwarae rhannau amlwg. Roedd yna eraill hefyd, ond y rhain oedd aelodau cyson y pwyllgor a sefydlwyd ar 1 Rhagfyr 1863 yn y Freemasons’ Tavern, 61-65 Great Queen Street, lle mae’r Connaught Rooms nawr.

 Founders Day 1

 

 

Yn dilyn marwolaeth William Williams yn 1865, daeth Morgan Lloyd yn drysorydd. Ganwyd Lloyd yn sir Feirionnydd; fe’i haddysgwyd ym Mhrifysgol Caeredin a chafodd ei alw i’r bar yn y Deml Ganol yn 1847 – y flwyddyn y cyhoeddwyd adroddiad Brad y Llyfrau Gleision a fu’n gyfrifol am gychwyn y symudiad i sefydlu prifysgol. Roedd swyddfeydd nifer o fargyfreithwyr yn Mitre Court ac yno yn ystafelloedd Morgan Lloyd yn King’s Bench Walk byddai’r pwyllgor yn aml yn cyfarfod.

 

Ar 9 Hydref 1922, fel rhan o Ddathliadau Jiwbili y Coleg, dadorchuddiwyd plac “Er cof am wŷr y Mitre Court a gwŷr y Freemason’s Tavern a’r hen sefydlwyr dewr eraill trwy eu llafur y mae pobl ifanc Cymru nawr yn mwynhau y rhodd o wybodaeth” yn adeilad newydd Undeb y Myfyrwyr a brynwyd gan Gymdeithas y Cyn-fyfyrwyr a’i gyflwyno i’r Coleg fel Cofeb ar y cyd i Sefydlwyr y Coleg a’r myfyrwyr a gollodd eu bywydau yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

 Founders Day 2

 

 Ar yr un achlysur dadorchuddiwyd Cofeb Goffa i fyfyrwyr a staff yn Undeb y Myfyrwyr.

 Founders Day 3 

 

Bellach mae’r Gofeb Goffa a Phlac y Sefydlwyr wedi eu symud i Gwad yr Hen Goleg, cartref cyntaf Prifysgol Cymru.