Y Llyfrgell Newydd

Ar ddydd Mawrth 15 Tachwedd 1892 agorwyd y Llyfrgell Newydd yn swyddogol gan A.H.D. Acland, Is-Lywydd y Cyngor Addysg ym mhedwaredd llywodraeth William Ewart Gladstone. Ym mlynyddoedd cynnar Coleg Prifysgol Cymru roedd y llyfrgell ar y  llawr yn union uwchben cyntedd yr Hen Goleg, yn y lle y bu parlwr y ‘Castle House’ gwreiddiol, ac yn agos i lle mae Ystafell y Cyngor heddiw. O ganlyniad i haelioni noddwyr, tyfodd y llyfrgell yn eithaf cyflym yn ystod yr 1870au, ac erbyn 1878 roedd y Prifathro Thomas Charles Edwards yn  cwyno y byddai’r ‘Llyfrgell mewn byr amser yn rhy fach i ddal y llyfrau a gâi eu prynu a’u cyflwyno iddi.’

 

Erbyn 1885 roedd y Coleg wedi ennill ei blwyf, ond ar noson 8 Gorffennaf torrodd tân allan yn labordy’r adran gemeg ar lawr uchaf yr adeilad gan ddinistrio’r rhan ogleddol. Llosgwyd y llyfrgell hefyd, ond trwy ymdrechion gwirfoddolwyr a weithiodd drwy’r nos llwyddwyd i achub y llyfrau. Cludwyd y mwyafrif ohonynt i dai ym Maes Lowri gyda’r gweddill yn cael eu gadael yn bentyrrau yng ngerddi Maes Lowri, y tir sydd heddiw yn amgylchynu Eglwys San Mihangel.

 

Yn dilyn y tân, penderfynwyd ailgynllunio ac ailadeiladu yr Hen Goleg yn hytrach nag ail-leoli i safle y tu allan i’r dref, fel roedd Awdurdodau’r Coleg wedi ei fwriadu yn wreiddiol, gan ei gwneud yn bosibl yn awr i adeiladu llyfrgell bwrpasol yno.

 

Yn 1890 teithiodd y Prifathro Thomas Charles Edwards i’r Unol Daleithiau a Chanada i apelio i’r Cymry oedd wedi ymsefydlu yno am arian i ddodrefnu a chyflenwi’r llyfrgell newydd. Bu ei apêl yn llwyddiannus a chasglodd £1,050, sy’n cyfateb i dros £70,000 heddiw.

 

Pan glywodd John Pollard Seddon, pensaer y Castle Hotel, am y tân, rhuthrodd i Aberystwyth yn awyddus i gynorthwyo Awdurdodau’r Coleg. Yn ogystal â’i gynlluniau am yr adeilad, cyflwynodd Seddon hefyd rai am y llyfrgell, ond yn 1891 dywedodd y Prifathro wrth y Pwyllgor Adeilad y dylai’r llyfrgell gael ‘silffoedd, casys ac ati, yn unol â chynlluniau Mr C.J. Ferguson’, y pensaer a gynlluniodd yn ddiweddarach Neuadd Alexandra a’r rhan ganolog o’r Hen Goleg a fyddai’n disodli Castle House John Nash.

 

 

 

Y cynnig isaf am y gwaith o adeiladu’r llyfrgell oedd £288, a phetai’r ‘gwaith cerrig y tu ôl i’r silffoedd yn cael ei adael heb ei blastro, a gwaith cerrig arall yn cael ei wneud gan ddyn lleol”’, yna gellid lleihau’r cynnig i £190. Awgrymodd Ferguson y gellid arbed ‘£11 arall petai bracedau yn hytrach na cholofnau yn cael eu defnyddio i gynnal yr oriel ac ymhellach pe na bai’r oriel yn cael ei thrin i wrthsefyll tân byddai’n bosibl lleihau’r gost o rhwng £20 a £30’. Byddai hyn yn gostwng y gost i tua £150. Cofiwch bod yr awgrymiadau hyn wedi eu gwneud ar ôl tân 1885 a allai nid yn unig fod wedi dinistrio’r adeilad ond hefyd dyfodol y Coleg ei hun.

 

Roedd y Pwyllgor Adeilad hefyd wedi derbyn cynnig o £696 am y silffoedd a’r offer ond roeddent yn barod i ganiatáu i Ferguson archwilio’r manylion er mwyn lleihau’r gost ymhellach cyn belled na fyddent yn amharu yn ormodol ar edrychiad yr ystafell.

 

 

 

Am y rhan fwyaf o’r 20fed ganrif galwyd y llyfrgell yn Llyfrgell Gyffredinol. Erbyn yr 1970au roedd hi unwaith eto yn rhy fach i ddal yr holl lyfrau a gâi eu prynu, a phan agorwyd Llyfrgell Hugh Owen yn 1976, fel rhan o ddatblygu Campws Penglais, fe’i hailenwyd yn Llyfrgell yr Hen Goleg, gyda llyfrau ar gyfer yr ychydig adrannau oedd yn dal yn yr adeilad. Ym mis Hydref 2011, pan symudwyd yr olaf o’r llyfrau i Lyfrgell Hugh Owen, fe’i henwyd yn Ganolfan Astudio yr Hen Goleg.

 

 

 

 

Roedd yr arian a roddwyd gan Gymry America a Chanada yn ddigonol i dalu holl gostau dodrefnu’r llyfrgell, a chofnodir eu haelioni gan y plac a gynhyrchwyd ar frys ar achlysur sefydlu’r Tywysog Edward, y Brenin Edward VII yn ddiweddarach, yn Ganghellor cyntaf Prifysgol Cymru ar 29 Mehefin 1896, a’i osod ar fur y llyfrgell.

 

 

 

Dodrefnwyd y llyfrgell hon gan Gymry cenedlgarol yn yr Unol Daleithiau ac yn Canada 1890. “Cas gŵr na charo y wlad a’i maco.”

 

 

 

 

Ffynonellau:

T.G. Lloyd, The Old College Library: an historical account (1992)

J. Roger Webster, Old College Aberystwyth: the evolution of a High Victorian building (1995)