Y Cylch Cynllunio

Sgwrs yw’r Cylch Cynllunio rhwng Gweithrediaeth y Brifysgol a’i Hathrofeydd a’i Hadrannau Gwasanaeth Proffesiynol. Y nod yw cydweithio i osod targedau pum mlynedd i bob maes yn y Brifysgol er mwyn helpu i gyflawni’r Cynllun Strategol.

Mae’r adran Gynllunio’n darparu data dangosfwrdd y gall yr Athrofeydd ei ddefnyddio i asesu eu perfformiad yn y gorffennol, i ddarogan tueddiadau ac i osod targedau at y dyfodol. Drwy drafod â’r Athrofeydd (ac ystyried y cyfeiriad strategol sydd ei angen er mwyn i’r Brifysgol hithau gyrraedd ei thargedau), gosodir targedau unigol ar gyfer recriwtio a chadw myfyrwyr. Trafodir targedau i fwrw ymlaen â gwelliannau o ran ansawdd academaidd a phrofiad y myfyrwyr hefyd, ynghyd â thargedau ar gyfer dyfarniadau ymchwil a mathau eraill o incwm, ac ymgysylltu â busnesau ac â’r gymuned.

Mae’r Athrofeydd a’r Adrannau’n pwyso a mesur pa dargedau sy’n realistig a sut y bydd angen iddynt ddyrannu adnoddau i gyrraedd y targedau hynny a chytunir ar y targedau a dyrannu adnoddau drwy gylch llunio’r gyllideb.

Mae amserlen Cylch Cynllunio 2013/14 yn cael ei thrafod ar hyn o bryd â Gweithrediaeth y Brifysgol a bydd ar gael ddechrau blwyddyn academaidd 2013/14.

Ceir gwybodaeth am y Cylch Cynllunio i’r Athrofeydd a’r Adrannau Gwasanaeth Proffesiynol yma [LINK]