CCAUC

Mae Addysg Uwch yng Nghymru’n fater sydd wedi’i ‘ddatganoli’, sy’n golygu mai Llywodraeth Cymru, nid San Steffan, sy’n gwneud y rhan fwyaf o’r penderfyniadau am AU yng Nghymru. Caiff llawer o’r penderfyniadau hynny eu cyfryngu drwy Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.

Cenhadaeth CCUAC yw ‘hyrwyddo addysg uwch yng Nghymru ag iddi ragoriaeth ryngwladol, er budd unigolion, cymdeithas a’r economi, yng Nghymru a thu hwnt’. Mae’r Cyngor Cyllido’n dosbarthu cyllid i sefydliadau Addysg Uwch gan Lywodraeth Cymru, ac yn dyrannu cyllid yn strategol i gynnal dysgu ac addysgu, ymchwil a buddsoddiadau cyfalaf. Mae’r Cyngor hefyd yn arwain o ran monitro perfformiad y sector Addysg Uwch, gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau i osod targedau realistig ond uchelgeisiol sy’n adlewyrchu gwahanol gryfderau sefydliadau yng Nghymru a sicrhau bod AU yn parhau i wella yng Nghymru. Mae’r Cyngor yn gweithio gyda’r sector i sicrhau y gall y sector ymateb i’r blaenoriaethau a bennir gan Lywodraeth Cymru megis gwell mynediad i AU, cymorth i fyfyrwyr a datblygu darpariaeth drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae gwefan CCAUC'n darparu llawer iawn o wybodaeth am AU yng Nghymru, gan gynnwys sut y mae’r Cyngor yn dyrannu’r cyllid y mae’n ei ddarparu i sefydliadau, canllawiau ar lywodraethu da (er mwyn sicrhau bod sefydliadau Addysg Uwch yn cael eu rhedeg mewn modd teg, agored a thryloyw) a gwybodaeth am ymgysylltiad strategol y Cyngor â sefydliadau Addysg Uwch.