Rhoi Strategaethau ar Waith

Mae’r adran Gynllunio’n cynorthwyo Gweithrediaeth y Brifysgol a Gweithrediaethau’r Athrofeydd i ddatblygu eu strategaethau, drwy ddadansoddi data a darparu rhagolygon a chymorth â chynllunio strategol. Ond ychydig o werth sydd i gynlluniau strategol os nad yw’r sefydliad yn llwyddo i’w rhoi ar waith! Er mwyn helpu i roi strategaethau ar waith, mae’r adran Gynllunio wedi datblygu’r adnoddau isod:

a) Templed Gweithredu Strategaeth Athrofa (cynlluniau cyflawni). (Link)

b) Cynlluniau gweithredu penodol i’r brifysgol gyfan – megis Gwella’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr, Tablau Cynghrair. (Link)

c) Cymorth i sicrhau bod y Templedi Gweithredu Strategaeth a’r cynlluniau cyflawni wedi’u halinio â’n gwasanaethau proffesiynol. (Link)

Dwy brif elfen sydd i weithredu strategaethau, sef:

  • Penderfynu ar y camau y mae angen eu cymryd er mwyn rhoi’r strategaeth ar waith – er enghraifft, pa gamau penodol y bwriadwch eu cymryd i gynyddu incwm ymchwil, a sicrhau bod y camau hynny’n cael eu cyflawni mewn gwirionedd – yn yr enghraifft hon, cyflwyno 10 cais am grantiau;
  • Mesur, drwy ddefnyddio data y mae modd ei gymharu, yn fewnol ac yn allanol, i sicrhau bod y camau a gymerwyd gennych wedi cael effaith wirioneddol; yn yr achos uchod, a gafwyd incwm drwy wneud cais am y grantiau? Pa mor llwyddiannus oeddem ni o’n cymharu â phrifysgolion eraill?

Mae’r adran Gynllunio’n cynorthwyo’r gwaith mesur hwn drwy ddarparu ystod eang o Ddata Perfformiad Allweddol (link), a hynny ar lefelau’r brifysgol, yr athrofeydd a’r adrannau.

Mae’r adran Gynllunio’n cynorthwyo i roi strategaethau ar waith drwy ein partneriaid penodedig (link) .