Bod yn gefn i’ch plentyn o’r cais i’r graddio

Croeso i Rhwng Rhieni: adran ar y wefan lle anelir gwybodaeth yn benodol at rieni.

Mae rhan fwyaf y wefan wrth gwrs wedi ei hanelu at eich mab neu ferch: ond mae’r pethau y mae ar rieni angen gwybod neu gadarnhad amdanynt ar y cyfan yn wahanol i’r pethau sydd ar feddwl y myfyriwr (neu’r darpar fyfyriwr); gobeithio felly y dewch chi, fel rhiant, o hyd i’r hyn yr hoffech chi ei wybod yn y fan hon.

Efallai y bydd o gysur i wybod bod y ddau ohonom sydd wedi creu ac sy’n cynnal y tudalennau hyn yn rieni i fyfyrwyr yn Aberystwyth: un yn y Brifysgol ar hyn o bryd, ac un sydd wedi graddio a symud ymlaen yn llwyddiannus i yrfa. Rydyn ni felly yn siarad o brofiad!

Os yw eich plentyn yn ystyried o ddifrif astudio yma yn Aberystwyth ai peidio, gobeithiwn roi ychydig o gymorth trwy’r broses gyfan – o gyfnod gwneud cais trwy UCAS, a thrwy’r flwyddyn gyntaf yn y Brifysgol.

Cliciwch ar un o’r dolenni isod i ddechrau arni.