Y Ddrysfa Geisiadau

Un o’r rhesymau am baratoi’r tudalennau hyn i rieni yw ein bod yn amau eich bod chi, fel rhiant, yn gallu teimlo ar goll mewn drysfa o gymhlethdodau. Mae eich plentyn yn gwneud un o benderfyniadau pwysicaf bywyd ac un tro yn unig sydd ganddo neu ganddi. Rydych chi eisiau cynnig cymorth a chefnogaeth, ond heb fod yn sicr sut.

Mae ‘na wrth gwrs, adnoddau cenedlaethol ar lein i rieni darpar fyfyrwyr:

Tudalennau UCAS i Rieni

Tudalen yr Adran BIS

Y broblem gyda’r tudalennau hyn yw bod cymaint o wybodaeth i’w chyflwyno a’u bod yn cymryd nad ydych chi’n gwybod dim, felly mae’n rhaid palu trwy lawer o wybodaeth cyn dod o hyd i’r hyn sydd ei angen arnoch chi.

Fan hyn, rydyn ni wedi ceisio creu canllawiau cryno sy’n cynnwys y cwestiynau mwyaf cyffredin sydd gan rieni i’w holi.

Cliciwch ar un o’r dolenni isod i ddechrau arni

Dewis y Cwrs Cywir

Beth yw Biowybodeg, Dad? Sut i ddewis rhwng Amaethyddiaeth, Botaneg, Cemeg neu unrhyw gyfuniad o’r uchod, a dwsinau o bynciau na chlywsoch chi amdanyn nhw erioed.

Dewis y Prifysgol Cywir

Aberystwyth, Bryste neu Gaersws? Lleoliad neu Brifysgol? Pellter o gartref neu llety rhad?

Cais eich Plentyn

Ffurflenni, nifer fawr iawn, iawn, iawn o ffurflenni...

Datganiad Personol eich Plentyn

Beth yn y byd ydych chi’n ei roi yn y datganiad personol?

Delio â Chynigion

Cadarn, cadarn amodol, cadarn di-amod, cynigion wrth gefn? Beth yw beth? Cymorth os gwelwch yn dda!

Dyddiau Ymweld

Ni ddylid drysu rhwng Diwrnod Ymweld a Diwrnod Agored (a gynhelir cyn gwneud cais). Ar y Diwrnod Ymweld y byddwch chi’n mynd i’r afael go iawn â phethau gyda’r Adrannau Prifysgol sydd wedi cynnig lle i’ch plentyn.

Diwrnod Canlyniadau a Clirio