Dewis y Cwrs Cywir

Yr Hanfodion

Er mwyn dewis y cynllun gradd iawn i’ch plentyn, gwnewch ddefnydd o athrawon ysgol ac ymgynghorwyr gyrfaoedd, os nad ydych wedi gwneud eisoes. Mae crynhoi at ei gilydd yr hyn mae’ch plentyn yn feddwl, yr hyn rydych chi’n feddwl a’r hyn mae’r athrawon yn feddwl yn ffordd reit dda o gael darlun crwn o alluoedd eich plentyn.

Rydych chi’n chwilio am dri pheth:

  • cwrs gradd mae eich plentyn eisiau ei wneud;
  • cwrs y mae ganddo/ganddi gyfle da i gael cymwysterau digonol ar ei gyfer;
  • man lle mae’n hapus i fyw.

Yn 2010 ac am y dyfodol rhagweladwy, mae lleoedd mewn Prifysgol yn mynd i fod yn gyfyngedig: felly cyn gwneud unrhywbeth arall mae’n hanfodol edrych ar Amserlen y Ceisiadau a gwneud yn sicr fod eich plentyn yn ymwybodol ohono. Beth am argraffu copi a’i roi ar wal y gegin?

Cymwysterau

Byddwch yn edrych ar y cymwysterau yn gyntaf, am mai hyn sy’n tywys y ddwy elfen arall. Os mai tair C mae eich plentyn yn mynd i’w cael, does dim modd iddo/iddi wneud Meddygaeth yn unrhywle. Os yw’n mynd i gael 3 B ac eisiau gwneud Saesneg ni all fynd i Gaergrawnt ond fe all fynd i Lincoln , ac yn y blaen.

Felly mae angen ichi wybod beth yw’r graddfeydd y disgwylir i’ch plentyn eu cael: siaradwch â’r athrawon, gweler uchod.

System bwyntiau UCAS ar gyfer graddfeydd safon uwch yw: A = 120; B = 100; C = 80; D = 60; E = 40. Felly mae tri B yn 300 pwynt. Edrychwch ar wefan UCAS i weld am gymwysterau eraill (lefelau Uwch Atorol, Baccalaureate, BTEC ac yn y blaen).

Dewis Pwnc

Pan fydd gennych syniad go lew am y graddau tybiedig, byddwch yn edrych ar y pwnc y mae’ch plentyn yn dymuno ei astudio. Mae na bedwar cwestiwn i’w holi am y pwnc yn y Brifysgol: 

  • alla i gael fy nerbyn i astudio’r pwnc gyda fy mhynciau lefel A? 
  • a fydda i’n ei fwynhau?
  • a fydda i’n dda yn y pwnc?
  • a alla i fynd ymlaen i’m dewis gyrfa gyda’r pwnc hwn?

Dyma’r drefn y mae darpar fyfyrwyr yn tueddu i holi’r cwestiynau; mae rhieni’n tueddu roi mwy o flaenoriaeth i gwestiwn pedwar. Fel hyn fuodd hi erioed.

Ar ôl ichi ddod i farn am y graddau tybiedig a’r pwnc, bydd y mater nesaf rhywbeth yn debyg i hyn: pa brifysgolion sy’n derbyn tair B am Saesneg? Y ffordd hawsaf i weld hynny yw mynd i wefan Unistats.

Bydd Unistats yn eich helpu i baratoi rhestr fer o Brifysgolion: ac yna mae’r gwaith yn dechrau o ddifri.

Y cam nesaf fel arfer yw dewis Prifysgol. Os ydych chi eisoes yn gwybod bod eich plentyn yn ystyried Aberystwyth, cliciwch fan hyn. Neu, cliciwch 'Dewis y Brifysgol Cywir' i barhau eich taith drwy’r Ddrysfa Geisiadau.