Dewis y Prifysgol Cywir
Fe fyddwch chi a’ch plentyn yn casglu gwybodaeth am y prifysgolion ar eich rhestr fer o nifer o ffynonellau erbyn hyn: gwefannau’r Prifysgolion (wel shwmai!); gwefannau cymharu Prifysgolion; safleoedd rhwydweithio cymdeithasol; Prosbectysau; Dyddiau Agored ac yn y blaen.
Prosbectysau
Hwn yw’r dull sylfaenol o hyd o gael gwybodaeth am Brifysgol a’i chyrsiau. Dylech anfon am Brosbectws o bob Prifysgol ar eich rhestr fer. Efallai hefyd y bydd ganddynt Brosbectysau Amgen wedi eu paratoi gan fyfyrwyr presennol neu ddiweddar a llyfrynnau ar bynciau penodol. Mae’n fwyfwy cyffredin i’r Prosbectws fod ar lein. Cliciwch ar y ddolen Cyhoeddiadau i archebu Prosbectws Aberystwyth.
Dyddiau Agored
Ar eich rhestr fer, fe fydd siwr o fod tair Prifysgol o leiaf gyda seren wrth ymyl eu henwau: sef y rhai y mae eich plentyn wir yn eu hoffi – ac, os ydych chi’n lwcus, un yr ydych chi’ch hun yn meddwl y byddai’n reit dda. Dylech chi a’ch plentyn fynd i Ddiwrnod Agored yn y tair honno o leiaf.
Yma yn Aberystwyth rydyn ni’n gefnogol iawn i Ddyddiau Agored, oherwydd bod cymaint o bobl yn dwli ar y lle yn syth. Ewch i’n tudalennau Sut i wneud y mwyaf o Ddiwrnod Agored: Cymorth i Rieni a dyddiadau Dyddiau Agored Aberystwyth.
Gwefannau Prifysgolion
Bydd gwefannau Prifysgolion, sy’n fwy cynhwysfawr na’r Prosbectws, yn cynnwys fideo a chyfryngau eraill a all fod yn ddefnyddiol, a nodweddion ychwanegol … fel, Adran i Rieni er enghraifft!
Cyhoeddiadau a Gwefannau Cymharu Prifysgolion
Y safleoedd sy’n cael eu trefnu gan y prif bapurau newyddion - Times, Guardian, Independent – yw’r rhai sy’n cael eu hystyried y mwyaf dibynadwy. Gallwch fel arfer gael eu canlyniadau yn y papur newyddion ei hun, ond bydd y wefan ar gael trwy gydol y flwyddyn, felly maen nhw’n rhoi llawer o hyblygrwydd ichi. Dydyn nhw ddim yn cael yn union yr un canlyniadau, felly’r peth gorau i’w wneud yw cymharu’r tri. Dylid ystyried y gwefannau eraill sy’n cymharu prifysgolion gyda gofal. Mae rhai yn defnyddio mewnbwn myfyrwyr, rhai’n defnyddio ystadegau a gyhoeddwyd, rhai’n defnyddio’r ddeubeth. Y mwyaf crwn yw’r dystiolaeth, gorau gyd yw’r safle.
Safleoedd Rhwydweithio Cymdeithasol
Beth bynnag yw eich barn chi – neu’n barn ni – o safleoedd fel Facebook, mae darpar fyfyrwyr heddiw yn cael llawer o’u gwybodaeth a’u barn gan rwydweithiau o fyfyrwyr presennol ar y safleoedd hyn. Gweud y gwir, rydyn ni’n reit hoff ohonyn nhw yma’n Aber: gyda’n graddfa ni am fodlonrwydd myfyrwyr, fe fydden ni, on’ bydden?
Ar ôl ichi wneud eich ymchwil, bydd yn rhaid i’ch plentyn, gyda’ch cymorth chi, enwi pum Prifysgol i wneud cais iddynt.
Y cam nesaf (a’r mwyaf dychrynllyd!) yn y Ddrysfa Geisiadau yw Gwneud Cais