Delio â Chynigion

Felly mae’r cais a’r Datganiad Personol yn mynd i UCAS, erbyn y dyddiad cau addas, ac mae eich plentyn, gobeithio, yn dechrau cael llythyrau ymateb oddi wrth Brifysgolion.

Mae yna dri math o ymateb:

  • Cynnig diamod: fe rown le i chi i astudio Saesneg;
  • Cynnig amodol: os gewch chi dair B fe rown le i chi i astudio Saesneg;
  • Gwrthod: nid ydym yn cynnig lle i chi astudio Saesneg

Wrth gwrs, os yw’r cynnig diamod yn dod oddi wrth y lle y mae eich plentyn yn dymuno mynd iddo, mae hynny’n wych. Mae popeth drosodd.

Y sefyllfa fwy cyffredin, er hynny, yw y bydd eich plentyn yn enwebu dau gynnig:  un yn ddewis cadarn, ac un yn ddewis wrth gefn. Os yw Prifysgol A yn dweud ‘Fe rown le i chi i astudio Saesneg os cewch chi B a dwy C’, a Phrifysgol B yn dweud ‘Fe rown le i chi i astudio Saesneg os cewch chi dair B’: gallai eich plentyn enwebu Prifysgol B yn ddewis cadarn ac enwebu Prifysgol A yn ddewis wrth gefn – rhag ofn na fydd yn cael y graddau.

(Nid oes rhaid i’ch plentyn enwebu dewis wrth gefn; ond os yw’n gwneud hynny, ac yn cael y graddau angenrheidiol ond yn methu cael y graddau ar gyfer y dewis cadarn, mae’n rhaid cymryd y lle wrth gefn.)

Ar ôl i’ch plentyn benderfynu ar Ddewis Cadarn a Dewis Wrth Gefn, gallwch fynd i ddysgu mwy am y ddau gwrs mewn llawer mwy o ddyfnder trwy ymweld â’r ddwy Adran. Mae Dyddiau Ymweld yn debyg i ddyddiau agored y byddwch o bosib wedi bod arnynt cyn hyn, ond nid ydynt yn union yr un peth. Ar y rhain, fe ddylech fod yn gallu cael mwy o fanylion am yr union gwrs y mae eich plentyn wedi cael cynnig ar ei gyfer. Mae gan wahanol Brifysgolion enwau gwahanol arnynt: Dyddiau Ymweld Adrannol, Dyddiau Pwnc, a.y.b. Yma yn Aberystwyth, rydyn ni’n eu galw yn Ddyddiau Ymweld. Cliciwch fan hyn er mwyn gweld Dyddiadau ein Dyddiau Ymweld. Cliciwch ar y ddolen isod i ddarllen mwy am Ddyddiau Ymweld yn gyffredinol ac i gario ymlaen trwy’r Ddrysfa Geisiadau.

Dyddiau Ymweld

Ar ôl i chi ganfod yr holl wybodaeth y gallwch chi, a bod eich plentyn wedi gwneud ei ddewisiadau/dewisiadau, fe fyddwch chi’n gwybod beth yw’r targedau o ran Lefel A a byddwch chi’n cefnogi’ch plentyn drwy gyfnod anodd adolygu ac arholiadau. Unwaith eto, mae yna gydbwysedd i’w gael rhwng cael eich ysgogi gan y graddau i fynd i’r lle sy’n ddewis cadarn a bod yn agored i’r posibilrwydd na fydd hynny yn digwydd, a bod gan Brifysgolion eraill ar y rhestr lawer i’w gynnig.

Bydd y materion hyn yn dod yn glir ar Ddiwrnod y Canlyniadau a Clirio .

Cymhellion Ariannol

Mae Prifysgolion yn cynnig pob math o gymhellion ariannol i annog eich plentyn i’w dewis yn gadarn. Yn Aberystwyth, er enghraifft, y mae Bwrsariaeth Llety o £500 i fyfyrwyr sy’n ein rhoi yn ddewis cadarn erbyn 30 Mehefin; mae anogaeth arall i fyfyrwyr sy’n cael canlyniadau da iawn yn eu Lefel A; ac yn y blaen.

Fe fydd gennych chi fwy o brofiad na’ch plentyn wrth ddelio â materion fel hyn: bydd angen edrych ar delerau ac amodau'r cymhellion hyn yn ofalus.

Mae pob Prifysgol yn gwneud hyn, ond nid ni yw’r unig rai sy’n dweud mai darpariaeth Aberystwyth o Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau yw’r gorau yn y Deyrnas Unedig. Dylech hefyd edrych ar gymhellion ariannol yr Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau a gynigir gan y Prifysgolion a ddewiswyd gennych chi.