Diwrnod Canlyniadau a Clirio

Does dim angen i ni ddweud wrthych y gall hwn fod yn ddiwrnod hapus iawn neu yn ddiwrnod anodd iawn; a dydych chi ddim angen ein cyngor ni am y ffordd i edrych ar ôl eich plentyn os yw pethau’n mynd o chwith. Mae Diwrnod y Canlyniadau’n un o’r dyddiau hynny y bydd ar eich plentyn eich angen. Mae hi’n bwysig bod yno, os oes modd yn y byd. Yn ogystal â bod yn ddiwrnod hapus neu anodd, gall hefyd fod yn ddiwrnod y bydd yn rhaid gwneud rhai penderfyniadau yn reit gyflym:
  • os cafodd eich plentyn y graddau angenrheidiol, gall gymryd y lle a gynigiwyd gan y Brifysgol a ddewiswyd yn gadarn;
  • os yw eich plentyn wedi methu o drwch blewyn â chael y graddau yn y ddau le, dewis cadarn ac wrth gefn, dylai ffonio’r Brifysgol i weld beth yw’r sefyllfa.

Peidiwch ag ofni gwneud hyn: mae amcangyfrifon Prifysgolion o raddau a lleoedd yn rhai bras ar y cyfan, ac ni fyddan nhw’n eich saethu chi am geisio.

Ond, os nad oes lle yn un o’r ddwy Brifysgol a ddewisodd eich plentyn, mae na gyfle o hyd i fynd i Brifysgol trwy’r Clirio eleni, neu trwy geisio eto y flwyddyn nesaf. Efallai bod gennych chi a’ch plentyn deimladau clir am hyn; ond mae hefyd yn syniad da cymryd cyngor gan yr ysgol, er enghraifft:

Ni fydd Prifysgol Aberystwyth yn rhan o'r gyfundrefn Glirio yn 2011 ac ni all warantu y bydd ymgeiswyr yn cael eu derbyn os nad yw amodau'r cynnig yn cael eu gwireddu'n llawn. Ychydig iawn o hyblygrwydd fydd o ran derbyn myfyrwyr, hyd yn oed i'r rhai sy'n llithro dim ond un radd yn eu canlyniadau.