Dyddiau Ymweld
Mae’n amser nawr i ymweld â’r adrannau academaidd unigol ac edrych yn fanwl ar y cyrsiau a ddewiswyd gan eich plentyn.
Yn anffodus, nid oes un enw cyffredin ar y math hwn o ddiwrnod: yn Aberystwyth rydym yn eu galw’n Ddyddiau Ymweld; mae Prifysgolion eraill yn eu galw wrth enwau eraill.
Dyma ddyddiadau, a gwybodaeth arall am Ddyddiau Ymweld Aberystwyth
Byddwn bob amser yr argymell i chi ymweld â’r Adran os gallwch chi. Fe gewch chi deimlad o naws y lle; ac fe allwch holi cwestiynau hollol sylfaenol:
- Sawl awr o ddarlithoedd bob wythnos?
- Faint o asesu sydd drwy arholiadau?
- Pa ganran o gwrs Drama sydd yn cael ei dreulio ar berfformiad?
- Pa ganran o gwrs y gwyddorau sydd yn cael ei dreulio yn y labordy?
Gall atebion i’r cwestiynau hyn amrywio’n sylweddol, hyd yn oed rhwng cyrsiau sydd â’r un enw a’r un rhif UCAS.
Fe ddylech chi a’ch plentyn wneud pob ymdrech i gael atebion i’r cwestiynau hyn a sicrhau ei fod ef neu hi yn hapus â’r atebion hynny: mae bron i hanner y myfyrwyr sydd ddim yn cwblhau eu cyrsiau yn y Deyrnas Unedig yn dweud nad oedd y cwrs yr hyn yr oedden nhw’n ei ddisgwyl.
Ar ôl i chi ganfod yr holl wybodaeth y gallwch chi, a bod eich plentyn wedi gwneud ei ddewisiadau/dewisiadau, fe fyddwch chi’n gwybod beth yw’r targedau o ran Lefel A a byddwch chi’n cefnogi’ch plentyn drwy gyfnod anodd adolygu ac arholiadau. Unwaith eto, mae yna gydbwysedd i’w gael rhwng cael eich ysgogi gan y graddau i fynd i’r lle sy’n ddewis cadarn a bod yn agored i’r posibilrwydd na fydd hynny yn digwydd, a bod gan Brifysgolion eraill ar y rhestr lawer i’w gynnig. Bydd y materion hyn yn dod yn glir ar Ddiwrnod y Canlyniadau