Gwneud Cais UCAS

Gwneud y cais UCAS ei hun yw’r eiliad fwyaf dychrynllyd mae’n debyg – mae eich plentyn yn rhoi pin ar bapur ac yn ymrwymo i’r man neu fannau lle gallai dreulio’r tair blynedd nesaf.

Mae’r ffactorau sy’n dylanwadu ar ddewis Prifysgol yn amrywiol iawn; ac fe allant yn aml fod yn argraffiadol, mewn oed lle gall eich plentyn fod yn hawdd dylanwadu arno o hyd. Ar y cyfan mae disgwyl ichi fod yn fwy anodd dylanwadu arnoch, ond dydi hyn ddim bob amser yn dilyn. Os ydych chi’n cael cyfle i eistedd lawr gyda’ch gilydd a thrafod pethau’n fanwl, gallai fod yn ddefnyddiol cael darn o bapur i nodi pwyntiau cadarnhaol a negyddol am bob un o’r dewisiadau. Mae manylion sut i wneud hyn ar wefan UCAS, a dyma fydd eich Beibl am y rhan hon o’r broses. Dylai eich plentyn fod yn cael cymorth yn yr ysgol o hyd hefyd. Ond darllenwch ymlaen er mwyn cael y darlun cyffredinol. 

Yn y tudalennau hyn, rydyn ni’n ceisio osgoi rhoi unrhyw gyngor i chi am y ffordd i ymddwyn fel rhiant. Ond yn y pen draw, o ran y berthynas rhyngoch, nid yw’r penderfyniad y mae’ch plentyn yn ei wneud ar hyn o bryd yn wahanol i unrhyw benderfyniad bywyd y bydd yn ei wneud. Os ydych chi’n cytuno â’ch plentyn ai peidio, mae angen i’ch plentyn wybod y byddwch chi’n gefnogol i ba benderfyniad bynnag y mae ef neu hi yn ei wneud.

Yr arferiad yw i’ch plentyn ddewis pump o gyrsiau. Mae hi bron yn sicr y bydd un neu ddau o gyrsiau y bydd yn eu ffafrio’n fwy na’r lleill.

Ond, mae’n bwysig iawn ar y cyfnod hwn i chi gofio mai dewisiadau dros dro yw’r pump: dydych chi ddim yn gwybod pa gynigion a gaiff eich plentyn ac mae ‘na ragor i chi ei ddysgu am y pum cwrs. Ni ddylech chi na’ch plentyn roi’ch bryd ar un dewis. Gall hyn fod yn reit ddefnyddiol, oherwydd efallai nad y cwrs a ddewisodd eich plentyn yw’r cwrs y byddech chi wedi ei ddewis, a gallech fod yn falch o gael ychydig o le i symud. Cadwch mewn cof nad chi sy’n mynd i astudio’r cwrs. 

Rhan o’r cais yw Datganiad Personol eich plentyn. Nid yw darpar fyfyrwyr yn sicr bob amser o bwysigrwydd y Datganiad Personol: yn wir bu peth drafod yn y wasg yn ddiweddar yn awgrymu nad yw Prifysgolion yn ei gymryd o ddifri. Nid yw hynny’n wir yn Aberystwyth: nac yn unrhywle arall mae’n debyg. Yn aml ni fydd y Datganiad Personol yn cael ei ddefnyddio gan y Brifysgol: ond os yw’n cael ei ddefnyddio, mae datganiad gwael yn mynd i wneud drwg i’ch cyfle. Felly cliciwch ar y ddolen nesaf er mwyn darllen am y Datganiad Personol ac i symud ymlaen drwy’r Ddrysfa geisiadau.

Datganiad Personol UCAS