Datganiad Personol eich Plentyn

Rydyn ni’n gwybod bod rhieni a myfyrwyr yn treulio llawer o amser yn gweithio ar Ddatganiad Personol UCAS. Fe ofynnom i dri Thiwtor Derbyn Myfyrwyr yn Aberystwyth, o’r adrannau Saesneg a Llenydda, Gwleidyddiaeth Ryngwladol a Daearyddiaeth, i roi eu barn am yr hyn y maen nhw’n credu sy’n bwysig yn natganiad personol eich plentyn ar y ffurflen UCAS. Rhain oedd y pwyntiau allweddol a ddaeth i’r amlwg: 

  • maen nhw i gyd yn cymryd Datganiad Personol UCAS o ddifri: mae’n werth treulio amser yn ei baratoi;
  • dywedodd pob un y gallai Datganiad Personol UCAS wneud gwahaniaeth allweddol mewn achosion ymylol;
  • Maen nhw i gyd eisiau i’r datganiad personol fod yn un personol iawn – hynny yw dydyn nhw ddim yn edrych am unrhywbeth safonol a sglein arno wedi ei ysgrifennu i fformiwla: maen nhw eisiau gwybod am yr unigolyn;
  • y ffactor pwysicaf yw bod angen i’ch plentyn ddweud pam y dewisodd y cwrs hwn – ac i wneud hynny gyda manylder sy’n argyhoeddi: 
    • nid dim ond ‘Rwy’n hoffi darllen’; ond, ‘Fe wnes i fwynhau darllen White Teeth gan Zadie Smith eleni’; 
    • nid dim ond ‘Mae gen i ddiddordeb mewn Gwleidddiaeth Ryngwladol’; ond, ‘Rydw i’n edrych ymlaen i astudio lleihad mewn arfau yn y cyfnod Obama, ôl-Bush’;
    • nid dim ond ‘Rydw i wastad wedi mwynhau Daearyddiaeth’; ond, ‘Astudiais rewlifeg yn rhan o’r cwrs lefel A. Mae arbenigedd Aberystwyth yn y maes hwn yn un o’r rhesymau i mi wneud cais.’
  • yr ail ffactor pwysig yw datganiad o ddiddordebau all-gyrsiol eich plentyn – yn union am ei fod yn cyfrannu at ddarlun crwn o’r unigolyn. Unwaith eto, rhaid iddo argyhoeddi: yr hyn sy’n argyhoeddi fwyaf ... yw’r gwir!

Yn olaf, gall pob un o’r uchod gael eu difetha’n llwyr gan gyflwyniad gwael, ac yn enwedig gan gamgymeriadau gramadeg neu atalnodi.

Ar ôl i chi gwblhau’r Ffurflen Gais, ynghyd â’r Datganiad Personol, byddwch yn eu hanfon i ffwrdd erbyn y dyddiad cau ac yn aros am y cynigion oddi wrth y prifysgolion a ddewisoch. Saib bach, ac yna rydych chi’n wynebu Delio â Chynigion