Ymgartrefu yn y Brifysgol
Ar y dechrau, mae bywyd Prifysgol yn ddalen wag gyffrous: mae’n debyg na fu gan eich plentyn erioed gymaint o amser di-strwythur; na chafodd erioed le byw cwbl annibynnol; na chafodd erioed gymaint o arian i’w wario: ac wrth gwrs mae’n wych; ond mae na flaenoriaethau cynnar sy’n hanfodol a pheryglon cynnar y gallwch helpu eich plentyn i’w hosgoi.Ond cyn symud ymlaen at y rheini, mae’n bwysig ailadrodd dau bwynt allweddol:
- mae eich ‘plentyn’ yn oedolyn nawr – mae mynd i Brifysgol a dod i ben â bywyd yn annibynnol yn rhan o’r broses o aeddfedu’n llwyr;
- fel y mwyafrif llethol o fyfyrwyr, mae’n debyg y gwnaiff ef neu hi ddod i ben yn iawn – ac mae hyn yn fwy gwir am Aberystwyth na llawer o leoedd.
Wedi dweud hyn, mae na baratoadau a gallwch chi eu gwneud yn y dyddiau a’r wythnosau olaf i baratoi eich plentyn am Brifysgol.

