Camgymeriadau Cynnar
Dyma rai o’r peryglon cynnar mwyaf cyffredin. O wybod beth ydyn nhw, a phryd y maen nhw’n dod, efallai y gallwch fod yn ymwybodol o rai o’r problemau yn gynnar.
Hiraeth
Mae hiraeth fel arfer yn digwydd yn y dyddiau cyntaf un ac fel arfer nid yw’n para’n hirach, ond mae’n gallu bod yn annifyr iawn am y cyfnod hwnnw, ac mae myfyrwyr yn profi tristwch nad ydyn nhw wedi ei brofi o’r blaen. Yn ffodus, yn y ffurf eithafol hon, mae’n brin iawn. Y mae’r rhan fwyaf o rieni yn annog eu plant i weithio drwyddo ac mae hyn siŵr o fod yn gywir. Dyma un achos lle byddem yn eich cynghori i gysylltu â’r Brifysgol yn gynnar: gallwn anfon pobl i wneud yn siŵr bod eich plentyn yn dod allan o’i ystafell ac yn cymdeithasu.
Mae ychydig – ychydig iawn iawn – o fyfyrwyr nad ydyn nhw’n dod dros yr hiraeth ac mewn achos o’r fath does dim byd i’w wneud: mae’n rhaid iddynt adael. Ond, os yw’n bosib, un peth da yw ei bod fel arfer yn ddigon cynnar i roi tro ar rywbeth arall – er enghraifft Prifysgol yn agosach i’w cartref.
Aseiniadau Cynnar
Nid yw aseiniadau’r flwyddyn gyntaf fel arfer yn cyfrif tuag at radd eich plentyn; ond mae’r rhai cynnar yn un ffordd o ddod â phroblemau cudd i’r wyneb - yn wir, dyma un o’u dibenion. Maen nhw’n rhoi cyfle i diwtoriaid weld a yw arddull gwaith ar lefel Prifysgol yn tycio, ac os yw myfyrwyr yn mynd i’r afael â’r gwaith hwnnw o ran cymhwysedd academaidd a threfn bersonol.
Os yw’r cydbwysedd gwaith/bywyd yn anghywir - os nad yw myfyrwyr wedi bod yn talu digon o sylw i’w waith neu os yw’n cael y gwaith yn anodd a’i fod yn pryderu - dyma le bydd yr arwyddion cynnar yn dangos. Ceisiwch gael gwybod sut aeth aseiniadau cynnar eich plentyn: ac os yw ef neu hi yn dangos arwyddion o bryder gormodol, efallai byddech yn dymuno cysylltu â’r Gwasanaeth Cymorth i Fyfyrwyr
Y cynllun gradd anghywir
Os yw eich plentyn yn teimlo ei bod/fod wedi dewis y pwnc anghywir - neu’r cyfuniad anghywir - ac eisiau newid i gynllun gradd gwahanol, bydd y Brifysgol yn ymateb mor hyblyg ac y gall. O fewn rheswm, y cynharaf i gyd y gwneir y cais i newid, yr hawsaf byd yw newid y cynllun. Dylai myfyrwyr roi cyfle i’r cynllun a ddewiswyd ganddynt, ond mae’n llawer haws newid yn y flwyddyn gyntaf, er enghraifft, nac ym mlwyddyn dau neu tri - yn enwedig os yw’r myfyriwr yn gallu dangos ei fod/ei bod yn gymwys i’r cynllun newydd, naill ai drwy Lefel A neu drwy astudiaethau a wnaeth eisoes yn y Brifysgol.
Ni allwn sicrhau bod newid o’r fath yn bosib, ond mae’r strwythur modiwlar sydd gennym yn gallu hyrwyddo newid mewn nifer o amgylchiadau. Mae’n sicr yn werth ystyried hyn os yw eich mab neu ferch yn wir yn anhapus gyda’r dewis o gynllun gradd.
Llety
Y mae trafferthion llety yn dod i ddau gategori: problemau â’r adnoddau, a phroblemau â chyd-breswylwyr. Mae eich plentyn yn talu miloedd o bunnoedd am lety. Y mae ganddo ef neu hi hawl i safon llety sy’n gymesur â’r pris; a chael heddwch i’w fwynhau.
Os oes problemau yn codi gyda myfyrwyr eraill, y cyngor gorau i’w roi i rieni yw cadw draw: rhowch gyngor i’ch plant ar bob cyfrif, ond cofiwch mai dyma’r math o frwydr y mae ef neu hi yn dysgu i ymladd. Ond, os yw’n dod i’r fan lle credwch ei fod yn effeithio yn ddifrifol am les eich plentyn, neu os yw ef neu hi yn cael eu trin yn afresymol, dylech gysylltu â’r Gwasanaeth Cymorth i Fyfyrwyr.
Alcohol
Os gaf i gynnwys nodyn personol, bûm yn gweithio am wyth mlynedd yn warden i fyfyrwyr preswyl, ac yn ystod y cyfnod hwnnw fe welais bob math o sefyllfa y gallech ddychmygu - a rhai na fyddech yn dymuno’u dychmygu. Mae’r ddau gategori sydd uchaf ar y rhestr isod yn digwydd i leiafrif bach iawn. Serch hynny:
- Ymhob achos lle dioddefodd myfyriwr niwed difrifol, roedd alcohol yn ffactor;
- Ymron pob achos lle tynnodd myfyriwr allan o gwrs, roedd alcohol yn ffactor;
- Ymhob achos lle ceir trafferth mewn neuadd breswyl, roedd alcohol yn ffactor.
Y mae wrth gwrs yn broblem ddiwylliannol ehangach: cyn belled ag y gallwn ddweud, gall y broblem hon fod yn llai o ychydig yn Aberystwyth na mewn rhai mannau - rydyn ni yn bendant fel petaem yn cael llai o gwynion gan bobl y dref na rhai Prifysgolion - ond mae’n fater na all un ohonom fod yn hunanfodlon yn ei gylch. Cadwch lygad ar agor am arwyddion o or-yfed alcohol.