Blaenoriaethau Cynnar
Cydbwysedd gwaith/bywyd
Os yw myfyrwyr yn gadael Prifysgol yn gynnar, anghydbwysedd gwaith/bywyd mae’n debyg yw’r ffactor tyngedfennol mewn naw achos o ddeg. Nid yn unig y mae’n fater o gydbwysedd astudio/bywyd. Y dyddiau hyn, mae’r rhan fwyaf o fyfyrwyr yn gwneud peth gwaith cyflogedig ar yr un pryd ac mae’n rhaid ystyried hyn hefyd. Y camgymeriad clasurol yw treulio gormod o amser yn cymdeithasu (hynny yw, yfed, gweler isod); ond mae yna fyfyrwyr sydd hefyd yn cael eu llethu gan bryder am eu gwaith. Y mae hon yn sgwrs hollol sylfaenol i gael gyda’ch plentyn.
Awgrymiadau ar gyfer cadw cydbwysedd gwaith/bywyd:
- Gwaith gyntaf, chwarae wedyn – fe gewch chi amser gwell;
- Edrychwch am ffyrdd eraill o gydbwyso’ch cyllideb yn hytrach na chymryd swydd rhan amser;
- Trefnwch fod eich amserlen yn cynnwys ymarfer corff - mae diffyg ymarfer corff yn effeithio’n uniongyrchol ar eich ymdeimlad o les;
- Pan fyddwch chi yn y dref, peidiwch â mynd dros ben llestri.
Creu Cyllideb
Mae problemau ariannol yn dilyn anghydbwysedd gwaith/bywyd fel mae nos yn dilyn y dydd. Mae siec y benthyciad yn cyrraedd ac mae siŵr o fod yn gyfanswm o arian nad yw eich plentyn erioed wedi cael gafael arno o’r blaen; ac mae’n edrych yn ddi-ben-draw. Y camgymeriad clasurol yw ei wario yn yr ychydig wythnosau cyntaf; ond mae yna dri mis o dymor o’u blaen ac mae’r cyfanswm pedwar ffigwr yn y banc yn gallu mynd o ddu i goch mewn chwinciad.
Fe fyddwch mae’n debyg wedi bod yn ceisio dysgu hyn drwy flynyddoedd yr arddegau: ond y mae hon yn sefyllfa gwbl newydd. Rhaid wynebu ffeithiau ac rydych chi yn debygol o fod yn cyfrannu at gyllid y fenter hon i raddau. Felly, er eich lles eich hun a’u lles hwy, ceisiwch gynorthwyo eich plentyn i gynllunio ymlaen llaw.
Awgrymiadau ar gyfer creu cyllideb:
- Gwnewch gyllideb ysgrifenedig a chadw cofnod o wariant;
- Os ydych chi’n ystyried cael cerdyn credyd, peidiwch;
- Arhoswch gyda darparwr presennol eich ffôn symudol;
- Os ydych chi’n meddwl am ddod â char i’r Brifysgol, peidiwch;
- Edrychwch am ffyrdd eraill o gydbwyso’ch cyllideb yn hytrach na chymryd swydd ran-amser.
Y ddau olaf yw’r rhai mwyaf dadleuol mae’n debyg: ond mae Gwasanaethau Cymorth mewn Prifysgolion yn cwrdd yn rheolaidd â myfyrwyr sydd yn teithio i’w swydd ran amser yn y car, i ennill digon o arian … i dalu am y car. Beth yw’r pwynt?
Manylion Cyswllt
Gwnewch yn siŵr bod gennych ffordd ddibynadwy o gadw cyswllt â’ch plentyn yn y Brifysgol.
- Gwnewch yn siŵr bod gennych ddwy ffordd o leiaf o gysylltu: peidiwch â dibynnu ar y ffôn symudol.
- Y mae hyn efallai yn swnio’n ormodol; ond yr adeg pan fyddwch chi wir angen cadw cyswllt yw’r amser y mae bywyd eich plentyn yn mynd ar chwâl - a dyna'r union amser y byddan nhw’n esgeulus gyda’r ffôn - neu ‘beth bynnag’...
- Gwnewch yn siŵr bod gan eich plentyn fanylion cyswllt dibynadwy ar eich cyfer chi bob amser.
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod pwy i gysylltu â nhw yn y Brifysgol.
- Weithiau, mi fydd eich cyswllt - neu ddiffyg cyswllt - â’ch plentyn yn peri i chi pryderu. Os ydych chi’n pryderu yn go iawn, dylech ffonio’r swyddfa Cymorth i Fyfyrwyr
Dim ond os yw popeth arall wedi methu y dylech chi gysylltu â’r Brifysgol. Mae hyn yr un mor wir i ni. Yn 18 oed mae gan eich plentyn hawliau oedolyn, sy’n cynnwys yr hawl i gyfrinachedd; felly dim ond mewn amgylchiadau eithafol y byddem yn cysylltu â chi.
Y tu hwnt i hynny, y mae gwirioneddau cyffredin bywyd rhiant yn dal yn berthnasol: yr unig beth y gallwch chi wneud yw cadw pob dull cysylltu ar agor a gobeithio y byddant yn eu defnyddio os oes angen.