Pam Aberystwyth?

Does ‘nunlle, yn llythrennol, yn debyg i Aberystwyth: dim un Prifysgol sy’n cynnig y cyfuniad unigryw o draddodiad academaidd hir; lleoliad eithriadol hardd, wrth droed y mynydd ac ar lan y môr; canolfan genedlaethol a rhanbarthol o bwys yn ddiwylliannol a masnachol; campws sydd nesaf at un o chwe llyfrgell hawlfraint yn unig ym Mhrydain, canolfan i’r celfyddydau a chanddi statws Disglair; trysorfa unigryw i ddiwylliant a threftadaeth Cymru.

Mae hyn i gyd yn wir: ond yr hyn fydd yn bwysig i chi fel rhiant yn syml yw hyn:

... am fod myfyrwyr yn hapus yma!

Cliciwch ar un o’r dolenni isod i weld pam ...

Safonau Academaidd

Y mae Aberystwyth yn Brifysgol annibynnol, sy’n gyfrifol am ei safonau academaidd ei hun. Yn hyn o beth, ac yn draddodiadol, hi a arweiniodd y ffordd ymhlith prifysgolion Cymru. .

Tref Myfyrwyr fwyaf poblogaidd y Deyrnas Unedigref

Yn ôl yr arolygon diweddaraf o fodlonrwydd myfyrwyr, Aberystwyth yw tref prifysgol fwyaf poblogaidd y Deyrnas Unedig.

Materion Arrianol

Yn Aberystwyth ceir cyfuniad o ystod eithriadol dda o fwrsariaethau a chostau byw isel.

Byw Mewn Llety Aberystwyth

Mae yma lety rhagorol yn Aberystwyth: a sicrwydd llety yn y flwyddyn gyntaf i fyfyrwyr y Deyrnas Unedig sy’n gwneud cais mewn pryd